David Jones (gwleidydd Cymreig)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Gwir Anrhydeddus
David Jones
MP
Official portrait of Mr David Jones crop 3.jpg
Gweinidog Gwladol yn yr Adran Dros Adael yr Undeb Ewropeaidd
Yn ei swydd
17 Gorffennaf 2016 – 12 Mehefin 2017
Prif Weinidog Theresa May
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Yn ei swydd
4 Medi 2012 – 14 Gorffennaf 2014
Prif Weinidog David Cameron
Rhagflaenydd Cheryl Gillan
Ar ei ôl Stephen Crabb
Aelod Seneddol
dros Gorllewin Clwyd
Yn ei swydd
Dechrau
5 Mai 2005
Rhagflaenydd Gareth Thomas
Mwyafrif 3,437 (8.5%)
Aelod Cynulliad
dros Ogledd Cymru
Yn ei swydd
10 Medi 2002 – 1 Mai 2003
Rhagflaenydd Rod Richards
Manylion personol
Ganwyd (1952-03-22) 22 Mawrth 1952 (65 oed)
Llundain
Plaid wleidyddol Ceidwadol
Gŵr neu wraig Sara Jones
Alma mater Coleg Prifysgol Llundain
Crefydd Anglicaniaeth[1]
Gwefan Gwefan swyddogol

Mae David Jones yn wleidydd Cymreig ac yn aelod o'r Blaid Ceidwadol. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Gorllewin Clwyd yn Etholiad Cyffredin 2005, gyda mwyafrif o dim ond 133 pleidlais, ac ei ailethol yn 2010 a 2015 gyda mwyafrif o fwy na 6000 bob tro. Yn etholiad brys 2017 hanerwyd ei fwyafrif wrth i'r Blaid Lafur gynyddu eu pleidlais yn sylweddol (14%).

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Safodd David Jones i fod yn Aelod Seneddol ar ddwy achlysur cyn iddo gael ei ethol yng Ngorllewin Clwyd. Methodd a chipio sedd Conwy yn 1997 a Dinas Caer yn 2001. Yn 2002, cymerodd David Jones lle Rod Richards yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymddiswyddiad Mr Richards. Nid oedd gan Mr Jones unrhyw fwriad i barhau fel Aelod Cynulliad ac ni safodd yn etholaethau'r Cynulliad yn 2003. Wedi ei ethol fel Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, cafodd David Jones hefyd le ar y Pwyllgor Materion Cymreig yn 2005.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd David Jones yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru o 4 Medi 2012 hyd at gael ei ddiswyddo ar 14 Gorffennaf 2014, pan gafodd ei olynu gan Stephen Crabb.[2][3] Yn ei amser fel arweinydd y Swyddfa Gymreig, gweithiodd i sicrhau bod carchar ar gyfer dros 2,000 o ddynion - yr ail mwyaf yn Ewrop - yn cael ei adeiladu ar gyrion Wrecsam a bod atomfa ynni niwclear newydd yn cael ei godi ar Ynys Môn.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]