Gorllewin Ewrop

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r term Gorllewin Ewrop fel mae pobl yn ei ddeall yn gyffredin yn gysyniad gwleidyddol-gymdeithasol sy'n hanu o ddyddiau'r Rhyfel Oer. Diffinwyd ffiniau Gorllewin Ewrop ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a daeth i gynnwys pob gwlad Ewropeaidd nad oeddent wedi eu mediannu gan y Fyddin Sofietaidd ac fel canlyniad na ddaethant dan reolaeth llywodraethau comiwnyddol.

Heddiw, mae gan y term Gorllewin Ewrop llai i'w wneud â gwleidyddiaeth a daearyddiaeth y Rhyfel Oer a mwy i'w wneud ag economeg. Mae'r cysyniad yn cael ei gyfeillachu'n gyffredin â democratiaeth ryddfrydol, cyfalafiaeth ac hefyd yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwledydd yn rhannu diwylliant Gorllewinol, ac mae gan llawer ohonont rwymau economaidd a gwleidyddol gyda Gogledd a De America ac Oceania.

Fel arall, mae Gorllewin Ewrop hefyd yn isranbarth daearyddol o Ewrop sydd yn fwy cyfyng na'r ddirnadaeth draddodiadol wleidyddol; fel mae'n cael ei ddiffinio gan y Cenhedloedd Unedig, mae'n cynnwys y naw gwlad canlynol:

Rhanbarthau o Ewrop yn ôl y Cenhedloedd Unedig:      Gogledd Ewrop      Gorllewin Ewrop      Dwyrain Ewrop      De Ewrop

Hanes cynharach[golygu]

Y tro cynharaf a wyddys lle mae gorllewin a dwyrain Ewrop yn cael eu gwahaniaethu yw cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig. Wrth i'r ymerodraeth dyfu a goresgyn gwledydd newydd fe ddaeth yn rhanedig rhwng pobloedd trefol Groeg eu hiaith y gwledydd dwyreiniol oedd gynt yn rhan o Ymerodraeth Macedonia, a gwledydd mwy cyntefig y gorllewin lle roedd y Lladin wedi dod yn brif iaith gyffredin. Arweiniodd yr hollt ddiwylliannol at raniad gwleidyddol. Parhaodd y rhaniad yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Gorllewinol, blodeuo'r Ymerodraeth Ffrancaidd, a'r Sgism Fawr yn yr Eglwys Gristnogol i ffurfio sail diffinio Gorllewin a Dwyrain yn y cyd-destun Ewropeaidd tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gweler hefyd[golygu]