Neidio i'r cynnwys

Rhun ap Iorwerth

Oddi ar Wicipedia
Y Gwir Anrhydeddus
Rhun ap Iorwerth
AS
Llun swyddogol, 2026
Prif Weinidog Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
12 Mai 2026
TeyrnSiarl III
DirprwySioned Williams
Rhagflaenwyd ganEluned Morgan
Arweinydd Plaid Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
16 Mehefin 2023
DirprwySiân Gwenllian
Delyth Jewell
Rhagflaenwyd ganAdam Price
Llyr Huws Gruffydd (dros dro)
Aelod o'r Senedd
Deiliad
Cychwyn y swydd
2 Awst 2013
Rhagflaenwyd ganIeuan Wyn Jones
EtholaethYnys Môn (2013–2026)
Bangor Conwy Môn (2026–presennol)
Manylion personol
Ganed (1972-08-27) 27 Awst 1972 (54 oed)
Tonteg, Pontypridd
Plaid gwleidyddolPlaid Cymru
Plant3
CartrefLlangristiolus, Ynys Môn
ProffesiwnNewyddiadurwr
GwefanGwefan wleidyddol

Gwleidydd a chyn-newyddiadurwr o Gymro yw Rhun ap Iorwerth (ganed 27 Awst 1972)[1], sydd wedi gwasanaethu fel Prif Weinidog Cymru ers Mai 2026 ac arweinydd Plaid Cymru ers Mehefin 2023. Daeth yn Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn yn Awst 2013[2] ac yna Aelod dros Bangor Conwy Môn yn Mai 2026.[3]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rhun yn Nhon-teg, Rhondda Cynon Taf[4] yn fab i Edward Morus Jones a Gwyneth. Roedd ei dad yn brifathro ac yn rhan o'r ddeuawd 'Dafydd Iwan ac Edward' a 'Chwm Rhyd y Rhosyn'. Roedd ei fam yn athrawes ac wedi gweithio gyda Mudiad Meithrin a Merched y Wawr.[5] Bu farw Gwyneth yn 68 mlwydd oed yn Rhagfyr 2012.[6]

Ganwyd ef yn Rhun ap Iorwerth Jones, a newidiodd ei enw i Rhun ap Iorwerth. Dywedodd fod y cofrestrydd wedi mynnu fod y cyfenw Jones yn cael ei ddefnyddio ar ei dystysgrif geni yn erbyn dymuniadau ei rieni iddo gael ei enwi yn Rhun ap Iorwerth.[7]

Mynychodd Ysgol Rhyd-y-Main, Dolgellau am ychydig, cyn symud i Ynys Môn a mynychu Ysgol Gynradd Llandegfan, cyn cael ei addysg uwchradd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.[8] Yna aeth i Brifysgol Caerdydd ble graddiodd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth yn 1993.[4] Mae Rhun yn uniaethu fel Cymro.[9]

Gyrfa newyddiaduraeth

[golygu | golygu cod]

Ymunodd Rhun gyda BBC Cymru ym 1994, a bu'n gohebu ar ddigwyddiadau San Steffan a Bae Caerdydd ar deledu a radio. Roedd hefyd yn gyflwynydd ar raglenni Post Cyntaf a Dau o'r Bae ar Radio Cymru ac ar Newyddion, yn ogystal a rhaglenni Saesneg y BBC fel The Politics Show Wales a Dragon's Eye.[4]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Gadawodd Ieuan Wyn Jones ei swydd fel aelod o'r Senedd dros Ynys Môn i arwain parc gwyddoniaeth newydd M-SParc. Yn dilyn hyn, a chyn yr isetholiad ar gyfer yr ynys yn 2013, ymddiswyddodd Rhun o'r BBC ac fe gafodd enwebiad Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd.[4] Daeth yn Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn yn Awst 2013 ar ôl ennill yr isetholiad yn gyfforddus.[4][2]

Yn 2018, dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood, y byddai'n croesawu her i'w arweinyddiaeth. Ar y diwrnod hwnnw lawnsiwyd ymgyrchoedd Rhun ac Adam Price ar gyfer yr arweinyddiaeth. Enillodd Adam Price gyda 49.7% o'r pleidleisiau a chafodd Rhun ap Iorwerth 28% a Leanne Wood 22.3%.[4]

Yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru, ar 30 Mai 2023 cyhoeddodd Rhun y byddai yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth. Ni chafwyd unrhyw ymgeisydd arall erbyn y dyddiad cau a cadarnahwyd Rhun fel yr arweinydd newydd ar 16 Mehefin 2023.[2]

Rhun ap Iorwerth, wedi'i ethol yn Brif Weinidog Cymru; Cyfarfod Llawn Cyntaf y Seithfed Senedd, 12 Mai 2026 yn dilyn Etholiad Senedd Cymru, 2026.

Ar 12 Mai 2026, Yn dilyn etholiadau Senedd 2026, daeth yn Brif Weinidog Cymru yn swyddogol.[10]




Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Cofnod Twitter ar ei ben-blwydd. Rhun ap Iorwerth (27 Awst 2012). Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
  2. 1 2 3 "Rhun ap Iorwerth yw arweinydd newydd Plaid Cymru". Golwg360. 2023-06-16. Cyrchwyd 2023-06-16.
  3. "'Pobl wedi dewis gobaith' yn ôl arweinydd Plaid Cymru". BBC Cymru Fyw. 2026-05-07. Cyrchwyd 2026-05-09.
  4. 1 2 3 4 5 6 "Plaid Cymru: Pwy yw'r arweinydd newydd Rhun ap Iorwerth?". BBC Cymru Fyw. 2023-06-16. Cyrchwyd 2024-06-02.
  5. Shipton, Martin (2013-08-03). "Rhun ap Iorwerth: My mother's death pushed me into politics". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-21.
  6. "Colli Gwyneth Morus Jones". BBC Cymru Fyw. 2012-12-16. Cyrchwyd 2026-05-10.
  7. (yn en-GB) Political Thinking with Nick Robinson - Series 2: Rhun ap Iorwerth, https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/m002m3g1/political-thinking-with-nick-robinson-series-2-rhun-ap-iorwerth, adalwyd 2026-05-15
  8.  Elgan Hearn (30 Tachwedd 2011). Ysgol David Hughes hold a school "hawl i holi" meeting with local politicians. Daily Post. Adalwyd ar 2 Awst 2013.
  9. (yn cy) 126K views · 2.2K reactions | “Plaid Cymru doesn’t really wrap itself in the Welsh flag... It’s not the way I do Welshness.” Rhun ap Iorwerth criticises ‘the populist right’ for trying to take ownership’ of national flags, saying Plaid Cymru is ‘deeper than that’. Political Thinking | Listen on BBC Sounds | BBC Radio 4, https://www.facebook.com/reel/3183808061796872/, adalwyd 2026-04-17
  10. "Rhun ap Iorwerth yn cael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 26 Mai 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]