Gwlad Pwyl
|
| |
| Rzeczpospolita Polska | |
|
| |
| Enwyd ar ôl |
Polans |
|---|---|
| Math |
gwladwriaeth sofran |
| Prifddinas |
Warsaw |
| Poblogaeth |
38,454,576 |
| Sefydlwyd |
|
| Anthem |
Mazurek Dąbrowskiego |
| Pennaeth llywodraeth |
Mateusz Morawiecki |
| Cylchfa amser |
CET, UTC+01:00, UTC+2, Europe/Warsaw, CEST |
| Nawddsant |
Adalbert o Brag, Stanislaus o Szczepanów |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Pwyleg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol |
Canolbarth Ewrop, Dwyrain Ewrop |
| Arwynebedd |
312,683 km² |
| Gerllaw |
Y Môr Baltig, Afon Oder, Afon Neisse, Jizera, Divoká Orlice, Opava, Olza, Orava, Białka, Dunajec, Poprad, Afon Bug |
| Yn ffinio gyda |
Y Weriniaeth Tsiec, Yr Almaen, Yr Wcráin, Slofacia, Belarws, Lithwania, Rwsia |
| Cyfesurynnau |
52°N 19°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol |
Cabined Gwlad Pwyl |
| Corff deddfwriaethol |
Senedd Gwlad Pwyl |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Arlywydd Gwlad Pwyl |
| Pennaeth y wladwriaeth |
Andrzej Duda |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prif Weinidog Gwlad Pwyl |
| Pennaeth y Llywodraeth |
Mateusz Morawiecki |
|
| |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) |
$524,510 million |
| CMC y pen |
$12,555 ±0.01 |
| Arian |
złoty |
| Chwyddiant |
0.8 ±0.1 % |
|
94,902,629,480 $ (UDA) | |
| Canran y diwaith |
9 ±1 % |
| Cyfartaledd plant |
1.29 |
| Mynegai Datblygiad Dynol |
0.843 |
Gweriniaeth yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Gwlad Pwyl neu Gwlad Pwyl. Mae'n ffinio ar yr Almaen yn y gorllewin, Gweriniaeth Tsiec a Slofacia yn y de, Wcrain a Belarws yn y dwyrain, a Lithwania a Rhanbarth Kaliningrad, sy'n rhan o Rwsia, yn y gogledd. Mae Gwlad Pwyl ar lan y Môr Baltig. Warszawa (Warsaw) yw'r brifddinas. Mae Gwlad Pwyl yn Yr Undeb Ewropeaidd ac yn aelod o NATO.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r rhan fwyaf o Wlad Pwyl yn wastatir a thir isel, ac yn rhan o Wastatir Mawr Ewrop. Yn y gogledd ymestynna Gwastatir Arfordirol y Baltig ar hyd yr arfordir â'r Môr Baltig. Yn yr ardal hanesyddol a elwir Pwyl Fechan mae tiroedd uwch a llwyfandir a leolir i'r gogledd o Fynyddoedd Sudety yn y de-orllewin a'r Carpatiau yn y de-ddwyrain. Saif yr ardal o'r Carpatiau a elwir y Tatra ar y ffin â Slofacia, a dyma copa uchaf Gwlad Pwyl, Mynydd Rysy (2499 m). Prif afonydd y wlad yw'r Vistula a'r Oder.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae economi Gwlad Pwyl yn gymysgedd o ddiwydiannau cynradd ac eilaidd. Tyfir rhyg, gwenith, haidd, ceirch, tatws, a betys siwgr. Yn ardal Silesia mae'r ardal lo gyfoethocaf yn Ewrop. Prif ddiwydiannau eilaidd y wlad yw adeiladu llongau, gweithgynhyrchu ceir, peiriannau ac offer trydanol, prosesu bwyd, a tecstilau.
Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn hanesyddol, bu'r diriogaeth sydd heddiw o fewn ffiniau Gwlad Pwyl yn gartref i nifer o grwpiau ethnig. Cafodd y boblogaeth Iddewig ei difa bron yn gyfangwbl yn yr Holocost, a chafodd y niferoedd uchel o Almaenwyr ethnig eu gyrru allan o'r wlad wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Bellach, mae Pwyliaid ethnig yn cyfrifo am 98% o'r boblogaeth, ac Almaenwyr yn cyfrifo am ryw 1% arall.
Pwyleg yw iaith y wlad. Mae'n perthyn i'r gangen orllewinol o deulu'r ieithoedd Slafonaidd.
Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
| ||||||||||