Llanfair-yng-Nghornwy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanfair-yng-Nghornwy
Eglwys y Santes Fair, Llanfairynghornwy - geograph.org.uk - 1235676.jpg
Ynganiad Llanfair-yng-Nghornwy.ogg Edit this on Wikidata
Math pentref Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53°23'30.8"N, 4°33'6.1"W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au Albert Owen (Llafur)

Mae Llanfair-yng-Nghornwy ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau Llanfairyngnghornwy) yn bentref bychan a phlwyf eglwysig yng ngogledd-orllewin Ynys Môn. Saif i'r gogledd-orllewin o'r briffordd A5025 rhwng Llanrhyddlad a Cemaes, ar lan Bae Caergybi. Mae'n rhan o gymuned Cylch y Garn.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Maen hir Pen yr Orsedd.

Mae'n bosibl bod yr enw "Cornwy" yn dod oddi wrth lwyth Celtaidd y Cornovii. Cofnodir y llwyth yma yng nghanolbarth Lloegr, ond mae awgrym hefyd fod llwyth o'r un enw yn Iwerddon.

Cysegrwyd eglwys y plwyf i'r Santes Fair. Ni wyddys dyddiad sefydlu'r eglwys. Mae'r rhannau hynaf yn dyddio o'r 11g neu'r 12g. Cafodd ei helaethu dwywaith: yn y 15g, pan godwyd siansel, ac yn yr 16g pan ychwanegwyd capel i'r de o'r siansel gyda tri bwa yn eu gwahanu. Mae'r tŵr ym mhen gorllewinol yr eglwys yn dyddio o'r 17g. Mae'n adeilad cofrestredig Graddfa 1.[1]

Ceir sawl heneb yn y plwyf, yn cynnwys meini hirion fel y rhai yn Llwyn Ysgaw a charreg unigol Pen yr Orsedd.

Natur[golygu | golygu cod y dudalen]

I'r de o'r pentref ceir bryn 170m Mynydd y Garn. Tua milltir i'r gorllewin, ger y traeth, ceir Llyn y Fydlyn. I gyfeiriad y gogledd ceir Trwyn y Gader (Saesneg: Carmel Head).

Allan yn y môr mae ynysoedd Maen y Bugail ac Ynysoedd y Moelrhoniaid yn perthyn i'r plwyf.

Pobl o Lanfair-yng-Nghornwy[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato