Estonia

Oddi ar Wicipedia
Estonia
Eesti Vabariik
ArwyddairEpic Estonia Edit this on Wikidata
Mathgwlad, gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth unedol, gweriniaeth, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig, gwlad OECD Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlVirumaa, Ugandi County Edit this on Wikidata
PrifddinasTallinn Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,366,491 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 24 Chwefror 1918 Edit this on Wikidata
AnthemMu isamaa, mu õnn ja rõõm Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKaja Kallas Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Estoneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwledydd Baltig, Gogledd Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd45,335 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig, Llyn Peipus Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLatfia, Rwsia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau59°N 26°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Gweriniaeth Estonia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholRiigikogu Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Estonia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAlar Karis Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Estonia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKaja Kallas Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$37,191 million, $38,101 million Edit this on Wikidata
CMC y pen$23,758, $23,181 Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5.4 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.52 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.89 Edit this on Wikidata

Gwlad yng ngogledd-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Estonia neu Estonia (Estoneg: Eesti). Mae Estonia yn ffinio â Latfia i'r de, â Llyn Peipus ac â Rwsia i'r dwyrain. Gwahanir y wlad oddi wrth y Ffindir gan Gwlff y Ffindir i'r gogledd ac oddi wrth Sweden gan y Môr Llychlyn i'r gorllewin. Un o'r Gwledydd Baltig yw Estonia, ynghyd â Latfia a Lithwania.

Eglwys Kose yn Estonia. Mae'r sylfaeni'n tarddu nôl i 1370, y tŵr yn 1430 a'r pigyn yn 1873.

Mae Estonia wedi bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ers 1 Mai 2004 ac o Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (SCGI) ers 29 Mawrth 2004.

Iaith Wralaidd yw'r Estoneg, sy'n rhannu llawer o nodweddion â Ffinneg a'r ieithoedd Saamaidd, ac sy'n perthyn o bell i Hwngareg.

Credir bod enw modern Estonia yn tarddu o'r hanesydd Rhufeinig Tacitus, a ddisgrifiodd yn ei lyfr Germania bobl a alwyd yn Aestii. Yn gyffelyb, mae sagâu hynafol Sgandinafaidd yn cyfeirio at wlad o'r enw Eistland. Mewn ffynonellau Lladinaidd a ffynonellau cynnar eraill, galwyd y wlad yn Estia neu Hestia.

Mae tiriogaeth Estonia yn cynnwys 2,222 o ynysoedd yn y Mor Baltig yn ogystal â'r tir mawr, a mae cyfanswm ei harwynebedd yn 45,339 cilomedr sgwar (17,505 milltir sgwar).

Mae pobl wedi byw yn nhiriogaeth Estonia ers o leiaf 6,500 o flynyddoedd. Dros y canrifoedd, fe reolwyd rhannau o'r wlad gan farchogion Ellmynaidd, Denmarc, Sweden, Pwyl-Lithwania a Rwsia yn eu tro. Bu deffroad cenedlaethol yn Estonia yn y 19g ac arweiniodd hynny at sicrhau annbyniaeth oddi wrth ymerodraeth Rwsia yn 1918.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Estonia ei meddiannu gan yr Undeb Sofietaidd yn 1940, ac yna yr Almaen Naziaidd y flwyddyn ganlynol, hyd nes iddi gael ei hadfeddiannu gan yr Undeb Sofietaidd yn 1944 a hynny fel y Weriniaieth Sofiet Sosialaidd Estonaidd.

Adenillodd Estonia ei hannibyniaeth ar 20 Awst 1991. Mae bellach yn weriniaeth seneddol unedol ddemocrataidd sydd wedi'i rhannu yn bymtheg sir. Y brifddinas, a'r ddinas fwyaf, yw Tallinn. Gyda phoblogaeth o 1.3 miliwn, Estonia yw un o aelod-wladwriaethau lleiaf poblog yr Undeb Ewropeaidd a dim ond yr Islandeg sy'n iaith lai ei siaradwyr a ddefnyddir i redeg gwladwriaeth gyfan.

Mae Estonia yn wlad ddatblygiedig gydag economi flaengar, incwm uchel sydd ymhlith y rhai sy'n tyfu gyflymaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ei Mynegai Datblygiad Dynol yn uchel iawn ac mae'n perfformio'n uchel iawn ar fesuriadau rhyddid economaidd, rhyddfreiniau a rhyddid y wasg. Roedd prawf PISA 2015 yn gosod ysgolion uwchradd Estonia yn drydydd yn y byd, ar ôl Singapôr a Japan. Mae dinasyddion Estonia yn derbyn gwasanaeth iechyd, addysg am ddim, a'r cyfnod mamolaeth hiraf gyda thâl yn yr OECD. Ers iddi gael ei hannibyniaeth, mae'r wlad wedi datblygu ei sector technoleg gwybodaeth yn gyflym, gan ddod yn un o gymdeithasau digidol mwyaf blaengar y byd. Yn 2005 Estonia oedd y genedl gyntaf i gynnal etholiadau ar y rhyngrwyd, ac yn 2014 y genedl gyntaf i ddarparu E-breswyliad.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Dinasoedd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am Estonia
yn Wiciadur.