Biwmares

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Biwmares
Sea front terrace at Beaumaris - geograph.org.uk - 1213630.jpg
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Niwbwrch Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,938 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.263°N 4.094°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000003 Edit this on Wikidata
Cod OS SH6076 Edit this on Wikidata
Cod post LL58 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au
AS/au

Mae Biwmares (Saesneg: Beaumaris) yn dref hanesyddol yn ne-ddwyrain Ynys Môn, ar lan Afon Menai. Enw Ffrangeg Normanaidd sydd i'r dref a'i ystyr yw Morfa Deg.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,892 o bobl yn byw yn y gymuned hon a 748 (sef 39.5%) o'r boblogaeth dros dair oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg.[1] Roedd 448 yn ddi-waith, sef 45.7% o'r rhai o fewn yr oedran priodol.

Yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfuniad o ddau air Ffrangeg Normanaidd yw'r enw a roddwyd ar y dref newydd gan y Saeson, sef Beaumarais (beau 'teg' + marais 'morfa neu gorsdir'). Yr enghraifft gynharaf o'r enw Cymraeg am y dref yw 'Y Bew Mareis', a gofnodir ym Mrut y Tywysogion ar ddiwedd y 13g.[2] Mae iethegwyr yn cydnabod fod hyn yn cynrychioli'r ynganiad Ffrangeg Normanaidd gwreiddiol ('Bô-maré' fyddai'r ynganiad Ffrangeg heddiw). Roedd beirdd yr Oesoedd Canol, fel Lewys Môn a Tudur Aled yn aml yn defnyddio'r ffurf 'Duwmares'.[3] Erbyn ganol y 18g cawn lenorion fel Lewis Morris yn defnyddio'r ffurfiau 'Bewmares' - ceir enghraifft o 'Bewmares' mewn cywydd i Thomas Bulkeley a ysgrifennodd yn 1753[4] - a 'Biwmares'. Erbyn heddiw mae Biwmares wedi'i hen sefydlu fel y sillafiad Cymraeg swyddogol. Ar lafar yn lleol ceir y ffurf 'Bliwmaras' neu 'Y Bliw'.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Fair, Biwmares, lle ail-gladdwyd y Dywysoges Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)
Môn ac Arfon: y dref, afon Menai ac ar y dde, Penmaenmawr

Sefydlwyd Biwmares ar safle hen dref Gymreig Llan-faes. Wedi concwest 1282-83 gan Edward I o Loegr, bu cychwyn nifer o brosiectau gan y brenin i roi diwedd ar annibyniaeth y Cymry. Un o'r prosiectau hyn oedd adeiladu Castell Biwmares, a adeiladwyd yn 1295, a'r dref ei hun. Nid oedd yn gastell hawdd i'w gipio gan fod modd derbyn bwyd ac arfau o'r môr. Mae'n enghraifft o gastell consentrig, sef o gastell o fewn castell.

Mae arch garreg Y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, â'i delw arni i'w gweld yn eglwys Biwmares. Cafodd ei symud yno o fynachlog Llan-faes lle y'i claddwyd.

Symudwyd trigolion Llan-faes i bentref newydd yng ngorllewin yr ynys yn y "New Borough" a ddaeth i gael ei alw yn Niwbwrch yn Gymraeg. Am gyfnod wedi hyn, Saeson yn unig oedd yn cael trigo tu fewn i waliau'r dref. Gydag adeiladu'r castell daeth Biwmares i fod yn brif dref y Sir Fôn newydd a sefydlwyd yn sgîl y goresgyniad. Yn yr 17g agorwyd y Llys Sirol yno, a bu mewn defnydd hyd y 1970au.

Yn 1829 adeiladwyd carchar wedi ei gynllunio gan Joseph Hansom ym Miwmares. Yn ôl safonau'r dydd roedd y carchar hwn yn beth gyfforddus. Roedd toiled a golau nwy ym mhob cell, sydd yn hynod o fodern, gan ystyried fod carcharorion Strangeways ym Manceinion yn dal i ddefnyddio bwced yn y 1970au.

Dienyddwyd dau garcharor yn y carchar rhwng 1829 a'r 1870au pan gaewyd y carchar a'i newid i fod yn orsaf heddlu. Ym 1830 dienyddwyd William Owen am ladd ei wraig, ac yn ôl yr hanes aeth i'r crogbren dan gicio a strancio ac fe'i claddwyd y tu fewn i furiau'r carchar. Ni ddienyddwyd neb wedyn tan 1862 pan ddienyddwyd Richard Rowlands (Dic Rolant) am ladd ei dad yng nghyfraith. Bu cryn ddadlau am yr achos ac mae nifer o bobl hyd heddiw yn credu fod Rolant yn ddi-euog. Mae chwedl amdano sy'n dweud ei fod wedi addo ar y crogbren y byddai cloc yr eglwys, dros y ffordd i'r wal a oedd yn dal y crogbren, yn dweud yr amser anghywir.

Biwmares heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oes swyddogaeth weinyddol mor bwysig gan Fiwmares erbyn hyn - mae cyngor yr ynys wedi symud i Langefni. Er hyn, mae Biwmares yn dal i fod yn un o brif benteithiau twristiaeth Môn, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac yn gyrchfan ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn.

Yn Eglwys Fair ym Miwmares y mae beddrod y Dywysoges Siwan, ferch y brenin John o Loegr a gwraig Llywelyn Fawr, i'w weld. Cafodd ei symud yno o adfeilion mynachlog Llan-faes.

Mae yna nifer o dai bwyta o safon, tafarndai clyd ac ambell i siop sy'n gwerthu gemwaith a hen bethau. Mae'r ysgol yn un o rai mwyaf y sir.

Mae'r A545 yn cysylltu'r dref â Phorthaethwy.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Biwmares (pob oed) (1,938)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Biwmares) (748)
  
39.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Biwmares) (1105)
  
57%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Biwmares) (448)
  
45.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Lewis Roberts (1596-1640), masnachwr Cymreig ac awdur llyfrau ar economeg.
  • Richard Llwyd (1752-1835), "The Bard of Snowdon", bardd a hynafiaethydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyfrifiad 2011; gwefan Saesneg "Ystadegau Cenedlaethol y DU". Adalwyd 28 Ebrill 2013.
  2. Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon (Peniarth MS. 20) (Caerdydd, 1941), tud. 228b.
  3. Gweler er enghraifft: Eurys Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn (Caerdydd, 1975), I.17.
  4. Diddanwch Teuluaidd (Llundain, 1763), tud. 244.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]