Culfor Gibraltar

Oddi ar Wicipedia
Culfor Gibraltar
Mathculfor Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGibraltar Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaY Môr Canoldir, Cefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
GwladSbaen, Gibraltar Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.9717°N 5.4858°W Edit this on Wikidata
Hyd59 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Culfor sy'n cysylltu Môr y Canoldir â Môr Iwerydd, ac yn gwahanu Sbaen a Moroco yw Culfor Gibraltar (Arabeg: مضيق جبل طارق, Sbaeneg: Estrecho de Gibraltar, Saesneg: Strait of Gibraltar). Daw'r enw o benrhyn Gibraltar, sydd yn ei dro yn deillio o'r Arabeg Jebel Tariq (جبل طارق), sy'n golygu "mynydd Tariq". "Tarig" yw'r cadfridog Berber Tariq ibn-Ziyad a oedd yn arwain y fyddin Islamaidd a goncrodd ran helaeth o Sbaen.

Mae'r culfor yn 8 mile (13 km) o led yn y man culaf, a'i ddyfnder yn amrywio rhwng 300 a 900 medr. Defnyddiai'r awduron clasurol yr enw "Pileri Heracles" am y creigiau bob ochr iddo, Gibraltar ar un ochr ac un o nifer o greigiau ar ochr Moroco. Ym mis Rhagfyr 2003 cytunodd Sbaen a Moroco i edrych i mewn i'r posibilrwydd o adeiladu twnnel rheilffordd o dan y culfor