Cerrigceinwen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerrig y Gwyddel, Cerrigceinwen.
Eglwys plwyf Cerrigceinwen.

Plwyf a phentref bychan ar wasgar ym Môn yw Cerrigceinwen ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (neu Cerrig Ceinwen). Fe'i lleolir yn ne-orllewin yr ynys tua 2 filltir a hanner i'r de-orllewin o Langefni.

Enwir Cerrigceinwen ar ôl Ceinwen, santes leol a gysylltir â Llangeinwen ar yr ynys yn ogystal. Mae'n bosibl bod cerrig neu feini goffa yma ar un adeg, ond does dim byd i'w weld erbyn heddiw. Cofnodir ffynnon sanctaidd o'r enw 'Ffynnon Cerrig Ceinwen' yn y plwyf yn 1893.[1]

Rhed Afon Ffraw trwy'r plwyf.

Yn yr Oesoedd Canol roedd Cerrigceinwen yn rhan o gwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw, gyda'i llys yn Bodhenlli.[2]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954).
  2. Melville Richards (gol.), Atlas Môn (Llangefni, 1972).