UEFA

Oddi ar Wicipedia
UEFA
Enghraifft o'r canlynolcorff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol, ffederasiwn pêl-droed, sefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu15 Mehefin 1954 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed Edit this on Wikidata
PencadlysNyon Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Swistir Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.uefa.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yr Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewropaidd neu UEFA (Saesneg: Union of European Football Associations, Ffrangeg Union des associations Européennes de football‎) ydi'r corff llywodraethol ar gyfer pêl-droed yn Ewrop er fod sawl aelod â thiriogaethau sy'n rhanol neu'n llwyr ar gyfandir Affrica ac Asia. Mae UEFA yn un o chwe chonffederasiwn corff llywodraethol y byd pêl-droed, FIFA, ac mae 54 o gymdeithasau pêl-droed yn aelodau.

Mae UEFA yn cynrychioli cymdeithasau pêl-droed cenedlaethol Ewrop, yn rhedeg cystadlaethau rhyngwladol a chystadlaethau clwb gan gynnwys Pencampwriaeth UEFA Ewrop, Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Cynghrair Europa UEFA a Super Cup UEFA. Mae UEFA yn rheoli'r arian gwobr, y rheolau, a'r hawliau darlledu ar gyfer y cystadlaethau hynny.

Lleolwyd pencadlys cyntaf UEFA ym Mharis cyn iddynt symud i Bern ym 1959 ond ym 1995 symudodd UEFA ei bencadlys i dref Nyon yng ngorllewin y Swistir[1]. Michel Platini ydi'r llywydd presennol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd UEFA ar 15 Mehefin 1954 mewn cyfarfod yn Basel, y Swistir yn dilyn trafodaethau rhwng Cymdeithasau pêl-droed Yr Eidal, Ffrainc a Gwlad Belg[2] gyda 31 o gymdeithasau yn cytuno i uno o dan orychwyliaeth y corff newydd[3].

Aelodau[golygu | golygu cod]

Mae 54 aelod yn UEFA gyda sawl gwlad trawsgyfandirol yn dewis bod yn rhan o UEFA yn hytrach na Chonffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC). Y gwledydd hyn yw Armenia, Aserbaijan, Casachstan, Cyprus, Georgia a Rwsia.

Mae Israel wedi bod yn aelodau UEFA ers 1994 ar ôl cael eu diarddel o'r AFC ym 1974[4][5]. Mae Casachstan hefyd yn gyn-aelodau o'r AFC[6].

Cyn-aelodau[golygu | golygu cod]

  • Undeb Pêl-droed Saarland (1954–1956)
  • Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (1954-1990)
  • Baner Undeb Sofietaidd Ffederasiwn Pêl-droed yr Undeb Sofietaidd (1954-1991) daeth yn Undeb Pêl-droed Rwsia ym 1992 gyda'r 14 cyn Weeriniaeth Sofietaidd yn creu eu cymdeithasau eu hunain gan ddod yn aelodau unigol o FIFA ac UEFA neu'r AFC.
  • Baner Iwgoslafia Cymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia (1954–1992) daeth yn Gymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro ym 1992. Daeth Bosnia-Hertsegofina, Croatia, Macedonia a Slofenia yn annibynnol a chreu eu cymdeithasau pêl-droed eu hunain.
  • Cymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro (1992–2006) daeth yn Gymdeithas Bêl-droed Serbia yn 2006. Creodd Montenegro, oedd wedi sicrhau annibyniaeth, ei cymdeithas bêl-droed ei hun.

Pencampwyr presennol[golygu | golygu cod]

Pencampwriaeth Pencampwyr Cyst. nesaf
Pencampwriaeth UEFA Ewrop Baner Sbaen Sbaen 2016 (Meh-Gorff)
Pencampwriaeth dan21 UEFA Ewrop Baner Sweden Sweden 2017 (Mehefin)
Pencampwriaeth dan19 UEFA Ewrop Baner Sbaen Sbaen 2016 (Gorffennaf)
Pencampwriaeth dan17 UEFA Ewrop Baner Ffrainc Ffrainc 2016 (Mai)
Pencampwriaeth Merched UEFA Baner Yr Almaen Yr Almaen 2017 (Gorff–Awst)
Pencampwriaeth Merched dan19 UEFA Ewrop Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd 2015 (Gorffennaf)
Pencampwriaeth Merched dan17 UEFA Ewrop Baner Sbaen Sbaen 2016 (Meh–Gorff)
Cynghrair y Pencampwyr UEFA Baner Sbaen Barcelona 2015–16
Cynghrair Europa UEFA Baner Sbaen Sevilla 2015-16
Super Cup UEFA Baner Sbaen Real Madrid 2015 (Awst)
Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA Baner Yr Almaen FFC Frankfurt 2015-16
Cwpan Futsal UEFA Baner Casachstan Kairat Almaty 2015-16
Pencampwriaeth Futsal UEFA Baner Yr Eidal Yr Eidal 2016 (Chwefror)
Cwpan Rhanbarthau UEFA Baner Yr Eidal Veneto 2015 (Meh–Gorff)
Cynghrair Ieuenctid UEFA Baner Lloegr Chelsea 2015–16

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "UEFA: Location Changes". UEFA.org.
  2. "History 1954-1980". UEFA.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-02. Cyrchwyd 2015-07-21.
  3. "History of UEFA". Uefa.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-08. Cyrchwyd 2014-12-27.
  4. "Aust-Asian bid fails". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "UEFA: Israel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-07. Cyrchwyd 2014-12-27. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "UEFA: Kazakhstan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-08. Cyrchwyd 2014-12-27. Unknown parameter |published= ignored (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]