Neidio i'r cynnwys

Bodelwyddan

Oddi ar Wicipedia
Bodelwyddan
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,147, 2,092, 2,106 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,666.96 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.268°N 3.499°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000142 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUGill German (Llafur)
Map

Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Bodelwyddan ("Cymorth – Sain" Bodelwyddan ). Fe'i lleolir ar yr A55 hanner ffordd rhwng Abergele i'r gorllewin a Llanelwy i'r dwyrain. Saif Castell Bodelwyddan tua hanner cilometr o'r pentref. Mae'n gartref i Ysbyty Glan Clwyd, y prif ysbyty ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru. Mae'n fwyaf adnabyddus am Yr Eglwys Farmor (Eglwys Sant Marged), a godwyd ganol y 19g mewn marmor gwyn trawiadol.

I'r gogledd o'r pentref ceir gwlybdir eang Morfa Rhuddlan, safle brwydr waedlyd rhwng y Cymry a rhyfelwyr Mersia yn 797.

Yr Eglwys Farmor

[golygu | golygu cod]
Yr Eglwys Farmor

Eglwys y Santes Fererid, Bodelwyddan yw'r 'Eglwys Farmor', fel y caiff ei galw ar lafar gwlad. Mae'n nodwedd amlwg yn nhirwedd Dyffryn Clwyd a gellir ei gweld o bell. Mae'n gorwedd ger priffordd yr A55. Fe'i codwyd o farmor gwyn yn bennaf ac 14 math arall, gan gynnwys marmor Môn.

Codwyd yr eglwys gan yr Arglwyddes Willoughby de Broke er cof am ei gŵr, Henry Peyto-Verney, 16eg Barwn Willoughby de Broke. Gosododd hi'r garreg sylfaen ar 24 Gorffennaf 1856 a chafodd yr eglwys newydd, a gynlluniwyd gan y pensaer John Gibson, ei gysegru gan Esgob Llanelwy ar 23 Awst 1860. Costiodd y gwaith adeiladu £22,000.[1]

Terfysg Gwersyll Parc Cinmel

[golygu | golygu cod]

Ganllath neu ddau o'r pentref saif hen faes hyfforddi'r fyddin 'Brydeinig' ac yno yn 1919 y cafwyd Terfysg Gwersyll Bae Cinmel. Roedd 15,000 o luoedd Canada yn y gwersyll ym 1919 yn disgwyl llongau i'w cludo adref, ond oherwydd diffyg bwyd a chyflog, amgylchiadau budr a chreulon, cafwyd gwrthryfel bychan a therfysg, a bu 5 o filwyr farw. Dywedir eu bod yn cael eu trin yn wael, a'u gorfodi i wneud gwaith caled gan swyddogion o Loegr.[2][3] Arestiwyd saith deg wyth o ddynion, a chafwyd 25 yn euog o wrthryfela; rhoddwyd dedfrydau iddynt yn amrywio o 90 diwrnod o garchar i ddeng mlynedd o gaethwasanaeth.

Ar 4–5 Mawrth 1919, bu terfysg ym Mharc Cinmel, lle mynegodd 20,000 o filwyr eu dicter at eu triniaeth cywilyddus. Cafwyd terfysg yn adran Ganadaidd y gwersyll, a pharhaodd am noson a diwrnod. Lladdwyd pump o ddynion, ac anafwyd 23.[4]

Adroddodd y North Wales Chronicle ym mis Ebrill 1919: “Roedd un o’r milwyr Canadaidd yn chwifio baner goch, a’r dyrfa’n bwio a gwawdio milwyr o Loegr a'u swyddog.[5]

Roedd y gwrthryfelwr yn sownd ym mwd Cymru, yn aros yn ddiamynedd i gyrraedd Canada bedwar mis ar ôl diwedd y rhyfel. Nid oedd y 15,000 o filwyr Canada a glowyd yng ngwersyll Cinmel yn gwybod am y streiciau a oedd yn atal y llongau, gan achosi prinder bwyd. Roedd y dynion ar hanner dogn yr un, doedd dim glo i’r stof yn y cytiau oer, a doedden nhw ddim wedi cael cyflog ers dros fis. Roedd pob pedwar deg dau milwr yn cysgu mewn cwt ar gyfer tri deg, felly roedd pob un yn cymryd eu tro i gysgu ar y llawr, gydag un flanced yr un.[6]

Claddwyd pedwar o'r pum milwr o Ganada a laddwyd yn ystod y terfysg ym mynwent eglwys Bodelwyddan ymhlith cofebau eraill Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. Mae'r rhan fwyaf o'r beddau rhyfel yn cynnwys cyrff milwyr a fu farw o bandemig y ffliw Sbaenaidd.[7]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bodelwyddan (pob oed) (2,147)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bodelwyddan) (369)
  
17.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bodelwyddan) (1233)
  
57.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bodelwyddan) (257)
  
29.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. The Gentleman's Magazine and Historical Review: Vol 10; Sylvanus Urban, 1861, t.156
  2. Leroux 2020.
  3. Coombs 2004.
  4. "Kinmel Camp Riot". The Guardian. 7 Mawrth 1919. Cyrchwyd 14 Mawrth 2020 – drwy Newspapers.com.
  5. walesonline.co.uk; Teitl: The story of the Canadian servicemen shot dead and trampled to death during a riot at a First World War camp in Wales; adalwyd 17 Mehefin 2025.
  6. Coombs 2004, t. 1.
  7. Ryall, Gemma (4 Mawrth 2009). "90 year mystery of soldier riots". BBC News. Cyrchwyd 14 Mawrth 2020.
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato