Llanrhuddlad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llanrhyddlad)
Jump to navigation Jump to search
Llanrhuddlad
View SE towards St Rhuddlad's Church - geograph.org.uk - 1374632.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.3733°N 4.5088°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au Albert Owen (Llafur)

Pentref a phlwyf yng ngogledd Môn yw Llanrhuddlad ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Llanrhyddlad ar y map OS). Saif ar y briffordd A5025 rhwng Cemaes, tua 4 milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, a Llanfaethlu, tua 2 filltir i'r de-orllewin. Mae yng nghymuned Cylch y Garn.

Llanrhuddlad o'r A5025.

Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl y Santes Rhuddlad. Y cwbl a wyddys amdani yw ei bod yn ferch i frenin Leinster, dros y môr yn Iwerddon, yn ôl yr hynafiaethydd Henry Rowlands yn ei gyfrol Mona Antiqua Restaurata (1723).

Mae lôn yn arwain i fae Borth Swtan ar yr arfordir, trwy bentref Rhydwyn, tua 2 filltir i'r gorllewin.


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato