Teyrnas Prydain Fawr
| Delwedd:Coat of Arms of Great Britain in Scotland (1707-1714).svg, Coat of arms of Great Britain (1714–1801).svg, Coat of Arms of Great Britain in Scotland (1714-1801).svg, Coat of arms of Great Britain (1707–1714).svg | |
| Math | gwlad ar un adeg |
|---|---|
| Prifddinas | Llundain |
| Poblogaeth | 10,500,000, 9,250,000 |
| Sefydlwyd |
|
| Anthem | God Save the King |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Gorllewin Ewrop |
| Gwlad | Teyrnas Prydain Fawr |
| Arwynebedd | 230,977 km² |
| Cyfesurynnau | 51.5°N 0.13°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Senedd Prydain Fawr |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Prydain Fawr |
| Pennaeth y wladwriaeth | George III |
![]() | |
| Arian | punt sterling |
Roedd Teyrnas Prydain Fawr (a elwir weithiau, ond yn anghywir, yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr), yn wladwriaeth yng Ngorllewin Ewrop, a fodolai o 1707 hyd 1800. Cafodd ei chreu trwy uniad Teyrnas yr Alban a Theyrnas Lloegr, dan Ddeddfa Uno 1707, i greu teyrnas unigol yn cynnwys Prydain Fawr i gyd (Lloegr, Cymru a'r Alban heddiw). Addaswyd senedd Lloegr i greu senedd newydd, Senedd Prydain Fawr ym Mhalas San Steffan, Llundain, gyda llywodraeth newydd seiliedig ar hen lywodraeth Lloegr, i'w rheoli. Paratowyd y tir ar gyfer yr uniad gan y ffaith fod teyrnasoedd yr Alban a Lloegr (a oedd yn cynnwys Cymru at bwrpasau deddfwriaethol) wedi rhannu'r un teyrn ers i James VI a I, brenin yr Alban a Lloegr, ddod yn frenin Lloegr yn 1603.
Cymerodd Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon le Teyrnas Prydain Fawr yn 1801 pan lyncwyd Teyrnas Iwerddon gan Ddeddf Uno 1800 ar ôl methiant y Gwrthryfel Gwyddelig yn 1798.
Llywodraeth
[golygu | golygu cod]
Brenhinoedd a breninesau
[golygu | golygu cod]- Anne (1707–1714)
- George I (1714–1727)
- George II (1727–1760)
- George III (1760–1801)
Am fod tri brenin o'r enw George (Siôr) yn rheoli, cyfeirir at gyfnod eu teyrnasiad fel y "Cyfnod Sioraidd."
Prif Weinidogion
[golygu | golygu cod]- Robert Walpole (1721–1742)
- William Pitt yr Ieuengaf (1783-1810)
