Talwrn, Ynys Môn
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2694°N 4.2739°W ![]() |
Cod OS | SH484774 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Pentref bychan yng nghymuned Llanddyfnan, Ynys Môn, yw Talwrn[1][2] ( ynganiad ). Fe'i lleolir yng nghanol yr ynys tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Llangefni. Rhed y ffordd B5109 drwy'r pentref gan ei gysylltu â Llangefni i'r de ac â Llanddyfnan a Pentraeth i'r gogledd.
Mae dau gapel yn y pentref, sef Capel Siloam (Annibynnol) a Chapel Nyth Clyd (Presbyteriaid). Yma hefyd ceir Ysgol Talwrn, ysgol gynradd leol sydd yn nalgylch Ysgol Gyfun Llangefni ac sydd dan fygythiad o gael ei chau am ei bod yn rhy fychan.
Ar hen sgwâr y pentref, codwyd cofeb i Gruffudd ab yr Ynad Coch.[3]
Ar wal tŷ Bryn Chwilog ar ochr y lôn o Langefni mae cofeb i'r artist a'r cynllunydd Richard Huws (1902 - 1980). Ei gynllun ef, y Triban, oedd logo Plaid Cymru am flynyddoedd.
I'r dwyrain o Dalwrn ceir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio.
Mae Talwrn yn rhan o Gymuned Llanddyfnan. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 724 o boblogaeth (3 oed a throsodd) Llanddyfnan yn gallu siarad Cymraeg (70.2% o'r boblogaeth 1,032 oedd yn 3 oed neu'n hŷn).[4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
- ↑ Ffotograph o'r cofeb: Flikr
- ↑ Tabl KS207WA Cyfrifiad 2011
Trefi
Amlwch ·
Benllech ·
Biwmares ·
Caergybi ·
Llangefni ·
Niwbwrch ·
Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw ·
Bethel ·
Bodedern ·
Bodewryd ·
Bodffordd ·
Bryngwran ·
Brynrefail ·
Brynsiencyn ·
Brynteg ·
Caergeiliog ·
Capel Coch ·
Capel Gwyn ·
Carmel ·
Carreglefn ·
Cemaes ·
Cerrigceinwen ·
Dwyran ·
Y Fali ·
Gaerwen ·
Glyn Garth ·
Gwalchmai ·
Heneglwys ·
Hermon ·
Llanallgo ·
Llanbabo ·
Llanbedrgoch ·
Llandegfan ·
Llandyfrydog ·
Llanddaniel Fab ·
Llanddeusant ·
Llanddona ·
Llanddyfnan ·
Llanedwen ·
Llaneilian ·
Llanfachraeth ·
Llanfaelog ·
Llanfaethlu ·
Llanfair Pwllgwyngyll ·
Llanfair-yn-Neubwll ·
Llanfair-yng-Nghornwy ·
Llan-faes ·
Llanfechell ·
Llanfihangel-yn-Nhywyn ·
Llanfwrog ·
Llangadwaladr ·
Llangaffo ·
Llangeinwen ·
Llangoed ·
Llangristiolus ·
Llangwyllog ·
Llaniestyn ·
Llannerch-y-medd ·
Llanrhuddlad ·
Llansadwrn ·
Llantrisant ·
Llanynghenedl ·
Maenaddwyn ·
Malltraeth ·
Marianglas ·
Moelfre ·
Nebo ·
Pencarnisiog ·
Pengorffwysfa ·
Penmynydd ·
Pentraeth ·
Pentre Berw ·
Pentrefelin ·
Penysarn ·
Pontrhydybont ·
Porthllechog ·
Rhoscolyn ·
Rhosmeirch ·
Rhosneigr ·
Rhostrehwfa ·
Rhosybol ·
Rhydwyn ·
Talwrn ·
Trearddur ·
Trefor ·
Tregele