Pentrecelyn, Sir Ddinbych

Oddi ar Wicipedia
Pentrecelyn,
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.071°N 3.27°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Pentrecelyn, Powys.

Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Pentrecelyn[1] (hefyd Pentre-celyn). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y sir ar y B5429 fymryn cyn ei gyffordd â'r A525, tua 4 milltir i'r de o Rhuthun. Y pentref agosaf yw Graigfechan, hanner milltir i'r gogledd ar y B5429.

Mae'n bentref tawel mewn lleoliad gwledig o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Lleolir Coleg Llysfasi ar gyrion y pentref sydd yn rhan o Goleg Cambria erbyn hyn. Mae'r coleg yn un o'r mwyaf yng Nghymru ac yn gwasanaethu dros 22,000 myfyriwr y flwyddyn a chyflogi 1,000 o staff, mae gan y coleg incwm blynyddol o £40 miliwn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Canolfan Bedwyr
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato