Safle Treftadaeth y Byd

Oddi ar Wicipedia
Logo Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO

Safle Treftadaeth y Byd yw safle penodol megis coed, cadwyn mynyddoedd, llyn, adeilad, grŵp o adeiladau, tref neu ddinas sydd wedi'i enwebu a'i gadarnhau ar restr a gedwir gan Raglen Treftadaeth y Byd. Cedwir y rhestr hon gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO.

Nod y rhaglen yw rhestri, enwi a diogelu safleoedd o bwysigrwydd diwylliannol neu naturol arbennig i dreftadaeth ddynol gyffredin. O dan amodau arbennig, gall safleoedd ar y rhestr dderbyn arian gan Gronfa Treftadaeth y Byd. Sefydlwyd y rhaglen ar 16 Tachwedd 1972, ac, erbyn mis Gorffennaf 2017, roedd 1,073 o safleoedd ar y rhestr: 832 o safleodd diwylliannol, 206 o safleodd naturiol and 35 cymysg, yn 167 o wladwriaethau. Roedd gan yr Eidal y nifer fwyaf o Safleoedd Treftadaeth, gyda 53, dilynwyd gan Tsieina (52), Sbaen (46), Ffrainc (43), yr Almaen (42), India (36) Mecsico (34) a'r Deyrnas Unedig a'i Thiriogaethau Tramor (31).

Mae pedair Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru: Tirlun Diwydiannol Blaenafon, Cestyll a muriau trefi Harlech, Biwmares, Caernarfon a Chonwy, Dyfrbont Pont-Cysyllte a Tirwedd Llechi y gogledd-orllewin.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Safle Treftadaeth Byd UNESCO i ardal llechi Gwynedd , BBC Cymru Fyw, 28 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd ar 29 Gorffennaf 2021.