Uppsala
Gwedd
| Math | ardal trefol Sweden, dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 174,982 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Uppsala |
| Gwlad | Sweden |
| Arwynebedd | 4,579 ±0.5 ha |
| Uwch y môr | 15 metr |
| Cyfesurynnau | 59.849761°N 17.638947°E |
| Cod post | 751 70 - 757 59 |
![]() | |

Dinas yn Sweden a phrifddinas Talaith Uppsala yw Uppsala. Hi yw pedwaredd dinas Sweden o ran poblogaeth. Saif 78 km i'r gogledd-orllewin o Stockholm.
Ers 1164, mae Uppsala yn ganolfan eglwysig Sweden, gan ei bod yn sedd Archesgob Eglwys Sweden.
Prifysgol Uppsala, a sefydlwyd yn 1477, yw'r hynaf yng ngwledydd Llychlyn. Ymysg ei myfyrwyr enwog mae Carolus Linnaeus, Dag Hammarskjöld, Anders Celsius a Jöns Jacob Berzelius. Roedd y cyfarwyddwr ffilm Ingmar Bergman yn enedigol o Uppsala.
Enwogion eraill
[golygu | golygu cod]- Hans Rosling (1948-2017), meddyg
- Magdalena Andersson (g. 1967), Prif Weinidog Sweden Tachwedd 2021
