Siroedd hynafol Cymru
Hyd at 1974 roedd Cymru wedi'i rhannu'n 13 sir, a elwir bellach yn siroedd hynafol Cymru neu siroedd traddodiadol Cymru. Sefydlwyd y rhain dan y drefn Seisnig yng Nghymru rhwng 1284 a 1536. Defnyddiwyd y siroedd hynafol at ddibenion llywodraeth leol rhwng 1889 a 1974.
Ar ôl y Deddf Llywodraeth Leol 1972 disodlwyd y 13 hen sir gan wyth sir weinyddol newydd (Clwyd, De Morgannwg, Dyfed, Gorllewin Morgannwg, Gwent, Gwynedd, Morgannwg Ganol a Phowys). Yn 1996 disodlwyd yr wyth sir hyn yn eu tro gan y 22 o brif ardaloedd sydd bellach mewn grym. Mae'r wyth sir a grëwyd yn 1974 yn dal i gadw rôl seremonïol fel siroedd cadwedig.
Mae pedwar o'r prif ardaloedd cyfoes yn cymryd eu henwau o siroedd hynafol – sef Sir Benfro, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir y Fflint. Fodd bynnag, nid yw ffiniau'r ardaloedd modern hyn yn cyd-fynd â ffiniau'r siroedd hynafol.
Y siroedd hynafol
[golygu | golygu cod]
- (5) Sir Aberteifi
- (4) Sir Benfro
- (8) Sir Drefaldwyn
- (9) Sir Ddinbych
- (7) Sir Faesyfed
- (11) Sir Feirionnydd
- (13) Sir Fôn
- (2) Sir Forgannwg
- (6) Sir Frycheiniog
- (1) Sir Fynwy
- (10) Sir y Fflint
- (3) Sir Gaerfyrddin
- (12) Sir Gaernarfon
| |||||||||||||