Daearyddiaeth Sweden

Oddi ar Wicipedia
Sweden

Sweden yw'r fwyaf o wledydd Llychlyn yng ngogledd-orllewin Ewrop. Mae'n ffinio ar Norwy yn y gorllewin ac ar y Ffindir yn y dwyrain. Yn y de-orllewin, mae culforoedd y Kattegat a'r Skagerrak yn ei gwahanu oddi wrth Denmarc.

Mae llawer o dde a dwyrain Sweden yn dir cymharol isel, ond mae'r gorllewin yn fynyddig, ynh enwedig o gwmpas y ffîn â Norwy. Y copa uchaf yw Kebnekaise, 2,111 medr uwch lefel y môr. Gorchuddir tua 78% o'r wlad gan fforestydd, ac mae gan y wlad tua 95,700 o lynnoedd; y mwyaf o'r rhain yw Llyn Vänern a Llyn Vättern. Llyn Vänern yw'r trydydd fwyaf yn Ewrop. Mae gan Sweden nifer o ynysoedd; y ddwy fwyaf yw Gotland ac Öland yn y Môr Baltig.

Dinasoedd[golygu | golygu cod]

Dinasoedd a threfi mwyaf Sweden yw:

  1. Stockholm 1 252 020
  2. Göteborg 510 491
  3. Malmö 258 020
  4. Uppsala 128 409
  5. Västerås 107 005
  6. Örebro 98 237
  7. Linköping 97 428
  8. Helsingborg 91 457
  9. Jönköping 84 423
  10. Norrköping 83 561
  11. Lund 76 188
  12. Umeå 75 645
  13. Gävle 68 700
  14. Borås 63 441
  15. Södertälje 60 279
Lapporten yn Laponia.