Neidio i'r cynnwys

Yr Undeb Ewropeaidd

Oddi ar Wicipedia
yr Undeb Ewropeaidd
ArwyddairUnited in diversity Edit this on Wikidata
Mathsefydliad rhanbarthol, political economic union, supranational union, cydffederasiwn Edit this on Wikidata
European Union.ogg, Europäische Union.ogg, Union européenne.ogg, Ευρωπαϊκή Ένωση.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasDinas Brwsel Edit this on Wikidata
Poblogaeth450,380,320, 445,891,011 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemAnthem Ewrop Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Ffrangeg, Iseldireg, Daneg, Estoneg, Ffinneg, Almaeneg, Groeg, Hwngareg, Gwyddeleg, Eidaleg, Lithwaneg, Pwyleg, Portiwgaleg, Sbaeneg, Swedeg, Bwlgareg, Slofeneg, Slofaceg, Rwmaneg, Latfieg, Malteg, Croateg, Tsieceg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolArdal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Gwladinternationality Edit this on Wikidata
Arwynebedd4,236,351 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRwsia, Norwy, Belarws, Y Swistir, y Fatican, San Marino, Wcráin, Moldofa, Gogledd Macedonia, Albania, Twrci, Brasil, Swrinam, Monaco, Liechtenstein, Moroco, Bosnia a Hertsegofina, Montenegro, Andorra, Serbia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.1°N 9.2°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolComisiwn Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Rhestr Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganYr Eidal, Ffrainc, Lwcsembwrg, Gwlad Belg, Brenhiniaeth yr Iseldiroedd, Gorllewin yr Almaen Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$17,187,870 million, $16,641,392 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.876 Edit this on Wikidata

Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn gymuned wleidyddol ac economaidd sydd â nodweddion goruwchgenedlaethol a rhyng-lywodraethol. Mae'n cynnwys 27 o aelod-wladwriaethau. Sefydlwyd yr UE ym 1993 gan Gytundeb Maastricht, er i'r broses o integreiddio Ewropeaidd gychwyn gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE), a luniwyd gan chwe gwlad Ewropeaidd ym 1957.

Creodd yr UE farchnad sengl sy'n ceisio gwarantu'r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf yn ddirwystr rhwng yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn cynnwys polisïau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Ym 1999, cyflwynodd yr UE arian cyfredol cyffredin, sef yr ewro, a fabwysiadwyd gan 13 aelod-wladwriaeth. Mae hefyd wedi datblygu rôl mewn materion polisi tramor, a chyfiawnder a materion cartref.

Gyda bron 500 miliwn o ddinasyddion, cynhyrchodd yr UE gynnyrch mewnwladol crynswth y pen o 11.4 triliwn (£8 triliwn) yn 2007. Mae'n cynrychioli ei aelodau o fewn Sefydliad Masnach y Byd ac mae'n bresennol fel sylwedydd yn uwch-gynadleddau'r G8. Mae 21 o aelodau'r UE yn aelodau o NATO. Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol, sef Senedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd, Llys Cyfiawnder Ewrop a Llys Archwilwyr Ewrop, yn ogystal â gwahanol gyrff eraill, er enghraifft Banc Canolog Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae dinasyddion yr UE yn ethol aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd.

Yn y Deyrnas Unedig, cafwyd refferendwm yn 2016 ar y cwestiwn a ddylai'r DU adael yr UE neu aros yn aelod. Roedd mwyafrif pleidleisiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon i aros, yn ogystal ag ardaloedd eraill fel Llundain, Caerdydd, Gwynedd a Cheredigion. Er hynny roedd mwyafrif ar draws y DU i adael, o 52% i 48%.

Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn o wledydd i ail-adeiladu Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Cymuned Ewropeaidd Economaidd, neu Marchnad Gyffredin oedd enw cyntaf yr UE. Newidiwyd yr enw i Cymuned Ewropeaidd ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechrau fel undeb masnach datblygodd yr UE i fod yn undeb economaidd a gwleidyddol.

Aelod-wladwriaethau

[golygu | golygu cod]

Aelodau Presennol

[golygu | golygu cod]

Ers 1 Gorffennaf 2013 mae 28 o aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 6 o wledydd sefydlodd y CEE ym 1952/1958:

Ymunodd saith gwladwriaeth â'r CEE ar ôl y cychwyn:

Ffurfiwyd yr UE yn wreiddiol yn 1993 gan wladwriaethau'r CEE. Mae 15 o wladwriaethau pellach wedi ymuno â'r UE erbyn hyn:

Cafodd Yr Ynys Las ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadawodd yr UE ym 1985 ar ôl refferendwm. Gweler hefyd y brif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd.

Gadawodd y DU ym 2020 ar ôl refferendwm

Ymgeiswyr aelodaeth i'r UE

[golygu | golygu cod]

Mae pum gwlad yn ymgeiswyr swyddogol i fod yn rhan o'r UE: Gwlad yr Iâ, Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia Montenegro, Serbia, a Thwrci. Mae Albania a Bosnia a Hertsegofina yn cael eu hystyried yn swyddogol fel ymgeiswyr potensial. Rhestrir Cosofo fel ymgesiydd potensial hefyd, ond ni ystyrir Cosofo fel gwlad annibynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd gan nad yw pob gwlad yn cydnabod Cosofo fel gwlad gwbl ar wahân i Serbia.

Heb fod yn aelod-wladwriaethau o'r UE nac yn ymgeiswyr am aelodaeth, mae perthynas arbennig â'r UE gan sawl gwlad, e.e. Monaco ac Andorra.

Daearyddiaeth a phoblogaeth

[golygu | golygu cod]

Mae maint holl dirwedd 25 aelod-wladwriaeth yr UE (2004) yn 3,892,685 km². Petasai'r UE yn un wlad, byddai'n seithfed fwyaf yn y byd. Roedd poblogaeth yr UE (sef poblogaeth aelod-wladwriaethau'r UE o dan delerau Cytundeb Maastricht) yn 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 ac felly, petasai'n un wlad, yn drydedd ar ôl India a Tsieina.

Llywodraethu

[golygu | golygu cod]

Statws

[golygu | golygu cod]

Yr Undeb Ewropeaidd yw'r gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus yn y byd. Mae nifer o aelod-wladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, marchnad fewnol, masnach dramor) ac felly mae'r UE yn datblygu yn rhywbeth tebyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, nid ydyw'n wlad ffederal, ond mae'n pwysleisio "subsidiarity" (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau mor agos â phosib i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau). Mae'r aelod-wladwriaethau yn rheoli'r cytundebau ac ni all yr UE drosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-wladwriaethau i'r UE.

Fframwaith sefydliadol

[golygu | golygu cod]

Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol:

Sefydliadau gwleidyddol yw'r Senedd, y Cyngor a'r Comisiwn, sy'n dal grym gweithredol a deddfwriaethol yr Undeb. Mae'r Senedd yn cynrychioli'r dinasyddion, mae'r Cyngor yn cynrychioli eu llywodraethau, ac mae'r Comisiwn yn cynrychioli'r budd Ewropeaidd cyffredinol. Y Comisiwn yn unig sydd â'r hawl i ddrafftio deddfwriaeth. Cyflwynir deddfwriaeth ddrafft i'r Senedd a'r Cyngor, y mae rhaid iddynt ei chymeradwyo, er bod y weithdrefn benodol yn dibynnu ar bwnc y ddeddfwriaeth dan sylw. Unwaith wedi'i chymeradwyo ac wedi'i llofnodi, mae'r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Dyletswydd y Comisiwn yw sicrhau y cydymffurfir â chyfraith yr Undeb.

Deg gwlad mwyaf eu heconomi - gan gyfrif yr Undeb Ewropeaidd fel un wlad; mwyaf o ran Cynnyrch mewnwladol crynswth yn 2011.[1]

Mae hefyd nifer o gyrff ac asiantaethau pwysig eraill nad ydynt yn sefydliadau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys dau bwyllgor ymgynghorol, sef Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhoi eu cyngor ynghylch materion rhanbarthol, economaidd a chymdeithasol.

Mae cyrff ac asiantaethau eraill yn cynnwys:

Bydd Cytundeb Lisbon yn gwneud nifer o newidiadau i fframwaith sefydliadol yr Undeb. Daw'r Cyngor Ewropeaidd a Banc Canolog Ewrop yn sefydliadau llawn, a chaiff Llys y Gwrandawiad Cyntaf ei ailenwi yn "Lys Cyffredinol".

Polisïau

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd yr UE fel grŵp o wledydd yn cydweithredu'n economaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd wedyn i gynnwys cydweithredu gwleidyddiol. Fel hynny, roedd pŵer gwleidyddiol yn symud o'r aelod-wladwriaethau i sefydliadau'r UE. Beth bynnag, mae hynny'n cael ei cydbwyso gan y ffaith bod gan nifer o aelod-wladwriaethau draddodiad o lywodraeth gryf yn eu rhanbarthau. Mae pwysigrwydd rhanbarthau Ewrop yn cynyddu a sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau trwy Gytundeb Maastricht.

Statws yr iaith Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Ers blynyddoedd mae unigolion a grwpiau wedi bod yn pwyso ar yr Undeb a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi statws swyddogol yr iaith Gymraeg o fewn yr Undeb.

Ar 20 Tachwedd 2008, gwnaeth Alun Ffred Jones hanes drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfod o Gyngor Gweinidogion Undeb Ewrop am y tro cyntaf erioed. Siaradodd fel Gweinidog dros Dreftadaeth Cymru yn rhan o ddirprwyaeth y DU i'r cyfarfod. Cyfieithwyd araith y gweinidog mewn canlyniad i gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ac Undeb Ewrop a gytunwyd yng Ngorffennaf 2008.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Nodiadau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ffigyrau Medi 2011 wedi'u darparu gan yr International Monetary Fund: World Economic Outlook Database. Figure for EU, accessed 22 September 2011. Ffigyrau gwledydd y byd, adalwyd 22 Medi 2011.
  2. BBC Cymru: 'Carreg Filltir i'r iaith' Adroddiad sy'n cynnwys clip fideo o'r digwyddiad.

Ffynonellau eraill

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Sefydliadau

[golygu | golygu cod]

Cyrff eraill

[golygu | golygu cod]
Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd
1951/1952 1957/1958 1965/1967 1992/1993 1997/1999 2001/2003 2007/2009 (?)
U N D E B   E W R O P E A I D D   ( U E )
Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD)
Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) Cymuned Ewropeaidd (CE)
Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom)
Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac Euratom Cyfiawnder a Materion Cartref  
Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol
mewn Materion Trosedd
Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC)
Cytundeb Paris Cytundebau Rhufain Cytundeb Cyfuno Cytundeb Maastricht Cytundeb Amsterdam Cytundeb Nice Cytundeb Lisbon

"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd"
(y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol)