Ynys

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y tirffurf yw hon. Am y pentref yng Ngwynedd gweler Ynys (Llanfihangel-y-traethau).
Ynys Moelfre oddi ar Ynys Môn, Cymru

Darn o dir a amgylchynnir gan ddŵr yw ynys (ac eithrio'r cyfandiroedd). Gall fod yn y môr neu ar y tir. Ynys fwyaf y byd yw Yr Ynys Las (2.2 miliwn km² / 840,000 milltir sgwâr).

Mae ynysoedd cyfandirol, fel Prydain, yn gorwedd ar silffoedd cyfandirol gyda dim ond sianel o ddŵr rhyngddyn nhw â'r tir mawr, fel rheol.

Mae ynysoedd cefnforol orogenig yn tueddu i orwedd lle mae dau blât lithosfferig yn cwrdd. Mae ynysoedd Siapan yn odweddiadol o'r fath yma o ynys.

Yn rhannau dyfnaf y cefnforoedd ceir ynysoedd cefnforol fwlcanig, fel ynysoedd Hawaii. Mae'r rhain yn arbennig o gyffredin yn y Cefnfor Tawel. Mae gan nifer o ynysoedd coral seiliau fwlcanig hefyd.

Ynysoedd mwyaf y byd[golygu | golygu cod]

Ynys Môr Arwynebedd (km²) Gwlad/Gwledydd
1. Yr Ynys Las Cefnfor yr Iwerydd/Cefnfor yr Arctig 2,130,800 Yr Ynys Las, Cenedl ymreolaethol oddi mewn Denmarc
2. Gini Newydd Y Cefnfor Tawel 785,753 Indonesia/Papua Gini Newydd
3. Borneo Y Cefnfor Tawel 748,168 Indonesia/Maleisia/Brwnei
4. Madagasgar Cefnfor India 587,042 Madagasgar
5. Ynys Baffin Cefnfor yr Iwerydd/Cefnfor yr Arctig 507,451 Canada
6. Sumatra Cefnfor India 443,066 Indonesia
7. Honshū Y Cefnfor Tawel 230,316 Japan
8. Prydain Fawr Cefnfor yr Iwerydd 219,331 Cymru/Lloegr/Yr Alban
9. Ynys Victoria Cefnfor yr Arctig 217,291 Canada
10. Ynys Ellesmere Cefnfor yr Arctig 196,236 Canada
Ynys Enlli

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am ynys
yn Wiciadur.