Andalucía
| Math | cymunedau ymreolaethol Sbaen |
|---|---|
| Prifddinas | Sevilla |
| Poblogaeth | 8,619,616 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | La bandera blanca y verde |
| Pennaeth llywodraeth | Juan Manuel Moreno |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Buenos Aires |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 87,268 km² |
| Uwch y môr | 600 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Y Môr Canoldir |
| Yn ffinio gyda | Extremadura, Castilla-La Mancha, Murcia (cymuned ymreolaethol), Gibraltar |
| Cyfesurynnau | 37.405°N 5.9875°W |
| Cod post | AN |
| ES-AN | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Consejo de Gobierno de la Junta de Andalucía |
| Corff deddfwriaethol | Senedd Andalucía |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywydd Cynulliad Andalucía |
| Pennaeth y Llywodraeth | Juan Manuel Moreno |
![]() | |
Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, a'r mwyaf ohonynt o ran poblogaeth, yw Andalucía (hefyd Andalwsia). Fe'i lleolir yn ne'r wlad, yn ffinio â Phortiwgal i'r gorllewin. Saif y cymunedau ymreolaethol Extremadura, Castilla-La Mancha a Murcia i'r gogledd, Môr y Canoldir i'r de-ddwyrain a Chefnfor yr Iwerydd i'r de-orllewin.

Daw'r gair "Andalucía" o'r Arabeg Al-Andalus. Bu'r rhan yma o Sbaen dan reolaeth y Mwslemiaid am gyfnod hirach nag unrhyw ran arall, o 711 hyd 1492. Mae'n cynnwys mynyddoedd uchaf Sbaen yn y Sierra Nevada, yn enwedig Mulhacén (3478 m.) a Veleta (3392 m.). Yr afon bwysicaf yw'r Guadalquivir.
Prif ddinasoedd Andalucía yw Sevilla, Málaga, Cádiz, Almería, Córdoba, Jaén, Huelva a Granada. Mae'n enwog am ddawns y flamenco ac am bensaernïaeth wych o'r cyfnod Islamaidd, yn enwedig yr Alhambra byd-enwog yn Granada.
Taleithiau
[golygu | golygu cod]Mae gan Andalucía wyth talaith (provincias). Sefydlwyd y taleithiau gan Javier de Burgos yn 1833. Enwir pob un o’r taleithiau hyn ar ôl ei phrifddinas.
| Talaith | Prifddinas | Poblogaeth (2021)[1] |
Bwrdeistrefi |
|---|---|---|---|
| Almería | Almería | 730,430 | 102 |
| Cádiz | Cádiz | 1,249,873 | 44 |
| Córdoba | Córdoba | 777,622 | 75 |
| Granada | Granada | 925,046 | 170 |
| Huelva | Huelva | 527,254 | 79 |
| Jaén | Jaén | 627,568 | 97 |
| Málaga | Málaga | 1,696,955 | 102 |
| Sevilla | Sevilla | 1,950,056 | 105 |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 21 Medi 2023
Andalucía ·
Aragón ·
Asturias ·
Cantabria ·
Castilla-La Mancha ·
Castilla y León ·
Catalwnia ·
Extremadura ·
Galisia ·
Gwlad y Basg ·
Madrid ·
Murcia ·
Navarra ·
La Rioja ·
Valenciana ·
Ynysoedd Balearig ·
Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta ·
Melilla
