Cymru a Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Map o Gymru a Lloegr (gwyrdd tywyll) o fewn y Deyrnas Unedig (gwyrdd golau).

Awdurdodaeth gyfreithiol o fewn y Deyrnas Unedig yw Cymru a Lloegr (Saesneg: England and Wales) sydd yn cyfateb i diriogaeth Cymru a Lloegr, dwy o wledydd y Deyrnas Unedig sydd yn atebol i gyfraith Lloegr. Hon yw un o dair awdurdodaeth y Deyrnas Unedig; y ddwy arall yw'r Alban, sydd yn atebol i gyfraith yr Alban, a Gogledd Iwerddon, sydd yn atebol i gyfraith Gogledd Iwerddon. Cymru a Lloegr ydy'r unig awdurdodaeth gyfreithiol yn y byd sydd yn cynnwys dwy ar wahân, sef Senedd Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig (San Steffan); a Chymru ydy'r unig wlad yn y byd sydd yn meddu ar ddeddfwrfa ond sydd heb awdurdodaeth ei hun.

Cyflwynwyd y gyfraith gyffredin o Loegr i Gymru yn sgil Deddf y Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a gyfeddiannai Cymru yn rhan o Deyrnas Lloegr. Diddymwyd y gyfraith sifil Gymreig, yr agwedd olaf o gyfraith Hywel a oedd mewn grym, a daeth Cymru dan diriogaeth farnwrol Cylchdro Cymru a Chaer. Dyna oedd y drefn am pum can mlynedd bron, nes i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddarparu modd i San Steffan drosglwyddo pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, gan alluogi felly i'r Cynulliad creu a phasio deddfwriaeth mewn meysydd penodol ar ffurf Mesurau'r Cynulliad. Daeth y ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2007, gan sefydlu Cylchdro Cymru, a bathwyd y termau "Cyfraith Gyfoes Cymru" a "Chymru'r Gyfraith" i ddisgrifio'r drefn newydd hon. Estynnwyd y meysydd a ddatganolwyd yn ddeddfwriaethol i Gymru yn sgil refferendwm yn 2011. Er gwaethaf, ni ddatganolwyd pwerau'r gyfundrefn gyfiawnder i Gymru, ac felly mae Cymru a Lloegr yn parhau yn un awdurdodaeth gyfreithiol.

Y ddadl dros awdurdodaeth ar wahân i Gymru[golygu | golygu cod y dudalen]

O ganlyniad i'r sefyllfa gyfreithiol a grëwyd drwy estyn pwerau deddfwriaethol, ond nid cyfiawnder, i Gymru, mae nifer o wleidyddion ac ysgolheigion wedi galw ar greu awdurdodaeth ar wahân i Gymru. Cychwynnodd yr Ymchwiliad i Sefydlu Awdurdodaeth ar wahân i Gymru yn 2012 i archwilio i'r mater.[1] Cefnogwyd y syniad gan Blaid Cymru, y grŵp Cyfiawnder i Gymru,[2] ac ysgrifenwyr i'r felin drafod Sefydliad Materion Cymreig.[3][4] Datganoli pwerau cyfiawnder oedd un o argymhellion y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru yn 2019. Dadleuai'r Athro Thomas Glyn Watkin a Daniel Greenberg yn eu cyfrol Legislating for Wales (2018) hefyd bod angen trefniadaeth annibynnol ar Gymru.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru", Senedd Cymru (3 Gorffennaf 2013). Adalwyd ar 22 Hydref 2021.
  2. "Angen 'Cyfiawnder i Gymru,' medd cyfreithwyr", BBC (23 Medi 2015). Adalwyd ar 22 Hydref 2021.
  3. (Saesneg) Alan Trench, "A legal jurisdiction for Wales?", Sefydliad Materion Cymreig (5 Hydref 2015). Adalwyd ar 22 Hydref 2021.
  4. (Saesneg) Theodore Huckle, "Why Wales needs its own legal jurisdiction", Sefydliad Materion Cymreig (7 Ebrill 2016). Adalwyd ar 22 Hydref 2021.