Llanelidan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanelidan
Llanelidan Parish church - geograph.org.uk - 110023.jpg
Math Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.0333°N 3.3333°W Edit this on Wikidata
Cod OS SJ106504 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Darren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au David Jones (Ceidwadwr)

Pentref, cymuned a phlwyf yn Sir Ddinbych yw Llanelidan("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'r pentref tua hanner ffordd rhwng trefi Rhuthun a Chorwen, yn nyffryn Afon y Maes, sy’n isafon i'r Afon Clwyd. Mae pentrefan Rhydymeudwy o fewn y gymuned hon.

Mae'r eglwys yno wedi ei chysegru i Sant Elidan, a dyma darddiad enw'r pentref. Adeiladwyd yr eglwys yn y 15g; mae'n parhau i gadw nifer o'i nodweddion gwreiddiol o'r Oesoedd Canol, er gwaethaf gwaith adnewyddu sylweddol yn y 19g.

Rhwng Bryneglwys a Chorwen, ceir swp o gerrig hynafol a elwir yn 'Fwrdd y Tri Arglwydd'. Yn ôl traddodiad, mae'r cerrig hyn yn nodi'r ffin ganoloesol rhwng Arglwyddiaeth Dinbych, ym meddiant Reginald de Grey, a chwmwd Cynllaith Owain, ym meddiant Owain Glyndŵr. Ceir plac ar y cerrig sy'n cofnodi'r hanes. Ychydig lathenni o'r garreg ceir cerrig eraill - olion hen siambr gladdu neolithig.[1] Yn ddiweddarach, yma oedd y ffin rhwng yr hen Sir Ddinbych a Meirionnydd, gyda phlwyfi Llanelidan, Bryneglwys, Gwyddelwern a Llansanffraid Glyn Dyfrdwy yn cwrdd yma, fel oedd arglwyddiaethi Rhuthun, Glyndyfrdwy ac Iâl.[2]

Bwrdd y Tri Arglwydd

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[3][4]

Llanelidan
Eglwys Sant Elidan

Eglwys Sant Elidan[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif yr eglwys wrth dafarn y Leyland Arms, wedi ei hamgylchynu gan goed yw a hen gerrig beddi Cymraeg. Cysegrwyd yr eglwys i sant lleol na wyddom llawer amdano. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol yn y 15g ac mae’n cynnwys dwy ran, yn unol ag arddull yr ardal, ac mae ynddo nifer o nodweddion canoloesol, er yr adnewyddu sylweddol a fu yn ystod cyfnod Fictoria.

Mae’r eglwys wedi ei chysegru i sant lleol na wyddys llawer amdano. Wedi ei hadeiladu'n wreiddiol yn y 15g, mae’n cynnwys dwy brif ran, yn unol ag arddull yr ardal. Ceir pâr o ganopïau anrhydedd crymdo dros yr allor, darnau o wydr canoloesol, sef symbolau’r croesholiad mewn tariannau glas uwchben yr allor, ac yn bwysicach oll, gwaith coed cerfiedig rhyfeddol. Mae rhannau o’r groglen ganoloesol wedi eu gosod wrth y pulpud, yn eu plith fwystfilod ar ffurf ceffylau, tariannau crynion cain, a gwinwydd ac aeron eiddew. Mae gan y pulpud Jacobeaidd ei gerfiedau ei hun, gyda mwy o baneli sy’n dyddio o’r un cyfnod y tu ôl i’r allor. Mae’r hen gorau bocs (gorlan y seddi), sy’n gofebau i ysgweiriaid Plas Nantclwyd gerllaw, a’r portread teimladwy o’r merthyr Pabyddol lleol, Edward Jones, yn gwneud yr eglwys hon yn unigryw. Mae ar agor yn ystod golau dydd fel arfer.

Roedd Richard Parry yn rheithor Llanelidan am gyfnod cyn iddo ddod yn Esgob Llanelwy.[5]. O 1891 hyd ei farwolaeth yn 1937, bu John Morris o Glarach yn rheithor ar y plwyf ag ef a gladdodd Coch Bach y Bala.[6]

Stad Nantclwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llawer o dir amaethyddol, coedwigoedd a thai Llanelidan, yn ogystal a'r unig dafarn, y Leyland Arms, yn rhan o stad Nantclwyd ac yn perthyn i'r teulu Naylor-Leyland. Saif Plas Nantclwyd wrth ochr yr Afon Clwyd i'r gogledd o'r pentref.

Llanelidan, y gân[golygu | golygu cod y dudalen]

Canwyd cân o'r enw Llanelidan gan y triawd, Trisgell, gyda cherddoriaeth gan Robat Arwyn. Mae'r gân am Syr Vivian Naylor-Leyland yn llosgi tai'r Cymry a oedd ar ei stad, Plas Nantclwyd. Mae'r gân ar yr albwm Caneuon Robat Arwyn.[7] Mae'r gân yn dechrau gyda'r gytgan a'r geiriau yn dechrau ar nodyn cyntaf y cyfeiliant.

Cygtan
O'r cof aeth pentref cyfan
Oherwydd gŵr yr arian
Fe ddaeth a'i wên a'i gyllell ddu
I waedu Llanelidan
Efallai nad oedd yn afallon o dir
Ond unwaith tyddynod fu'n gwarchod y gwir:
Tyddyn ar dyddyn yn credu mewn Duw
A chwlwm cymdeithas yr un bwrlwm byw.
Cytgan
Ond Ffasgydd ddaeth yma i losgi pob tŷ
Ryw unben o Hitler 'da'i hen gyllell ddu,
Fe laddodd popeth oedd amherffaith i'w drefn
A bwrlwm cymdeithas a dorrodd ei chefn.
Cytgan
A'r gŵr nad oedd Gymro a waedodd y tir
Ond cododd rhai Cymru eu lleisiau yn glir
Fe chwynwyd y rheini a'u tai rhoed ar dân
Eu hangerdd a'u tristwch a luniodd y gân
Cytgan
“Pa pryd y bu hyn?”, meddai rhywun o draw
“Pa pryd y bu bywyd yn storom o fraw?”
“Digwyddodd yr erlid”, atebaf i ti
“Digwyddodd y gorthrwm yn fy nyddiau i”

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanelidan (pob oed) (305)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelidan) (131)
  
44.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelidan) (163)
  
53.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanelidan) (29)
  
22.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

O 28 April 2011 ymlaen, ffynhonnell yr erthygl hon (neu ran ohoni) yw medieval-wales.com/index.php. Trwyddedodd deiliad yr hawlfraint y cynnwys ar drwydded CC-By-SA / GFDL. Mae'n rhaid dilyn termau perthnasol y drwydded.

  1. Gwefan Coflein; adalwyd 28 Ebrill 2014
  2. Frank Price Jones (1969). Crwydro - Gorllewin Dinbych. p. 49.  Unknown parameter |publihsher= ignored (|publisher= suggested) (help)
  3. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Frank Price Jones (1969). Crwydro - Gorllewin Dinbych.  Unknown parameter |publihsher= ignored (|publisher= suggested) (help)
  6. Frank Price Jones (1969). Crwydro - Gorllewin Dinbych. p. 51.  Unknown parameter |publihsher= ignored (|publisher= suggested) (help)
  7. "Caneuon Robat Arwyn". http://www.sainwales.com/store/sain/sain-scd-26691. Adalwyd 7 Gorffennaf 2014.
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.