Llangefni
Math | tref sirol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymuned Llangefni |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.256°N 4.314°W |
Cod OS | SH4675 |
Cod post | LL77 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref a chymuned yng nghanol Ynys Môn ydy Llangefni.[1][2] Mae wedi bod yn dref farchnad bwysig i'r ynys. Llangefni yw tref sirol Môn a lleolir pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn yma. Mae Caerdydd 211.6 km i ffwrdd o Llangefni ac mae Llundain yn 344.7 km. O'i tharddle ger Llyn Cefni rhed Afon Cefni trwy'r dref, sy'n cymryd ei enw o'r afon. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.7 km i ffwrdd.
Y prif dref fasnachol ac amaethyddol yn Ynys Môn ydy Llangefni. Cafodd marchnad gyntaf y dref ei chynnal yn 1785 ac mae'n dal i gael ei chynnal bob dydd Iau a dydd Sadwrn. Ers talwm roedd Llangefni yn gartref i farchnad wartheg fwyaf yr ynys. Bellach mae yna ystâd ddiwydiannol gymharol fawr, sy'n cynnwys ffatri brosesu cyw iâr fawr, y gweithrediad diwydiannol sengl mwyaf yn y dref, yn ogystal â nifer o fusnesau bach eraill.
Yn y dref ceir Oriel Môn, gydag amgueddfa sy'n olrhain hanes yr ynys ac oriel i ddangos gwaith yr arlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan cymuned Llangefni boblogaeth o 5,499.[3] Mae 83.8% o'r boblogaeth honno'n rhugl yn y Gymraeg gyda'r canran uchaf yn yr oedran 10-14 mlwydd gyda 95.2% yn medru'r Gymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Llinos Medi (Plaid Cymru).[5]
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw.
Mae eglwys y plwyf, Eglwys Cyngar Sant,yn sefyll mewn coed yn y Dingle. Un o enwau'r dref yn y gorffennol oedd 'Llangyngar',hen enw'r eglwys.
Yng nghanol y dref mae cloc, talwyd gan gyfeillion a pherthnasau yr lefftenant George Pritchard-Rayner, un o dirffeddianwyr mawr Ynys Môn a drigai yn Nhre Ysagwen.[6] Mae'r cloc wedi wneud o garreg clach o Dreath Bychan ger Marian-Glas ar arfordir dwyreiniol Ynys Mon. Adeiladwyd yn y bynyddoedd 1902/03. Cyn hynny yn yr 1880au adeiladwyd neuadd y dref o'r un deunydd a'r cloc ac agorwyd ar Fawrth y 10fed,1884.
Ymladdwyd Rhyfel Eingl-Boer rhwng Prydain a gweriniaethau Boer. Fe ddaru Lefftenant George Pritchard-Rayner ymladd yno a farwodd yn Ysbyty Bloemfontein yn 1900.[7]
Addysg
[golygu | golygu cod]Prif ysgol y cylch yw Ysgol Gyfun Llangefni. Ar safle yng ngorllewin y dref.
Ceir campws lleol Coleg Menai yn y dref. Mae ysgolion cynradd yn Llangefniyn cynnwys Ysgol Corn Hir ag Ysgol y Graig. Hefyd, ysgol ar gyfer plant anabaleddau or enw Ysgol y Bont.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae Clwb Pêl-droed Llangefni yn chwarae yng Nghynghrair Undebol y Gogledd.
Ceir Clwb Rygbi Llangefni hefyd.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- John Elias. Bu'r pregethwr enwog yn byw yn Llangefni o 1830 hyd 1841.
- Christmas Evans. Bu'r pregethwr yn byw yn y dref yn y cyfnod 1791–1826.
- Hywel Gwynfryn, cyflwynydd radio a aned yn y dref.
- Kyffin Williams, arlunydd a aned yn y dref yn 1908.
Eisteddfod Genedlaethol
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni ym 1957 a 1983. Am wybodaeth bellach gweler:
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Melyn wynt Llangefni
-
Heron Garage Llangefni
-
Canol tref Llangefni
-
Eglwys Cyngar Sant, Llangefni
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 12 Chwefror 2023
- ↑ British Place Names; adalwyd 29 Mawrth 2023
- ↑ City Population; adalwyd 29 Mawrth 2023
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Hughes, Geraint (2019). Secret Anglesey. Great Britain: Amberley Publishing. t. 65. ISBN 978-1-4456-9203-6.
- ↑ Hughes, Geraint (2019). Secret Anglesey. Great Britain: Amberley Publishing. t. 65. ISBN 978-1-4456-9203-6.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele