Neidio i'r cynnwys

Llywodraeth Cymru

Oddi ar Wicipedia
Llywodraeth Cymru
Enghraifft o:llywodraeth, gweithrediaeth Edit this on Wikidata
Cyllideb£26bn[1]
Rhan osystem ystadegol y DU Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu12 Mai 1999 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadPrif Weinidog Cymru Edit this on Wikidata
RhagflaenyddY Swyddfa Gymreig Edit this on Wikidata
Gweithwyr5,100 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auWales Institute of Cognitive Neuroscience, Croeso Cymru, North and Mid Wales Trunk Road Agent, South Wales Trunk Road Agent, Trafnidiaeth Cymru Edit this on Wikidata
PencadlysAdeilad y Goron, Parc Cathays
Enw brodorolLlywodraeth Cymru Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru
RhanbarthDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://gov.wales, https://llyw.cymru Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llywodraeth Cymru (Saesneg: Welsh Government) yw'r llywodraeth sydd yn gyfrifol am lywodraethu Cymru yn y materion sydd wedi'u Datganoli oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys Prif Weinidog Cymru a gweinidogion cabinet y llywodraeth.

Fe'i cyfansoddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; mae Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw lywodraeth a senedd arall. Y corff democrataidd, etholedig, sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[2]

Hyd mis Mai 2011, yr enw oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg: Welsh Assembly Government). Newidiwyd yr enw er mwyn osgoi dryswch rhwng y llywodraeth ei hun sydd, fel pob llywodraeth, yn gorff gweithredol, a Senedd Cymru, sy'n gorff deddfwriaethol.[3] Hyd at Mai 2020 yr enw ar Senedd Cymru oedd 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.

Aelodau'r llywodraeth bresennol

[golygu | golygu cod]

Gweinidogion Cabinet

[golygu | golygu cod]
Cyfrifoldeb Enw Etholaeth Plaid Tymor
Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth

MS

Bangor Conwy Môn Plaid Cymru Mai 2026
Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb Sioned Williams

MS

Brycheiniog Tawe Nedd Plaid Cymru Mai 2026
Gweinidog Cabinet dros Gyllid Elin Jones

MS

Ceredigion Penfro Plaid Cymru Mai 2026
Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad Dafydd Trystan

MS

Caerdydd Ffynnon Taf Plaid Cymru Mai 2026
Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio Siân Gwenllian

MS

Gwynedd Maldwyn Plaid Cymru Mai 2026
Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal Mabon ap Gwynfor

MS

Gwynedd Maldwyn Plaid Cymru Mai 2026
Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni Adam Price

MS

Sir Gaerfyrddin Plaid Cymru Mai 2026
Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd Llyr Gruffydd

MS

Clwyd Plaid Cymru Mai 2026
Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon Heledd Fychan

MS

Pontypridd Cynon Merthyr Plaid Cymru Mai 2026
Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg Anna Brychan

MS

Caerdydd Penarth Plaid Cymru Mai 2026

Dirprwy Weinidogion

[golygu | golygu cod]
Cyfrifoldeb Enw Etholaeth Plaid Tymor
Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth Mark Hooper

MS

Pen-y-bont Bro Morgannwg Plaid Cymru Mai 2026
Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod Delyth Jewell

MS

Blaenau Gwent Caerffili Rhymni Plaid Cymru Mai 2026
Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol Nerys Evans

MS

Sir Gaerfyrddin Plaid Cymru Mai 2026
Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol Cefin Campbell

MS

Sir Gaerfyrddin Plaid Cymru Mai 2026

Darpar Gwnsler Cyffredinol

[golygu | golygu cod]
Enw Plaid Tymor
Elfyn Llwyd Plaid Cymru Mai 2026
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Canllaw Cyllideb Derfynol 2025-2026". Llywodraeth Cymru. 2025.
  2. "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
  3.  Carwyn Jones unveils three new faces in Welsh cabinet. BBC (13 Mai 2011).

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.