Malltraeth (pentref)
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1931°N 4.3877°W ![]() |
Cod OS | SH408688 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Bodorgan, Ynys Môn, yw Malltraeth[1][2] ( ynganiad ). Saif ar arfordir gorllewinol yr ynys ar lan ogleddol aber Afon Cefni. Er ei fod yn bentref cymharol fychan mae yno ddwy dafarn, y Royal Oak a'r Joiners, a swyddfa'r post sydd hefyd yn siop. Hefyd mae yna siop sglodion yn y pentref.
Ar un adeg roedd y llanw'n cyrraedd ymhell i'r tir yma, gan greu ardal gorsiog Cors Ddyga. Adeiladwyd Cob Malltraeth yn y 19g, ac yn awr rheolir y llanw a dyfroedd Afon Cefni gan lifddorau.
Mae Malltraeth yn lle da i wylio adar, yn enwedig ar y pwll sydd ar ochr y tir i'r cob, sy'n un o'r safleoedd gorau ar Ynys Môn i weld rhydyddion a hwyaid. Ym Malltraeth roedd yr arlunydd adar adnabyddus Charles Tunnicliffe yn byw, a gellir gweld llawer o'i luniau o adar o amgylch y cob yn Oriel Ynys Môn yn Llangefni.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]
- The Place Names of Anglesey, gol. G. J. Jones a Tomos Roberts (2004)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
Trefi
Amlwch ·
Benllech ·
Biwmares ·
Caergybi ·
Llangefni ·
Niwbwrch ·
Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw ·
Bethel ·
Bodedern ·
Bodewryd ·
Bodffordd ·
Bryngwran ·
Brynrefail ·
Brynsiencyn ·
Brynteg ·
Caergeiliog ·
Capel Coch ·
Capel Gwyn ·
Carmel ·
Carreglefn ·
Cemaes ·
Cerrigceinwen ·
Dwyran ·
Y Fali ·
Gaerwen ·
Glyn Garth ·
Gwalchmai ·
Heneglwys ·
Hermon ·
Llanallgo ·
Llanbabo ·
Llanbedrgoch ·
Llandegfan ·
Llandyfrydog ·
Llanddaniel Fab ·
Llanddeusant ·
Llanddona ·
Llanddyfnan ·
Llanedwen ·
Llaneilian ·
Llanfachraeth ·
Llanfaelog ·
Llanfaethlu ·
Llanfair Pwllgwyngyll ·
Llanfair-yn-Neubwll ·
Llanfair-yng-Nghornwy ·
Llan-faes ·
Llanfechell ·
Llanfihangel-yn-Nhywyn ·
Llanfwrog ·
Llangadwaladr ·
Llangaffo ·
Llangeinwen ·
Llangoed ·
Llangristiolus ·
Llangwyllog ·
Llaniestyn ·
Llannerch-y-medd ·
Llanrhuddlad ·
Llansadwrn ·
Llantrisant ·
Llanynghenedl ·
Maenaddwyn ·
Malltraeth ·
Marianglas ·
Moelfre ·
Nebo ·
Pencarnisiog ·
Pengorffwysfa ·
Penmynydd ·
Pentraeth ·
Pentre Berw ·
Pentrefelin ·
Penysarn ·
Pontrhydybont ·
Porthllechog ·
Rhoscolyn ·
Rhosmeirch ·
Rhosneigr ·
Rhostrehwfa ·
Rhosybol ·
Rhydwyn ·
Talwrn ·
Trearddur ·
Trefor ·
Tregele