Neidio i'r cynnwys

Elin Jones

Oddi ar Wicipedia
Elin Jones
AS
Llun swyddogol, 2026
Llywydd Senedd Cymru
Yn ei swydd
11 Mai 2016 – 12 Mai 2026
DirprwyAnn Jones
Rhagflaenwyd ganRosemary Butler
Dilynwyd ganHuw Irranca-Davies
Comisiynwr y Senedd
Yn ei swydd
9 Mehefin 2007 – 18 Medi 2007
Prif WeinidogRhodri Morgan
Rhagflaenwyd ganCreuwyd y swydd
Aelod o Senedd Cymru
dros Geredigion
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 1999
Rhagflaenwyd ganCreuwyd y swydd
Mwyafrif2,408 (8.2%)
Manylion personol
Ganwyd (1966-09-01) 1 Medi 1966 (59 oed)
Llanbedr Pont Steffan
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
Alma materPrifysgol Caerdydd
Prifysgol Aberystwyth

Gwleidydd o Gymru ac aelod o Blaid Cymru yw Elin Jones (ganed 1 Medi 1966). Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Ceredigion ers dyfodiad y Cynulliad yn 1999. Hi oedd Llywydd y Senedd rhwng 11 Mai 2016 a 12 Mai 2026. Mae'n gwasnaethau fel Gweinidog Cabinet dros Gyllid ers 13 Mai 2026.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

Magwyd Elin Jones ar fferm yn Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan. Mynychodd Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Caerdydd gan raddio gyda BSc mewn Economeg cyn dychwelyd i Geredigion i fynychu Prifysgol Cymru, Aberystwyth a dilyn ôl-radd MSc mewn Economeg Amaethyddol. Roedd Elin yn aelod o'r grwp 'Cwlwm'.[2]

Gyrfa

Cyflogwyd hi am gyfnod fel Swyddog Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig a chyn-gyfarwyddwr Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf..[3]

Rhwng 1992 a 1999, roedd yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth, gan ddod yn Maer ieuengaf Aberystwyth yn nhymor 1997–1998.

Y Cynulliad/Senedd

Etholwyd Elin yn Aelod Cynulliad Ceredigion yn etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999, a bu'n Weinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygu Economaidd yn ystod y tymor cyntaf. Aeth ymlaen i fod yn Gadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru rhwng 2000 a 2002. Deliodd yr un swyddi hyd 2006 pan benodwyd hi'n Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn gwlad. Apwyntiwyd Elin yn Weinidog dros Cefn gwlad ar 9 Gorffennaf 2007, pan ffurfiwyd Llywodraeth Cymru'n un.[3]

Yng nghyfarfod cyntaf y Pumed Cynulliad ar 11 Mai 2016 fe'i enwebwyd am swydd Llywydd y Cynulliad ynghyd â Dafydd Elis-Thomas. Yn dilyn pleidlais gudd, fe'i etholwyd yn Llywydd gyda 35 pleidlais i 25.[4] Yn Ebrill 2025 cyhoeddodd y byddai'n sefyll lawr fel Llywydd ar ôl yr etholiad nesaf yn Mai 2026.[5]

Cyfeiriadau

  1. "Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi cabinet newydd Llywodraeth Cymru". BBC Cymru Fyw. 13 Mai 2026. Cyrchwyd 13 Mai 2026.
  2. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t. 79
  3. 3.0 3.1  Ychydig mwy am Elin. elinjones.com.
  4. Penodi Elin Jones yn Llywydd newydd y Cynulliad , BBC Cymru Fyw, 11 Mai 2016.
  5. "Elin Jones i roi'r gorau i'w swydd fel Llywydd y Senedd". newyddion.s4c.cymru. 2025-04-06. Cyrchwyd 2025-04-06.

Dolenni allanol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod o'r Senedd dros Geredigion
1999 – presennol
Olynydd:
deiliad
Seddi'r cynulliad
Rhagflaenydd:
Rosemary Butler
Llywydd Senedd Cymru
20162026
Olynydd:
Huw Irranca-Davies