Liechtenstein
Fürstentum Liechtenstein | |
![]() | |
Arwyddair |
Für Gott, Fürst und Vaterland ![]() |
---|---|
Math |
gwladwriaeth sofran ![]() |
Enwyd ar ôl |
Teulu Tywysogaidd Liechtenstein ![]() |
![]() | |
Prifddinas |
Vaduz ![]() |
Poblogaeth |
37,922 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
Oben am jungen Rhein ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Adrian Hasler ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Almaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd |
160 km² ![]() |
Gerllaw |
Afon Rhein ![]() |
Yn ffinio gyda |
Y Swistir, Awstria, yr Undeb Ewropeaidd ![]() |
Cyfesurynnau |
47.145°N 9.55389°E ![]() |
Cod post |
9485–9498 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Cabined Liechtenstein ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Landtag of Liechtenstein ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Tywysog Liechtenstein ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Hans-Adam II, Prince of Liechtenstein ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prime Minister of Liechtenstein ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Adrian Hasler ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) |
6,289 million US$ ![]() |
CMC y pen |
164,993 US$ ![]() |
Arian |
franc Swisaidd ![]() |
Cyfartaledd plant |
1.45 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.908 ![]() |
Gwlad fechan yng ngorllewin Ewrop rhwng y Swistir ac Awstria yw Tywysogaeth Liechtenstein neu Liechtenstein.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r mynyddoedd yn codi o Ddyffryn Rhein i uchderoedd o dros 2500m (8000').
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd y dywysogaeth ei ffurfio trwy uniad siroedd Vaduz a Schellenberg yn 1719. Bu'n rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig hyd 1806. Ffurfiodd y wlad undeb doll â'r Swistir yn 1923. Hyd at 1984 nid oedd gan ferched hawl i bleidleisio yn yr etholiad cenedlaethol.
Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Yr Almaeneg yw iaith swyddogol y wlad. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gatholigion a'r Eglwys Gatholig yw eglwys swyddogol y wlad.
Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]
Fel yng Nghymru mae tîm pêl-droed mawr Liechtenstein; FC Vaduz, yn chwarae yn y wlad drws nesaf sef y Swistir. Ar y lefel rhyngwladol mae tîm Leichtenstein yn chwarae ym mhencampwriaethau Ewrop, a'r Byd. Ar ben hyn mae un tîm o Gwpan Liechtenstein yn cael mynediad i'r UEFA Europa League, ac hyd yn oed wedi curo tîm o Latfia yn y European Cup Winners' Cup ym 1996.
Yn rhyngwladol mae nhw wedi trechu: Portiwgal 2-2 yn 2004 Lwcsembwrg 4-0 yn 2006 Gwlad yr Ia 3-0 yn 2007. Latfia 1-0 yn 2008
Yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf enillodd y Leichtensteinwraig Hanni Wenzel Fedal Aur a Medal Arian ym 1980. Mae dinasyddion eraill o'r wlad hefyd wedi ennill medalau, er bod ei phoblogaeth tua 1% o boblogaeth Cymru.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Er bod diwydiant ysgafn yn bwysig, twristiaeth yw un o brif ffynonellau incwm. Mae gwerthu stampiau hefyd yn bwysig i'r economi, on nid y o gymharu ag Arian. Mae diwydiant arian yn creu o leiaf 30% o drethi Leichtenstein. A chyda tua 73,700 o gwmniau yno mae mwy nag un cwmni i bob dinesydd. Ar ben hyn mae 'sefydliadau' neu Stiftungen cofrestredig yn Leichtenstein yn cadw arian a chyfoeth miloedd o dramorwyr di-breswyl yn saff rhag awdurdodau treth y byd. Treth uchaf i fusnesau fel hyn yw 20%, a chan fod angen aelod leol i bob cwmni mae cyfreithwyr masnachol y wlad yn elwa yn sylweddol.
- Treth incwm yw 1.2%.
- Treth leol bob comiwn yw 16.5%
- Yswiriant Cenedlaethol 4.3%
- Treth Etifeddu yn dechrau o 0.5%
O Awst 2009, mae llywodraeth Prydain wedi cytuno i rannu gwybodaeth ar y 5,000 o Brydeinwyr a'u £3biliwn mewn ymddiriedolaethau yn y wlad [1] yn ôl safle we y BBC.