Yr Undeb Sofietaidd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Союз Советских Социалистических Республик
Soyuz Sovetskikh Sotsialisticheskikh Respublik

Undeb Gweriniaethau Sofietaidd sosialaidd
Baner yr Undeb Sofietaidd Arfbais yr Undeb Sofietaidd
Baner Arfbais
Arwyddair: Пролетарии всех стран, соединяйтесь!
(Trawslythreniad: Proletarii vsekh stran, soedinyaytes!')
Cyfieithiad: Weithwyr y byd, unwch!)
Anthem: Yr Internationale (192244)
Emyn yr Undeb Sofietaidd (194491)
Lleoliad yr Undeb Sofietaidd
Prifddinas Moscfa
Dinas fwyaf Moscfa
Iaith / Ieithoedd swyddogol dim; Rwsieg mewn ffaith
Llywodraeth Gwladwriaeth sosialaidd/
Ffederasiwn Gweriniaethau Sofietaidd
Arlywydd olaf Mikhail Gorbachev
Prif Weinidog olaf Ivan Silayev
Sefydlwyd
Datganwyd
Cydnabuwyd
Diddymwyd
Chwyldro Hydref
30 Rhagfyr 1922
31 Ionawr 1924
25/26 Rhagfyr 1991
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
22 402 200 km² (1af)
0.5
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 1991
 - Dwysedd
 
293 047 571 (3ydd)
13.08/km² (dim safle)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif n/a
n/a (n/a)
n/a (n/a)
Indecs Datblygiad Dynol (n/a)  (n/a) – dim
Arian cyfred Rŵbl Sofietaidd (SUR)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC+2 i +13)
Côd ISO y wlad .su
Côd ffôn +7

Gwladwriaeth Sosialaidd un-blaid yng ngogledd Ewrasia o 1922 i 1991 oedd yr Undeb Sofietaidd (Rwsieg: Союз Советских Социалистических Республик (CCCP) Soyuz Sovetskikh Sotsialisticheskikh Respublik (SSSR)). Llywodraethwyd y wlad gan y Blaid Gomiwnyddol (КПСС) a hynny o Fosgo, prifddinas yr Undeb Sofietaidd.[1] Er mai undeb o nifer o weriniaethau llai oedd yr Undeb Sofietaidd roedd ei lywodraeth wedi'i ganoli'n llwyr ym Mosgo. Y mwyaf o'r gweriniaethau hyn oedd "Rwsia", o ran maint, poblogaeth, economeg a dylanwad gwleidyddol. Yn achlysurol, newidiai ei ffiniau ac roedd o ran maint ei harwynebedd bron mor fawr ag Ymerodraeth Rwsia heb Wlad Pwyl a'r Ffindir.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tarddiad yr Undeb Sofietaidd i'w ganfod yn y diffyg bwyd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf a arweiniodd i Chwyldro Rwsia yn 1917 a phan ymunodd mwyafrif milwyr Petrograd â'r chwyldro gorfodwyd y Tsar Nicholas II i ymddiswyddo o'i frenhiniaeth.

Arweiniwyd y Bolshevikiaid gan Vladimir Lenin a gorchfygwyd y Llywodraeth Dros-dro. Sefydlwyd "Gwladwriaeth Sofiet Sosialaidd, Ffederal Rwsia" a chychwynodd Rhyfel Cartref Rwsia. Cefnogwyd y Comiwnyddion gan y fyddin a chymerwyd drosod peth tir yn yr hen Ymerodraeth. Erbyn 1922 roedd hi'n amlwg mai'r Bolshevikiaid oedd wedi trechu a ffurfiwyd Undeb allan o'r is-weriniaethau llai megis Rwsia, Armenia, Wcrain a Bielorwsia. Yn dilyn marwolaeth Lenin yn 1924, a mân-frwydrau am rym, daeth Joseph Stalin i'r brig yng nghanol y 1920au. Fe sodrodd ideoleg y wlad yn sownd mewn Marxiaeth–Lenini a dilynodd hynny drwy ganoli pwer ac economi'r Undeb. O ganlyniad gwelwyd twf aruthrol yn niwydiant a chyfunoliad y wlad. Cyflwynodd Stalin y Cynlluniau Pum Mlynedd a ffermau cyfunol. Datblygodd yr Undeb Sofietaidd ac erbyn 1922 roedd yn wlad ddiwydiannol pwysig iawn. Roedd hyn yn ei pharatoi'n solad ar gyfer yr Ail Ryfel Byd.[2] Pan welodd Stalin fod Ffasgaeth yn chwalu drwy'r wlad fel tân gwyllt, cychwynodd greu panig politicaidd a system garchardai'r Gwlag a barhaodd hyd at y 1950au.

Cydnabyddwyd nerth yr Undeb Sofietaidd ers yr Ail Ryfel Byd oherwydd ei nerth milwrol, cymorth i wledydd datblygol ac ymchwil gwyddonol, yn bennaf ar gyfer technoleg gofod ac arfau. Fodd bynnag, roedd perthynas yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau wedi dirywio'n enbyd ac o ganlyniad dechreuodd y Rhyfel Oer. Adeiladwyd Sputnik I, y lloeren gyntaf i gylchdroi'r ddaear yn yr Undeb Sofietaidd.

Yn ail hanner y 1980au cyhoeddodd Mikhail Gorbachev, Ysgrifennydd Cyffredin y Blaid Gomiwnyddol, bolisi o glasnost (didwylledd) a perestroika (newid y strwythur economaidd). O ganlyniad cafwyd cyfarfod rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd ym 1986 a 1987 a chyfarfu Ronald Reagan, Arlywydd yr Unol Daleithiau gyda Gorbachev ym 1988 a chafodd nifer o arfau yn Ewrop eu lleihau.

Cyn yr Undeb Sofietaidd roedd gwledydd comiwnyddol dwyrain Ewrop yn datgyfannu. Ond o dan reolaeth Boris Yeltsin diddymodd yr Undeb Sofietaidd yn heddychol ym mis Rhagfyr 1991. Ymunodd y mwyafrif o aelod-gweriniaethau yr Undeb Sofietaidd â'r Gymanwlad Gwladwriaethau Annibynnol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Bridget O'Laughlin (1975) Marxist Approaches in Anthropology Annual Review of Anthropology Cyfrol 4: tud. 341–70 (Hydref 1975) doi:10.1146/annurev.an.04.100175.002013.
    William Roseberry (1997) Marx and Anthropology Annual Review of Anthropology, Cyfrol 26: tud. 25–46 (Hydref 1997) doi:10.1146/annurev.anthro.26.1.25
  2. Robert Service (9 Medi 2005). Stalin: a biography. Picador. ISBN 978-0-330-41913-0.