Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Saesneg: Betsi Cadwaladr University Health Board) yw'r sefydliad iechyd newydd ar gyfer gogledd Cymru, a hynny er 1 Hydref 2009 pan unwyd tair ymddiriedolaeth iechyd y rhanbarth - sef Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Conwy a Sir Ddinbych - yn un. Roedd hyn yn rhan o ad-drefnu'r Gwasanaethaeth Iechyd Genedlaethol ar draws Cymru. Enwir y Bwrdd ar ôl Betsi Cadwaladr, nyrs o'r 19eg ganrif. Lleolir y pencadlys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.[1]
Dyma'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru. Mae'n gwasanaethu ardal eang sy'n cynnwys 676,000 o bobl sy'n byw yn siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Sir Wrecsam, yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru a rhannau o Swydd Gaer a Swydd Amwythig dros y ffin yn Lloegr.[1]
Mae 18,000 aelod o staff yn cael eu cyflogi gan y Bwrdd ac mae ganddo gyllideb o tua £1.1 biliwn y flwyddyn (2010). Y tri phrif ysbyty yw Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.[1]
Ysbytai[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwynedd a Môn[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ysbyty Bron y Garth, Penrhyndeudraeth
- Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli
- Ysbyty Cefni, Llangefni
- Ysbyty Dolgellau, Dolgellau
- Ysbyty Eryri, Caernarfon
- Ysbyty Coffa Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog
- Ysbyty Minfordd, Bangor
- Ysbyty Coffa Tywyn, Tywyn
- Ysbyty Gwynedd, Bangor
- Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi
Sir Conwy a Sir Ddinbych[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ysbyty Abergele, Abergele
- Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan
- Ysbyty Cymunedol Bae Colwyn, Bae Colwyn
- Ysbyty Dinbych, Dinbych
- Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan
- Ysbyty H.M. Stanley, Llanelwy
- Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Llandudno
- Ysbyty Cymunedol Llangollen, Llangollen
- Canolfan Trin Cancr Gogledd Cymru, Y Rhyl
- Ysbyty Cymunedol Prestatyn
- Ysbyty Brenhinol Alecsandra, Y Rhyl
- Ysbyty Cymunedol Rhuthun, Rhuthun
Sir y Fflint a Wrecsam[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ysbyty Cymunedol Y Fflint, Y Fflint
- Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy
- Ysbyty Cymunedol Yr Waun, Yr Waun
- Ysbyty Cymunedol Treffynnon, Treffynnon
- Ysbyty Lluesty, Treffynnon
- Ysbyty Cymunedol Yr Wyddgrug, Yr Wyddgrug
- Ysbyty Pwylaidd Penley, Penley
- Ysbyty Maelor Wrecsam, Wrecsam
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Gwybodaeth gyffredinol ar wefan y Bwrdd.