Gwlad Belg
|
|||||
| Arwyddair: Eendracht maakt macht / L'union fait la force / Einigkeit macht stark Mewn undeb mae nerth |
|||||
| Anthem: Brabançonne | |||||
| Prifddinas | Brwsel | ||||
| Dinas fwyaf | Brwsel | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Iseldireg, Ffrangeg ac Almaeneg | ||||
| Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol | ||||
| • Brenin • Prif Weinidog |
Philippe Charles Michel |
||||
| Annibyniaeth • Datganiad • Cydnabuwyd |
Oddi wrth Yr Iseldiroedd 4 Hydref 1830 19 Ebrill 1839 |
||||
| Esgyniad i'r UE | 25 Mawrth, 1957 | ||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
30,528 km² (140fed) 6.4 |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2013 - Cyfrifiad 2012 - Dwysedd |
11,156,136 (76fed) 11,035,948 365/km² (33fed) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2006 $316.2 biliwn (30fed) $31,400 (12fed) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.945 (9fed) – uchel | ||||
| Arian cyfred | Ewro1 (EUR) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
| Côd ISO y wlad | .be2 | ||||
| Côd ffôn | +32 |
||||
| 1 Cyn i 1999: Franc Belgaidd 2 Hefyd .eu |
|||||
Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Teyrnas Gwlad Belg neu Gwlad Belg (Iseldireg: België; Ffrangeg: Belgique; Almaeneg: Belgien). Mae wedi'i lleoli rhwng yr Iseldiroedd, yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc a Môr y Gogledd.
Mae'r wlad yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Tiwtonaidd a'r diwylliant Ffrengig. Siaredir Iseldireg yng ngogledd y wlad, Ffrangeg yn y de, ac Almaeneg mewn rhannau o'r de-ddwyrain. Ar adegau, mae cryn dyndra wedi datblygu rhwng y ddwy brif garfan ieithyddol. Ceisiwyd delio a'r sefyllfa yma trwy sefydlu rhanbarthau ac ardaloedd ieithyddol o fewn gwladwriaeth ffederal Gwlad Belg.
Rhanbarthau a thaleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhennir y wlad yn dair rhanbarth, Rhanbarth Fflandrys, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas. Mae Fflandrys a Walonia yn cynnwys pum talaith yr un, tra nad yw Rhanbarth y Brifddinas yn rhan o'r system daleithiol.
Fflandrys[golygu | golygu cod y dudalen]
- Antwerp, prifddinas Antwerp
- Dwyrain Fflandrys, prifddinas Gent
- Brabant Fflandrysaidd, prifddinas Leuven
- Limburg, prifddinas Hasselt
- Gorllewin Fflandrys, prifddinas Brugge
Walonia[golygu | golygu cod y dudalen]
- Brabant Walonaidd, prifddinas Wavre
- Hainaut, prifddinas Mons
- Liège, prifddinas Liège
- Luxembourg, prifddinas Arlon
- Namur, prifddinas Namur
Ardaloedd ieithyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydlwyd yr ardaloedd ieithyddol (Iseldireg: taalgebieden, Ffrangeg: régions linguistiques) yn 1963, a daethant yn rhan o'r Cyfansoddiad yn 1970. Ceir pedair o'r rhain:
- ardal ieithyddol yr Iseldireg
- ardal ddwyieithog Prifddinas-Brwsel
- ardal ieithyddol Ffrangeg
- ardal ieithyddol Almaeneg
Dynodir hefyd dair cymuned o fewn Gwlad Belg; mae'r rhain yn cyfeirio at y bobl ac nid ydynt yn raniadau daearyddol:
- y Gymuned Fflemaidd (Vlaamse Gemeenschap), yn siarad Iseldireg
- y Gymuned Ffrengig ei hiaith (Communauté Française)
- y Gymuned Almaeneg ei hiaith (Deutschsprachige Gemeinschaft)
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
|
|||||||
|
||||||||||
