Bodewryd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bodewryd
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.38°N 4.42°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH3990 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au
AS/au

Cymuned wledig ar Ynys Môn yw Bodewryd ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd yng ngogledd yr ynys tua dwy filltir i'r dwyrain o Llanfechell a thair milltir a hanner i'r de-orllewin o Amlwch.

Mae'r enw yn golygu 'Annedd Ewryd', ar ôl y sant cynnar Ewryd/Gerwyd (Lladin: Euridius), sydd fel arall yn anhysbys. Yr unig beth a wyddys amdano yw ei fod, yn ôl traddodiad, yn un o feibion Cynyr Ceinfarfog ac felly'n frawd i'r seintiau Non, Gwen a Banhadlwen.

Roedd Plas Bodewryd yn adnabyddus fel un o'r tai a noddai beirdd Môn yn yr Oesoedd Canol.

Brodor o Fodewryd oedd Edward Wyn (m. 1637), gŵr y brydyddes Elen Gwdman.