Granada
| Math | bwrdeistref Sbaen |
|---|---|
| Prifddinas | Granada |
| Poblogaeth | 233,975 |
| Pennaeth llywodraeth | Marifrán Carazo |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Freiburg im Breisgau, Aix-en-Provence |
| Nawddsant | Caecilius of Elvira, Q60968240 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Granada notarial district, Vega de Granada |
| Sir | Talaith Granada |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 88.02 km² |
| Uwch y môr | 693 metr |
| Gerllaw | Darro |
| Yn ffinio gyda | Armilla, Pulianas, Maracena, Atarfe, Santa Fe, Vegas del Genil, Churriana de la Vega, Ogíjares, La Zubia, Cájar, Huétor Vega, Cenes de la Vega, Pinos Genil, Dúdar, Beas de Granada, Huétor Santillán, Víznar, Jun |
| Cyfesurynnau | 37.175°N 3.6°W |
| Cod post | 18001–18015, 18182, 18190 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Granada |
| Pennaeth y Llywodraeth | Marifrán Carazo |
![]() | |

Dinas yng nghymuned ymreolaethol Andalucía, Sbaen, yw Granada, sy'n brifddinas talaith Granada. Saif wrth droed mynyddoedd y Sierra Nevada, 738 medr uwch lefel y môr. Yn 2005 roedd poblogaeth y ddinas yn 236,982.
Adeilad enwocaf Granada yw'r Alhambra, caer a phalas o'r cyfnod Islamaidd. Oherwydd yr Alhambra a nifer o atyniadau eraill, er enghraifft ar fryn yr Albaicín, mae Granada yn gyrchfan bwysig i dwristiaid. Mae Prifysgol Granada hefyd yn adnabyddus.
Roedd sefydliad yma yn y cyfnod Celtiberaidd, yna bu dinas Roegaidd yma dan yr enw Elibyrge neu Elybirge. Dan y Rhufeiniaid, gelwid hi yn "Illiberis". Cipiwyd y ddinas gan fyddin Islamaidd dan Tariq ibn-Ziyad yn 711. Yn 1013 daeth Granada yn deyrnas annibynnol dan swltan, ac yn 1228 daeth brenhinllin y Nasrid i rym yma. Hwy a adeiladodd yr Alhambra ac adeiladau eraill.
Ar 2 Ionawr 1492, ildiodd y teyrn mwslimaidd olaf, Muhammad XII, a elwid yn Boabdil gan y Cristionogion, y ddinas i fyddin Ferdinand ac Isabella, Los Reyes Católicos ("Y Teyrnoedd Catholig").
Mae'r Alhambra, y Generalife a'r Albaicín yn Safle Treftadaeth y Byd.
Pobl enwog o Granada
[golygu | golygu cod]- Leo Africanus (c.1494-c.1554?), awdur
- Federico García Lorca (1898–1936), bardd a dramodydd
