Alun Michael

Oddi ar Wicipedia
Alun Michael
Alun Michael


Deiliad
Cymryd y swydd
15 Tachwedd 2012
Rhagflaenydd Sefydlwyd y swydd

Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Cyfnod yn y swydd
27 Hydref 1998 – 28 Gorffennaf 1999
Rhagflaenydd Ron Davies
Olynydd Paul Murphy

Cyfnod yn y swydd
11 Mehefin 1987 – 22 Hydref 2012
Rhagflaenydd James Callaghan
Olynydd Stephen Doughty

Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 1 Mai 2000

Geni (1943-08-22) 22 Awst 1943 (80 oed)
Bryngwran, Ynys Môn
Plaid wleidyddol Y Blaid Lafur (DU)
Alma mater Prifysgol Keele

Gwleidydd Cymreig yw Alun Edward Michael (ganed 22 Awst 1943) a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf Heddlu De Cymru. Bu'n cynrychioli etholaeth De Caerdydd a Phenarth dros y Blaid Lafur rhwng 1987 a 2012.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Roedd yn weinidog iau yn y Swyddfa Gartref rhwng 1997 a 1998 cyn derbyn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl ymddiswyddiad Ron Davies ym mis Hydref 1998. Ar ôl etholiadau cyntaf i'r cynulliad ar 6 Mai 1999, fel arweinydd grŵp y Blaid Lafur o fewn y cynulliad, fe'i hetholwyd yn Brif Ysgrifennydd hefyd.

Gwahanwyd swyddi Prif Ysgrifennydd y Cynulliad ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Gorffennaf 1999, pryd penodwyd Paul Murphy yn ysgrifennydd gwladol. Ymddiswyddodd fel prif ysgrifennydd ar 9 Chwefror 2000 ar ôl colli pleidlais hyder yn y cynulliad. Ers hynny mae wedi dal dwy swydd yn llywodraeth San Steffan: mae wedi bod yn ysgrifennydd gwladol (dros faterion gwledig) yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig o 2001 tan 2005, ac yn weinidog dros ddiwydiant a'r rhanbarthau yn Adran Masnach a Diwydiant o 2005 tan 2006. Collodd ei swydd yn aildrefnu'r llywodraeth ym mis Mai 2006.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
James Callaghan
Aelod Seneddol dros Dde Caerdydd a Phenarth
19872012
Olynydd:
Stephen Doughty
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Ron Davies
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
27 Hydref 199828 Gorffennaf 1999
Olynydd:
Paul Murphy
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru
19992003
Olynydd:
Delyth Evans
Seddi'r cynulliad
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Prif Ysgrifennydd Cymru
12 Mai 19999 Chwefror 2000
Olynydd:
Rhodri Morgan