Sweden
| Konungariket Sverige | |
| Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Swedes |
| Prifddinas | Stockholm |
| Dinas fwyaf | Stockholm |
| Poblogaeth | 10,609,460 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Du gamla, du fria |
| Pennaeth llywodraeth | Ulf Kristersson |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swedeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Gwledydd Nordig, Llychlyn, yr Undeb Ewropeaidd, Gogledd Ewrop |
| Arwynebedd | 447,425.16 km² |
| Gerllaw | Y Môr Baltig, Kattegat, Øresund |
| Yn ffinio gyda | Y Ffindir, Norwy, Denmarc |
| Cyfesurynnau | 61°N 15°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Sweden |
| Corff deddfwriaethol | Senedd Sweden |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Sweden |
| Pennaeth y wladwriaeth | Carl XVI Gustaf o Sweden |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Sweden |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ulf Kristersson |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $636,856 million, $585,939 million |
| Arian | krona |
| Canran y diwaith | 8.4 canran |
| Cyfartaledd plant | 1.43 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.947 |
Un o wledydd Llychlyn, yng ngogledd Ewrop, yw Teyrnas Sweden neu Sweden (Swedeg, Sverige). Er ei bod yn un o wledydd mwyaf Ewrop o ran arwynebedd, yn mesur 450,000 cilometr sgwâr, mae'r boblogaeth yn gymharol isel ac wedi ei chrynhoi yn y trefi a'r dinasoedd ar y cyfan. Stockholm yw'r brifddinas.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Daearyddiaeth Sweden

Sweden yw'r fwyaf o wledydd Llychlyn yng ngogledd-orllewin Ewrop. Mae'n ffinio ar Norwy yn y gorllewin ac ar y Ffindir yn y dwyrain. Yn y de-orllewin, mae culforoedd y Kattegat a'r Skagerrak yn ei gwahanu oddi wrth Denmarc.
Mae llawer o dde a dwyrain Sweden yn dir cymharol isel, ond mae'r gorllewin yn fynyddig, yn enwedig o gwmpas y ffin â Norwy. Y copa uchaf yw Kebnekaise, 2,111 medr uwch lefel y môr. Gorchuddir tua 78% o'r wlad gan fforestydd, ac mae gan y wlad tua 95,700 o lynnoedd; y mwyaf o'r rhain yw Llyn Vänern a Llyn Vättern. Llyn Vänern yw'r trydydd fwyaf yn Ewrop. Mae gan Sweden nifer o ynysoedd; y ddwy fwyaf yw Gotland ac Öland yn y Môr Baltig.
Dinasoedd a threfi mwyaf Sweden yw:
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif: Hanes Sweden
Cododd Sweden gyfoes o'r Undeb Kalmar a ffurfiwyd yn 1397 ac o uno'r wlad gan y brenin Gustav Vasa yn yr 16g. Yn yr 17eg ganrif, ymledaenodd Sweden ei thiriogaethau i ffurfio'r Ymerodraeth Swedaidd. Yn y 18g, bu rhaid i Sweden ildio'r rhan fwyaf o'r tiriogaethau yr oedd wedi eu goresgyn. Collwyd y Ffindir a'r tiriogaethau a oedd yn weddill tu allan i benrhyn Llychlyn yn gynnar yn y 19g. Yn dilyn diwedd y rhyfel olaf rhyngddynt yn 1814, daeth Sweden yn rhan o undeb gyda Norwy a barhaodd hyd 1905. Ers 1814, mae Sweden wedi bod yn wlad heddychlon gan fabwysiadu bolisi tramor o niwtraliaeth yn ystod cyfnodau o heddwch a rhyfel.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Gwleidyddiaeth Sweden
Diwylliant yn Sweden modern
[golygu | golygu cod]- Prif: Diwylliant Sweden
Pobl
[golygu | golygu cod]- Ingmar Bergman; cynhyrchydd y ffilm Summer with Monika
- Arne Mattsson; cynhyrchydd y ffilm One Summer of Happiness
- Anna Whitlock; ffeminist a swffragét (13 Mehefin 1852 - 16 Mehefin 1930)
