Pleidleisio

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae pleidleisio yn rhan bwysig o'r broses ddemocrataidd.

Mae pleidleisio neu fwrw pleidlais yn fodd i grŵp neu etholaeth wneud penderfyniad neu fynegi barn — yn aml yn dilyn trafodaethau, dadleuon neu ymgyrch etholiadol.

Mae'r rhan fwyaf o ddemocratiaethau yn penderfynu barn y bobl drwy bleidleisio cyffredin. Dyma'r dull symlaf o ddewis person neu bersonau: er enghraifft, mewn etholiadau cyffredinol ar gyfer dewis cynrychiolwyr yn Nhŷ'r Cyffredin, defnyddir y system yma, sef: System etholiadol 'y cyntaf i'r felin' (neu: 'y cyntaf heibio'r postyn'), lle dewisir un person ar gyfer un darn o dir (yr etholaeth).

Papur Pleidleisio Etholaeth Gorllewin Clwyd; Etholiad Cyffredinol Mai 2015
Papur 'Pleidlais Amgen'

Rhoddir un croes ar bapur pleidleisio i nodi'r person a ddewisir. Gwendid y broses yma o ddewis un person ar gyfer un etholaeth yw y diystyrir y lleiafrif. Gwelwyd hyn yng Nghymru am flynyddoedd, pan roedd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ac UKIP mewn lleiafrif ym mhob etholaeth. Yn genedlaethol roedd ganddynt lawer o bleidleisiau, ond nifer bychan iawn o Aelodau Seneddol. Er mwyn gwella'r system syml yma, defnyddir system bleidleisio gynrychioladol.

Yn y rhan fwyaf o wledydd gwneir hyn yn gyfrinachol, a pherchir yr hawl i gadw'r wybodaeth i bwy y pleidleisodd person yn gyfrinachol. Gelwir yr adeilad lle bwrir y bleidlais yn 'orsaf bleidleisio' a all fod yn ysgol, neuadd bentref neu ystafell gyfarfod.

Math arall o system bleidleisio pan fo angen sawl cynrychiolydd yw pleidlais amgen (Instant-runoff voting), sy'n fath o bleidlais ffafriol, lle nodir dewis y person drwy roi rhif ar y papur pleidleisio.

Y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad yw canran y pleidleiswyr cymwys sy'n bwrw pleidlais mewn etholiad.

Gwledydd Prydain a gogledd Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2015 beirniadodd y Gymdeithas Newid Etholiadol y system etholiadol 'y cyntaf heibio'r postyn' gan ddweud mai'r Deyrnas Gyfunol yw'r 'wlad olaf yn Ewrop i ddefnyddio system hen ffasiwn, sydd wedi torri.[1] Awgrymant felly'r system Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl (neu STV).

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiadau Cyffredinol Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl y Gymdeithas Newid Etholiadol yng Nghymru (ERS) Etholiad Cyffredinol 2015 oedd y “canlyniad fwyaf anghyfrannol yn hanes y DU”. Yn ôl yr adroddiad aeth 853,000 o bleidleisiau i ymgeiswyr a gollodd a bod 35 o 40 ASau Cymru (sef 88%) wedi cael llai na 50% o bleidleisiau eu hetholwyr – y gyfradd uchaf yn y DU. Mae'r Gymdeithas Newid Etholiadol yng Nghymru'n cefnogi'r Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl. Dywedodd Steve Brooks, Cyfarwyddwr ERS Cymru: “Dyma’r tro cyntaf i ni erioed weld pedair plaid wahanol yn ennill yn y pedair gwlad yn y DU, gyda’r Ceidwadwyr yn ennill yn Lloegr, yr SNP yn yr Alban, y DUP yng Ngogledd Iwerddon a Llafur yma yng Nghymru. Ac eto, fel gyda’r enillwyr yn y rhannau eraill o’r DU, mae’r seddi enillodd Llafur yng Nghymru yn gor-ddweud maint eu buddugoliaeth, gyda Llafur yn ennill 63% o’r seddi ar 37% o’r bleidlais... Rydym wedi gweld manteision system bleidleisio decach yn y Cynulliad, gan roi mwy o lais i bleidiau eraill. Mae’n hen bryd i San Steffan ddal i fyny gyda’r gwledydd datganoledig yn hyn o beth.”[2]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhelir etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol pob pedair mlynedd i ethol 60 o Aelodau Cynulliad. Mae gan bledileiswyr ddwy bleidlais: un sy'n dewis 40 o ACau mewn etholaethau unigol trwy'r 'system gyntaf i'r felin', ac ail bleidlais er mwyn dewis 20 o ACau ar gyfer y rhanbarthau (Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru) – etholir pedwar AC, ar sail cyfran y bleidlais, ar gyfer pob rhanbarth. I grynhoi: un bleidlais i'r person a'r ail i'r blaid.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Termau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • pleidlais fwrw - casting vote - fel arfer, pleidlais Cadeirydd y cyfarfod, pan fo dwy ochr y ddadl yn gyfartal
  • pleidlais sengl drosglwyddadwy - single transferable vote - yma, mae'r ymgeiswyr yn gorfod ennill mwyafrif absoliwt o'r pleidleisiau
  • cynrychiolaeth gyfrannol - proportional representation - lle mae pleidiau yn derbyn seddi yn ôl canran y pleidleisiau mae'n nhw wedi'i hennill, fel y gweinyddir gan Lywodraeth Cymru


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 'The Electoral Reform Society; Dyfyniad: "...we’re the last country in Europe to use the outdated and broken system of First Past the Post."; Teitil: A system in crisis; adalwyd 10 Mehefin 2015
  2. golwg360; Teitl:  ERS: Galw am newid y system bleidleisio; adalwyd 10 Mehefin 2015
Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Pleidleisio
yn Wiciadur.