Senedd Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Senedd Cymru
Welsh Parliament
Pumed Senedd
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
Math Unsiambraeth
Arweinyddiaeth
Llywydd y Senedd Elin Jones, Plaid Cymru
Is-Lywydd Ann Jones, Y Blaid Lafur
Arweinydd y Tŷ Julie James, Y Blaid Lafur
Prif Weithredwr a Chlerc Manon Antoniazzi
Cyfansoddiad
Aelodau 60
Cynllun Siambr Y Senedd Mehefin 2020.svg
Grwpiau gwleidyddol
Llywodraeth (31)
     Llafur (29)
     Y Democratiaid Rhyddfrydol (1)
     Annibynnol ar y Llywodraeth (1)[1]

Gwrthbleidiau (29)

     Y Ceidwadwyr (11)
     Plaid Cymru (10)
     Plaid Brexit (4)[2]
     Welsh National Party (1)
     UKIP (1)
     Diddymu (1)
     Annibynnol (1)
Pwyllgorau
Etholiadau
Etholiad diwethaf 5 Mai 2016
Etholiad nesaf 6 Mai 2021
Man cyfarfod
Steps - Senedd.jpg
Y Senedd, Caerdydd
Gwefan
senedd.cymru
Mae'r erthygl hwn am y sefydliad gwleidyddol. Am yr adeilad sy'n gartref i'r sefydliad gweler Adeilad y Senedd
Cymru
Flag of Wales (1959–present).svg

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar:
wleidyddiaeth a llywodraeth
Cymru



gweld  sgwrs  golygu
Cynulliadau
Cynulliadau

Tŷ'r Cynulliad
Cynulliad deddfu
Cynulliad Cenedlaethol
Cynulliad Lleol
Cynulliadau Rhufeinig


Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Gwleidyddiaeth

Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.[3] Rhwng Mai 1999 a Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales).[4][5] Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.

Ceir 60 o aelodau, neu 'Aelodau o'r Senedd' (AS) a etholir (ers 2011) am dymor o 5 mlynedd; mae 40 ohonynt yn cynrychioli etholaeth daearyddol ac 20 yn cael eu hethol dan drefn cynrychiolaeth gyfrannol Dull D'Hondt dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Mae'n system unsiambr, hynny yw, nid oes 'ail siambr' i'r Ddeddfwrfa Gymreig.

Ffurfiwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a oedd yn ymateb i Refferendwm datganoli i Gymru, 1997.[6] Mae'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[7]

Yr enw ar gorff corfforaethol Senedd Cymru yw Comisiwn y Senedd. Caiff yr aelodau etholedig eu cefnogi gan Weision Sifil sy'n gweithio yn y meysydd datganoledig. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.[7]

Etholiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor penodedig. Pedair blynedd oedd y tymor gwreiddiol, ond yn sgil deddfwriaeth yn San Steffan i greu Seneddau o 5 mlynedd ymestynwyd cyfnod y Cynulliad i 5 mlynedd. Cynhaliwyd etholiadau ym 1999, 2003, 2007, 2011 a 2016. Cynhelir is-etholiadau os oes Etholaeth leol o'r Cynulliad yn dod yn wag, ond os oes gwagle ar y rhestr rhanbarthol bydd pleidiau gwleidyddol yn enwebu yr unigolyn nesaf ar y rhestr i ymuno gyda'r Cynulliad.

Ar 27 Tachwedd 2019 pasiwyd Deddf yn y Cynulliad, Deddf Senedd ac Etholiadau, i roi'r bleidlais i bobl 16 oed, yn dechrau o etholiadau'r Cynulliad nesaf yn 2021. Yn ogystal a hyn bydd preswylwyr tramor yng Nghymru hefyd yn cael yr hawl i bleidleisio. Roedd 41 o 60 aelod y Cynulliad o blaid y newid gyda Llafur a Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn. Roedd y ddeddf hefyd yn rhoi enw newydd dwyieithog i'r Cynulliad - Senedd Cymru a Welsh Parliament. Yn gynharach yn y mis roedd cynnig i ddewis enw uniaith Gymraeg i'r Senedd ond cafodd ei wrthod gan y mwyafrif.[8]

Grymoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Grymoedd deddfu[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Ar 3 Mawrth 2011, cynhaliwyd Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 i benderfynu a ddylai'r Cynulliad gael y pwer y lunio deddfau ei hun.

Aelodau'r Senedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mai 2016-presennol[golygu | golygu cod y dudalen]

Plaid: Etholiad 2016
Presennol
Llafur 29 29
Ceidwadwyr 12 11
Plaid Cymru 12 10
UKIP 7 1
Democratiaid Rhyddfrydol 1 1
Plaid Brexit 0 4
Welsh National Party 0 1
Plaid Diddymu Cynulliad Cymru 0 1
Annibynnol 0 2
Seddi eu hangen ar gyfer mwyafrif un plaid 2 0
Mwyafrif y Llywodraeth[notes 1] 0 2
  1. Mae hwn yn cynnwys Llafur, Rhyddfrydwyr Democrataidd, ac o Rhagfyr 2016, Dafydd Elis Thomas.

2011-Mai 16[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Aelodau pedwerydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Plaid Mai 2011
Llafur 30
Y Ceidwadwyr 14
Plaid Cymru 11
Y Democratiaid Rhyddfrydol 5
Annibynnol 0

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-38371425
  2. "Assembly members join forces with Farage". 15 May 2019. Cyrchwyd 15 May 2019 – drwy www.bbc.co.uk.
  3. "Gwybodaeth am y Cynulliad". 2012. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
  4. "Gwybodaeth bwysig am newid enw'r sefydliad". National Assembly for Wales. Cyrchwyd 2020-05-05.
  5. "Bil i gyflwyno enw newydd a gostwng oed pleidleisio yn dod yn Deddf". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 15 Ionawr 2020.
  6. legislation.gov.uk; adalwyd 6 Mai 2016.
  7. 7.0 7.1 "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
  8. Cynulliad: Pasio deddf i roi'r hawl i bleidleisio yn 16 , BBC Cymru Fyw, 27 Tachwedd 2019. Cyrchwyd ar 28 Tachwedd 2019.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]