Lithwania
|
| |
| Lietuvos Respublika | |
|
| |
| Arwyddair |
Vienybė težydi |
|---|---|
| Math |
gwladwriaeth sofran |
| Prifddinas |
Vilnius |
| Poblogaeth |
2,810,118 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem |
Tautiška giesmė |
| Pennaeth llywodraeth |
Saulius Skvernelis |
| Cylchfa amser |
UTC+2 |
| Nawddsant |
Sant Casimir |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Lithwaneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol |
Gwledydd Baltig |
| Arwynebedd |
65,300 ±1 km² |
| Gerllaw |
Y Môr Baltig |
| Yn ffinio gyda |
Belarws, Latfia, Gwlad Pwyl, Rwsia |
| Cyfesurynnau |
55.2°N 24°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol |
Llywodraeth Lithwania |
| Corff deddfwriaethol |
Seimas |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Llywydd Gweriniaeth Lithwania |
| Pennaeth y wladwriaeth |
Dalia Grybauskaitė |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prif Weinidog Lithwania |
| Pennaeth y Llywodraeth |
Saulius Skvernelis |
|
| |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) |
$47,168 million |
| CMC y pen |
$14,147 ±0.01 |
| Arian |
Ewro |
| Chwyddiant |
2 ±0.1 % |
|
8,729,461,247 ±1 $ (UDA) | |
| Canran y diwaith |
11 ±1 % |
| Cyfartaledd plant |
1.59 |
| Mynegai Datblygiad Dynol |
0.839 |
| Gwefan |
www.lietuva.lt |
Gweriniaeth yng ngogledd-ddwyrain Ewrop yw Lithwania (hefyd weithiau Lithwania, yn swyddogol Gweriniaeth Lithwania; ceir y ffurf Llethaw mewn un geiriadur Cymraeg[1]). Saif ar lan y Môr Baltig. Un o'r Gwledydd Baltig yw Lithwania, ynghyd ag Estonia a Latfia. Mae Lithwania yn ffinio â Latfia i'r gogledd, â Belarws i'r de-ddwyrain, ac â Gwlad Pwyl a Kaliningrad Oblast, sy'n ran o Rwsia, i'r de-orllewin. Daeth Lithwania yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Mai 2004.
Hanes Lithwania[golygu | golygu cod y dudalen]
Prif-bwyntiau Hanes Lithwania
10 Ganrif -Llywthau Lithwnaiad-Prwsiaid paganaid
980au-Cristnogaeth yn dod i gymdogion y Lithwaniaid-Prwsiaid
997-Merthyrdod St Adalbert ym Mrwsia
1007-Son cyntaf am Lithwania mewn dogfen
1147-Croesgad cyntaf yn erbyn paganiaid Baltaidd - tranc y Prwsiaid
1200-Ail groesgad yn erbyn y Lithwaniaid
1215Esgob cyntaf y Lithwaniaid ond y wlad yn bagan o hyd
1219Mindaugas -Brenin cyntaf y Lithwaniaid 1219-63
1236Lithwaniaid yn gorfygu y croesgadwyr ym mrwydr Siaulai
1315Gediminas yn arwain Lithwania 1315-41
1385 Jogaila yn cael ei bedyddio, Lithwania yn troi yn Gristnogol a ffurfio Brenhiniaeth Lithwania-Pwyl
1410Lithwania-Pwyl yn trechu'r Almaenwyr ym mrwydr Grunwald. Ffyniant y wlad.
1569Lithwania-Pwyl yn ffurfio "Cymanwlad"
16CTwf Rwsia a Sweden yn raddol dileu tiroedd y Lithwaniaid, mae'r wlad yn cael ei rhannu dro ar ôl tro dros y dair canrif wedyn. Adnabyddir y cyfnod yn well fel "rhaniad triphlyg Pwyl"
19CLithwania dan Ymerodraeth Rwsia, mudiad am annibynniaeth yn egino
1918- 1939-Ar 16/02/1918 mae'r Lithwaniaid yn datgan annibynniaeth, ond y Pwyliaid yn cymryd Vilnius ym 1919. Cawnas yn Brifddinas. Cyfnod annibynnol yn symud at unbenaeth
1940- Meddianu Lithwania gan y Rwsiaid (Sofietaidd)
1940-44- Meddianu Lithwania gan y Natsiaid
1944-89Meddianu Lithwania gan y Rwsiaid (Sofietaidd) fel Gweriniaeth Sofiet gyda Vilnius yn brifddinas
1990Ar 11/03 1990 mae'r Lithwaniaid yn datgan annibynniaeth.
2004Ymuno a NATO 2004 a'r Undeb Ewropeaidd
2007Ymuno a Chytundeb Schengen
Hanes Fodern[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae hanes fodern Lithiwania ynglwm wrth hanes y cenhedloedd mawr yn yr 20g. Gyda chwymp ymerodraeth yr Almaen ym 1918 daeth hi, a'i chymdogion Estonia a Latfia, yn rhydd ac yn genhedloedd annibynnol. Daeth hyn i ben dan y gytundeb rhwng Rwsia a'r Almaen ym 1939. Yn ystod y rhyfel meddiannwyd y wlad gan y Natsiaid a bu farw 190,000 o ddinasyddion Iddewig Lithwania. Wedi'r rhyfel aeth y wlad i fewn i'r Undeb Sofietaidd tan 1991. O 1944 tan 1952 roedd byddin cudd gwrth-Sofiet yn y wlad a charcharwyd miloedd o Lithwaniaid yn y Gwlagau. Ers ei hannibyniaeth symudodd y wlad tuag at Ewrop, ymunodd a'r UE a NATO a bu ffyniant economaidd. Ond gydag agor y drysau i allfudo gadawodd miloedd o bobl ifainc am Brydain ac yr Almaen.
Ethnigrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae poblogaeth Lithwania yn amrywio (mae'r ffigyrau swyddogol yn cynnwys pobl sy'n byw tramor) ond honnir bod 3,349,900, 84.0% o'r rhain yn Lithwaniaid ethnig sy'n siarad yr iaith Lithwaneg sef unig iaith swyddogol y wlad. Mae lleiafrifoedd eraill yn cynnwys Pwyliaid (6.1%), Rwsiaid (4.9%) a Belarwsiaid (1.1%), yn ôl "Department of Statistics to the Government of the Republic of Lithwania".[2]
Ffigyrau 2010 yn dangos:
- Lithwaniaid – 83.1% (2,765,600)
- Pwyliaid – 6.0% (201,500)
- Rwsiaid – 4.8% (161,700)
- Belarwsiaid – 1.1% (35,900)
- Ukrainiaid – 0.6% (19,700)
- Almaenwyr – 0.1% (3,200)
- Iddewon – 0.1% (3,200)
- Tatariaid – 0.1% (2,800)
- Latfiaid – 0.1% (2,300)
- Roma – 0.1% (2,400)
- Eraill – 0.2% (8,200)
- Heb ddweud – 3.7% (122,500)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ The Pocket Modern Welsh Dictionary
- ↑ Yr etholiadau
- "The Northern Crusades". Eric Christiansen. Penguin. 1997. (Hanes y Gwledydd Baltaidd)
- "Pe Bai Cymru'n Rhydd". Gwynfor Evans. Y Lolfa. 1989. Pennod ar y Gwledydd Baltaidd.
- "Lithwania". Encyclopedia Britannica. darllenwyd 9 Hydref 2010.
- "Population by ethnicity 2009 year". DB1.stat.gov.lt. Statistics Lithwania. darllenwyd 20 Ionawr 2010.
- Statistics Lithwania
| ||||||||||