Democratiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Merch yn bwrw'i phleidlais yn ail rownd ethol Arlywydd yn Ffrainc yn 2007.

Tardda'r gair democratiaeth o'r Groeg δημοκρατία (democratia), δημος (demos) y werin + κρατειν (cratein) teyrnasu[1]. Golyga ffurf o lywodraeth a reolir gan boblogaeth y gymdeithas. Mae'r cysyniad hwn wedi cael ei ddehongli a'i ddatblygu mewn gwahanol ffurf trwy hanes ond fel arfer mae'n cynnwys elfen o bleidleisio dros berson neu blaid mewn etholiad er mwyn penodi cynrychiolwyr ar gyfer llywodraeth neu gynulliad.

Caiff ei diffinio fel system sy'n caniatáu: (a:) llywodraeth sy'n cynrychioli mwyafrif ei phobol (b:) llywodraeth ble mae pwer y wlad yn nwylo ei phobl (yn hytrach na'r heddlu neu fyddin) a lle mae'r pwer hwnnw yn eu dwylo nhw yn cael ei weithredu o ddydd i ddydd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy system o gyrychiolaeth[2].

Yn ôl Larry Diamond, mae'n cynnwys dwy elfen: "System wleidyddol er mwyn dewis llywodraeth drwy etholiadau rhydd a theg ac yn ail bod ei dinasyddion yn weithredol yn y system wleidyddol honno. Ynghlwm wrth y gair hwn hefyd mae parch at hawliau dynol pob un o'i dinasyddion a bod ei dinasyddion yn gweithredu mewn rhyw ffordd i sicrhau fod cyfreithiau yn eu lle sy'n rhoi hawliau cyfartal hyn i bawb".[3]

Mae'r term Groegaidd hwn, sy'n tarddu'n ôl i'r 5ed ganrif CC, yn gwbwl groes i ἀριστοκρατία (aristokratía) "rheolaeth gan yr elit".[4] Dau air cwbwl groes mewn theori, ond yn ymarferol, mae tir cyffredin heddiw, fel ag yr oedd yn Athen y cynfyd ble rhoddwyd yr hawl i un carfan elitaidd i fod yn ddemocrataidd ac i bleidleisio ond nid y gweddill - y caethweision, merched ayb. Yng Ngwledydd Prydain, tan yr 20fed ganrif, dim ond tirfeddiannwyr neu bobl arianog oedd a'r hawl i bleidleisio. Nid oes gan garcharorion, heddiw, yr hawl hwn ychwaith, na phobl ifanc dan 18 oed.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Genicratiaeth, ffurf o lywodraeth, sy'n hyrwyddo deallusrwydd fel maen prawf ar gyfer ethol llywodraeth.
  • Gerentocratiaeth, oedran cynrychiolwyr mewn llywodraeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. δημοκρατία in Henry George Liddell, Robert Scott, "A Greek-English Lexicon", at Perseus
  2. Democracy - Definition and More from the Free Merriam-Webster Dictionary
  3. Diamond, L., Lecture at Hilla University for Humanistic Studies Ionawr 21, 2004: "What is Democracy"
  4. Wilson, N. G. (2006). Encyclopedia of ancient Greece. New York: Routledge. p. 511. ISBN 0-415-97334-1.
Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.