James Callaghan

Oddi ar Wicipedia
James Callaghan
Ganwyd27 Mawrth 1912 Edit this on Wikidata
Copnor Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mawrth 2005 Edit this on Wikidata
Dwyrain Sussex Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaetheconomegydd, gwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd yr Wrthblaid, Arweinydd y Blaid Lafur, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid, Shadow Secretary of State for Employment, Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Cartref, Canghellor y Trysorlys, Canghellor y Trysorlys yr Wrthblaid, Ysgrifennydd i'r Morlys, Parliamentary Secretary to the Ministry of Transport, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
TadJames Callaghan Edit this on Wikidata
MamCharlotte Gertrude Cundy Edit this on Wikidata
PriodAudrey Callaghan Edit this on Wikidata
PlantMargaret Jay, Baroness Jay of Paddington, Julia Elizabeth Callaghan, Michael James Callaghan Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata
James Callaghan arall oedd yr AS am sedd Heywood a Middleton.

Leonard James Callaghan, Arglwydd Callaghan o Gaerdydd, KG, PC (27 Mawrth 191226 Mawrth 2005), oedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig mewn llywodraeth Lafur rhwng 1976 a 1979. Adnabyddid ef wrth ei ail enw, James, wedi'i fyrhau i Jim yn aml, Llysenw arno yn aml oedd "Sunny Jim" neu "Big Jim". Ef yw'r unig berson sydd wedi llenwi pedair swydd bwysicaf y llywodraeth, sef Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Cartref, Ysgrifennydd Tramor a Phrif Weinidog; yn wir, efe yw'r unig berson sydd wedi llenwi y tair swydd gyntaf ar y rhestr yna. Ar 14 Chwefror 2005, rhagorodd ef Harold Macmillan fel y Prif Weinidog Prydeinig ag oedd wedi byw yn hiraf, sef i'r oedran o 92 mlynedd, 10 mis ac 18 dydd.

Canghellor y Trysorlys oedd Callaghan rhwng 1964 a 1967: cyfnod cythryblus i'r economi Brydeinig. Roedd diffyg balans taliadau enfawr ac roedd yr ariannwyr stoc yn ymosos ar y bunt sterling. Yn Nhachwedd 1967, gorfodwyd y Llywodraeth i ddibrisio'r bunt. Cynigodd Callaghan ymddiswyddo, ond darbwyllwyd ef i gyfnewid swydd â Roy Jenkins, ac Ysgrifennydd Cartref fu Callaghan rhwng 1967 a 1970. Yn y swydd honno ef anfonodd y Fyddin Brydeinig i Ogledd Iwerddon ar ôl derbyn cais oddi wrth Llywodraeth Gogledd Iwerddon.

Yn dilyn buddugoliaeth Llafur yn yr etholiad Cyffredinol ym Mawrth 1974 daeth Callaghan yn ôl i'r Cabinet fel Ysgrifennydd Tramor, gan gynnwys y cyfrifoldeb o ailgytundebu aelodaeth Prydain yn y Farchnad Gyffredin. Cefnogodd y bleidlais "Ie" yn refferendwm 1975 dros gadw Prydain yn y Gymuned Economaidd Ewropeaidd (EEC). Pan ymddiswyddodd Harold Wilson ym 1976, etholwyd Callaghan fel arweinydd Llafur gan yr aelodau seneddol. Roedd ei unig dymor fel Brif Weinidog yn anodd gan nad oedd gan Lafur fwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd rhaid iddo drafod gyda'r pleidiau bach megis yr Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon a Phlaid Genedlaethol yr Alban a Phlaid Cymru. Canlyniad hyn oedd cytundeb rhwng Llafur a'r Blaid Ryddfrydol. Er fod Callaghan wedi bod yn gefnogwr i'r undebau, roeddent yn gwneud pethau anodd iddo ac roedd y cytundeb gyda'r Rhyddfrydwyr yn fregus. Yn ystod gaeaf 1978 a dechrau 1979, cafwyd nifer o streiciau difrifol. Ar 28 Mawrth 1979 cafwyd pleidlais o ddiffyg hyder yn y senedd. Fe gollwyd y bleidlais, a bu rhaid iddo alw etholiad cyffredinol. Yn yr etholiad hwnnw, trechwyd Llywodraeth Callaghan yn drwm gan y Blaid Geidwadol a daeth Margaret Thatcher yn brif weinidog.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Arthur Evans
Aelod Seneddol dros De Caerdydd
19451950
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros De-ddwyrain Caerdydd
19501983
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros De Caerdydd a Phenarth
19831987
Olynydd:
Alun Michael
Rhagflaenydd:
John Parker
Tad y Tŷ
19831987
Olynydd:
Bernard Braine
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Reginald Maudling
Canghellor y Trysorlys
16 Hydref 196430 Tachwedd 1967
Olynydd:
Roy Jenkins
Rhagflaenydd:
Roy Jenkins
Ysgrifennydd Cartref
30 Tachwedd 196719 Mehefin 1970
Olynydd:
Reginald Maudling
Rhagflaenydd:
Alec Douglas-Home
Ysgrifennydd Tramor
5 Mawrth 19748 Ebrill 1976
Olynydd:
Anthony Cosland
Rhagflaenydd:
Harold Wilson
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
5 Ebrill 19764 Mai 1979
Olynydd:
Margaret Thatcher
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.