Rhos-y-bol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Rhosybol)
Jump to navigation Jump to search
Rhosybol
Carreg Leidr - the petrified remains of the Llandyfrydog Bible Thief - geograph.org.uk - 1231141.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,078 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn, Ynys Môn, Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 3,019.399 ±0.001 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Llanddyfnan, Llaneilian, Mechell, Llannerch-y-medd, Cymuned Amlwch, Tref Alaw, Moelfre Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.368°N 4.368°W, 53.360895°N 4.358259°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000035 Edit this on Wikidata
Cod OS SH4316587483 Edit this on Wikidata
Cod post LL68 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au
AS/au

Pentref bychan a chymuned ar Ynys Môn yw Rhos-y-bol[1] (neu Rhosybol). Saif yng ngogledd yr ynys ar y B5111, hanner ffordd rhwng Amlwch i'r gogledd a Llannerch-y-medd i'r de.

Pentref estynedig sy'n gorwedd o neilldu'r lôn ydyw. Mae'r pentref yn rhan o blwyf eglwysig Amlwch. Tri chwarter milltir i'r gorllewin ceir pen dwyreiniol Llyn Alaw, ond does dim mynediad hawdd iddo o Rosybol. Milltir a hanner i'r gogledd o Rosybol ceir Mynydd Parys sy'n enwog am ei hen gloddfeydd copr.

Rhosybol

Ceir Siop yng nghanol y pentref, sydd yno ers degawdau, ac mae'r ysgol (Ysgol Gymuned Rhosybol) wedi'i lleoli ychydig i'r gogledd o'r canol.

Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf Rhosybol

Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr ystyr gyffredin sydd i'r gair bol yn yr enw, cyfeiriad naill ai at bant yn y tir neu chwydd arno.[2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhosybol (pob oed) (1,078)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhosybol) (642)
  
61.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhosybol) (664)
  
61.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Rhosybol) (168)
  
37.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Comisiynydd/enwaulleoedd/Pages/Manylion.aspx?pnid=13887
  2. Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: