Cyfraith Hywel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun o farnwr o lawysgrif Peniarth 28

Yn ôl traddodiad, rhoddwyd trefn ar yr hen gyfreithiau Cymreig yn amser y brenin Hywel Dda ac mewn canlyniad cyfeirir atynt fel Cyfraith Hywel.

Nid cyfundrefn newydd yw Cyfraith Hywel. Daeth cynrychiolwyr ynghyd yn Hendy-gwyn ar Dâf tua 945 i gasglu, diwygio, dileu a chreu cyfreithiau newydd. Cyfraniad mawr Hywel Dda oedd rhoi undod i'r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru drwy ei ysbrydoliaeth.

Elfen bwysig yn hanes Cymru oedd y gyfraith a oedd yn pennu etifeddiaeth y brenin. Roedd rhaid rhannu eiddo yn gyfartal rhwng y meibion i gyd, yn wahanol i'r gyfraith yn Lloegr. Roedd yn gyfraith deg iawn ond yn anffodus yr oedd yn golygu bod teyrnasoedd yn cael eu rhannu'n gyson heb obaith am undod parhaol.

Llawysgrifau[golygu]

Tudalen o Lyfr Du’r Waun (Peniarth 29)

Nid oes unrhyw lawysgrif ar gael sy’n dyddio i gyfnod Hywel ei hun, ac roedd y gyfraith yn cael ei diweddaru'n gyson. Nid yw ysgolheigion yn cytuno pa un oedd iaith wreiddiol y fersiynau ysgrifenedig o’r cyfreithiau: Cymraeg ynteu Lladin. Yn Gymraeg yr ysgrifenwyd y memorandwm Surexit, sy'n gofnod o ganlyniad achos cyfreithiol yn dyddio o’r 9fed ganrif[1], ac er nad yw’n llyfr cyfraith fel y cyfryw mae’n dangos fod yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio ar gyfer materion cyfriethiol yr adeg honno.

Y llawysgrifau cynharaf sydd wedi goroesi yw Peniarth 28, sydd wedi ei ysgrifennu yn Lladin ond yn ôl y farn gyffredinol yn gyfieithiaid o detun gwreiddiol Cymraeg, a Pheniarth 29, Y Llyfr Du o'r Waun, wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg. Credir fod y rhain yn dyddio o ddechrau neu ganol y 13eg ganrif. Cadwyd nifer fawr o lawysgrifau cyfraith, yn bennaf yn Gymraeg ond rhai yn Lladin, yn dyddio rhwng y cyfnod yma a’r 16eg ganrif. Heblaw'r fersiynau llawn, ceir testunau byrrach, y credir eu bod wedi eu bwriadu i farnwyr eu defnyddio wrth eu gwaith. Barn gyffredinol ysgolheigion yw eu bod oll yn disgyn i dri prif ddosbarth, Llyfr Cyfnerth, Llyfr Blegywryd a Llyfr Iorwerth. Credir fod llawysgrifau Cyfnerth yn dod o ardal Rhwng Gwy a Hafren, efallai Maelienydd,[2], ac mae’r gyfraith yn y fersiynau hyn yn dangos llai o ddatblygiad na’r ddau ddosbarth arall. Credir fod y fersiwn wreiddiol yn dyddio o’r 12fed ganrif, pan ddaeth yr ardal yma dan ofalaeth Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd), teyrn Deheubarth. Cysylltir y fersiwn wreiddiol o lawysgrifau Blegywryd a Deheubarth ei hun, ac mae’n dangos rhywfaint o ddylanwad eglwysig. Credir bod y fersiwn wreiddiol o lawysgrifau Iorwerth yn cynrychioli’r gyfraith oedd mewn grym yng Ngwynedd yn ystod teyrnasiad Llywelyn Fawr yn rhan gyntaf y 13eg ganrif, wedi ei datblygu gan y cyfreithiwr Iorwerth ap Madog. Ystyrir mai Iorwerth yw’r fersiwn mwyaf datblygedig o’r gyfraith, er bod thai elfennau hynafol. Credir bod y fersiwn yn Llyfr Colan yn addasiad o fersiynau Llyfr Iorwerth, hefyd yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, ac mae Llyfr y Damweiniau yn gasgliad o achosion cyfeithiol sy’n gysylltiedig a Llyfr Colan. Nid oes llawysgrif o Bowys wedi goroesi, er bod Llyfr Iorwerth yn nodi lle mae’r gyfaith ym Mhowys yn wahanol i Wynedd.

Dechreuadau[golygu]

Ar ddechrau y rhan fwyaf o'r llawysgrifau Cymreig, ceir disgrifiad o sut y lluniwyd y cyfreithiau gan Hywel Dda. Fersiwn Llyfr Blegywryd yw:

Hywel Dda fab Cadell, trwy ras Duw Brenin Cymru oll, a welodd y Cymry yn camarfer cyfreithiau a defodau, ac am hynny fe ddyfynnodd ato, o bob cwmwd o’i deyrnas, chwech o wyr a oedd yn ymwneuthur ag awdurdod ac ynadaeth, a holl eglwyswyr y deyrnas a oedd yn ymarfer a theilyngdiod baglau, megis Archesgob Mynyw, ac esgobion, ac abadau, a phrioriaid, i’r lle a elwir y Ty Gwyn ar Daf yn Nyfed. … Ac o’r gynulleidfa honno, pan derfynodd y Grawys, fe ddewisodd y brenin y deuddeg lleygwr doethaf o’i wyr, a’r un ysgolhaig doethaf oll, a elwid yr Athro Blegywryd, i ddosbarthu a dehongli iddo ef ac i’w deyrnas gyfreithiau ac arferion yn berffaith, ac yn nesaf y gellid at wirionedd ac iawnder.[3]

Awgryma'r disgrifiad o Hywel fel "Brenin Cymru oll" fod y cyngor yma wedi ei gynnal rhwng 942, pan ychwanegodd Hywel Wynedd at ei deyrnas, a'i farwolaeth yn 950. Fodd bynnag, mae llawer o'r deunydd yn dyddio o gyfnod cynharach, a cheir cryn dipyn o debygrwydd rhyngddynt a hen gyfreithiau Iwerddon. Nid cymhychu cyfreithiau hollol newydd yr oedd cyngor Hywel, ond yn hytrach diweddaru:

Ac o gyngor y doethion hynny, rhai o'r hen gyfreithiau hynny a gynhaliodd ef; eraill a wellhaodd; eraill a ddileodd yn gyfan-gwbl, a gosod cyfreithiau newydd yn eu lle.[3]

"Y Tŷ Gwyn ar Daf" yw Hendy-gwyn ar Daf, yn awr yn Sir Gaerfyrddin. Dywedir i frenhinoedd eraill newid y cyfreithiau yn ddiweddarach, er enghraifft Bleddyn ap Cynfyn, brenin Gwynedd a Powys yn yr 11eg ganrif.

Nid yw ysgolheigion yn cytuno a ellir ystyried y cyngor yn Hen Dŷ Gwyn ar Daf yn ddigwyddiad hanesyddol ai peidio, gan nad oes cofnod ohono yn y Brutiau. Awgryma K.L. Maund:

it is not impossible that the association of Hywel with the law reflects more on twelfth- and thirteenth century south Welsh attempts to re-establish the importance and influence of their line in an age dominated by the princes of Gwynedd.[4]

Ar y llaw arall, dylid nodi fod hyd yn oed fersiynau Iorwerth, a gynhyrchwyd yng Ngwynedd, yn cyfeirio at y cyngor yn Hen Dŷ Gwyn ar Daf, yn union fel y fersiynau deheuol.

Nodir nifer o ddylanwadau'r gyfraith Rufeinig ar gyfraith Hywel gan Watkin, ac awgryma fod ychydig o dystiolaeth o barhad o gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru, yn enwedig yn Llyfr Cyfnerth.[5] Ceir hefyd ddylanwadau Gwyddelig ac Eingl-Sacsonaidd. Yn ôl Watkin, gall fod gwereiddiau "cyfran" fel dull o etifeddu tir yn mynd yn ôl i Oes yr Haearn.[6]

Cyfraith y Llys[golygu]

Llun hebogydd o Peniarth 28

Delio a hawliau a dyletswyddau y brenin a swyddogion ei lys y mae’r rhan gyntaf o’r cyfreithiau. Disgrifir hwynt yn ôl trefn eu pwysigrwydd; yn gyntaf y brenin, yna’r frenhines a’r edling, y gŵr oedd wedi ei ddewis i deyrnasu ar ôl y brenin. Dilynir hwy gan swyddogion y llys; nodir pedwar ar hugain o’r rhain yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau: Penteulu, Offeiriad teulu, Distain, Ynad Llys, Hebogydd, Pen-gwastrawd, Pen-cynydd, Gwas ystafell, Distain brenhines, Offeiriad brenhines, Bardd teulu, Gostegwr llys, Drysor neuadd, Drysor ystafell, Morwyn ystafell, Gwastrawd afwyn, Canhwyllydd, Trulliad, Meddydd, Swyddwr llys, Cog, Troedog, Meddyg llys a Gwastrawd afwyn brenhines.[7] Nodir dyletswyddau a hawliau pob un o’r rhain.

Defnyddir nifer o dermau cyfreithiol. Gallai sarhad olygu anaf neu anfri ar berson, neu’r taliad oedd yn ddyledus iddo fel iawndal am yr anaf neu’r anfri. Roedd maint y sarhad yn amrywio yn ol statws y person oedd wedi ei effeithio, er enghraifft roedd sarhad y frenhines neu’r edling yn draean sarhad y brenin. Telid galanas i deulu person a lofruddiwyd gan y llofrudd a’i deulu; roedd y galanas yn dair gwaith y sarhad, er y gallai’r llofrudd orfod talu sarhad hefyd. Gellid cosbi camweddau llai trwy ddirwy; roedd y term "dirwy" yn cael ei ddefnyddio ar gyfer taliad am drosedd gweddol ddifrifol, tra’r oedd "camlwrw" yn daliad llai lle nad oedd y trosedd yn un mawr. Telid ebediw i’r arglwydd ar farwolaeth un o’i ddeiliaid.

Adlewyrchir tarddle daearyddol y gwahanol fersiynau yn y safle gymharol a roir i deyrnoedd y gwahanol deyrnasoedd. Yn Llyfr Iorwerth, cyhoeddir blaenoriaeth brenin Aberffraw, canolfan Teyrnas Gwynedd, dros y gweddill, tra mae llawysgrifau Deheubarth yn hawlio o leiaf gydraddoldeb i frenin Dinefwr.

Er fod Cyfraith Hywel yn rhoi mwy o bwyslais ar bwerau’r brenin na hen gyfraith Iwerddon, mae hyn yn parhau i fod yn gyfyngedig o’i gymharu a llawer o gyfreithiau eraill. Dywed Moore:

Welsh law fell into the juristic category of Volksrecht ("people's law"), which did not lay great stress on royal power, as opposed to the Kaisersrecht or Königsrecht ("king's law") of both England and Scotland, where it was emphasised that both civil and common law were imposed by the state.[8]

Cyfraith y wlad[golygu]

At bwrpas y gyfraith, rhennir cymdeithas Cymru yn dri dosbath, y brenin, y breyr neu fonheddig, y gwŷr rhydd oedd yn dal tir, a'r taeog. Pedwerydd dosbarth oedd yr alltud, person o'r tu allan i Gymru oedd wedi ymsefydlu yno. Roedd y rhan fwyaf o'r taliadau oedd yn ddyledus yn ôl y gyfraith yn amrywio yn ôl statws gymdeithasol y person.

Cyfraith gwragedd[golygu]

Yn nhrefn llawr o'r llawysgrifau, mae cyfraith y wlad yn dechrau gyda chyfraith gwragedd, yn ymdrin a phriodas a rannau'r eiddo petai pâr priod yn gwahanu. Roedd sefyllfa gyfreithiol merched gan Gyfraith Hywel yn bur wahanol i'r sefyllfa dan y gyfraith Eingl-Normanaidd. Gellid sefydlu priodas mewn dwy ffordd. Y dull arferol oedd bod y ferch yn cael ei rhoi i ŵr gan ei thylwyth; y dull arall oedd y gallai merch fynd ymaith gyda gŵr heb gydsyniad ei thylwyth. Os digwyddai hyn, gallai'r tylwyth ei gorfodi i ddychwelyd os oedd yn dal i fod yn wyryf, ond os nad oedd, ni allent ei gorfodi i ddychwelyd. Os oedd y berthynas rhyngddi hi a'r gŵr yn parhau am saith mlynedd, byddai ganddi wedyn yr un hawliau cyfreithiol a phetai wedi ei rhoi gan ei thylwyth.[9]

Roedd nifer o daliadau yn gysylltiedig a phriodas. Taliad i arglwydd y ferch pan gollai ei morwyndod oedd amobr, pa un a ddigwyddai hynny trwy briodas ai peidio. Taliad i'r ferch gan ei gŵr y bore wedi'r briodas oedd cowyll, yn nodi fod ei statws wedi newid o fod yn forwyn i fod yn wraig briod. Yr agweddi oedd y rhan o gyfanswm meddiannau y pâr priod fyddai'n ddyledus i'r wraig petai'r cwpl yn ymhahanu cyn pen saith mlynedd o'r briodas. Roedd maint yr agweddi yn dibynnu ar safle gymdeithasol y ferch, ac nid ar werth cyfanswm meddiannau'r pâr. Petai'r pâr yn ymwahanu wedi bod yn briod am saith mlynedd neu fwy, roedd gan y ferch hawl i hanner yr eiddo.[10]

Petai gwraig yn darganfod ei gŵr gyda merch arall, roedd ganddi hawl i iawndal o chwe ugain ceiniog ganddo y tro cyntaf, a punt yr ail dro. Y trydydd tro, byddai ganddi'r hawl i'w ysgaru. Os oedd gan y gŵr ordderch, roedd gan y wraig yr hawl i daro'r ordderch heb dalu iawndal, hyd yn oed os byddai hyn yn achosi marwolaeth yr ordderch.[11] Dim ond am dri peth y caniateid i ŵr guro ei wraig: am roi'[n anrheg rywbeth nad oedd ganddi'r hawl i'w roi, am gael ei garganfod gyda dyn arall neu am ddymuno mefl ar farf ei gŵr. Petai yn ei tharo am unrhyw achos arall, byddai ganddi hawl i gael talu ei sarhad. Petai'r gŵr yn ei darganfod gyda dyn arall ac yn ei churo, ni fyddai ganddo'r hawl i unrhyw iawndal pellach.

Yn ôl Cyfraith Hywel, nid oedd gan ferched yr hawl i etifeddu tir. Er hynny, roedd eithriadau, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar. Mewn cerdd a ddyddir i hanner cyntaf yr 11eg ganrif sy'n farwnad i uchelwr o Ynys Môn o'r enw Aeddon, dywed y bardd fod tiroedd Aeddon wedi eu hetifeddu gan bedair gwraig oedd wedi dod i'w lys fel caethion ac wedi ennill ei ffafr.Yn anffodus i'r bardd, nid oeddynt mor hoff o farddoniaeth ag y bu Aeddon[12] Roedd y rheolau ar gyfer rhannu eiddo symudol pan fyddai un o'r pâr priod farw yr un fath i'r ddau ryw. Rhennid yr eiddo yn ddwy ran gyfartal, gyda'r partner byw yn cael un hanner, a'r person oedd yn marw yn rhydd i rannu'r hanner arall yn ôl ei (h)ewyllys.

Cyfraith tir[golygu]

Egwyddor cyfraith tir oedd bod y tir yn cael ei berchenogi gan uned deuluol y "gwely", oedd yn ymestyn tros bedair cenhedlaeth. Ar farwolaeth penteulu, rhennid ei diroedd yn gyfartal rhwng ei feibion. Roedd gan feibion anghyfreithlon yr un hawl ar y tir a meibion cyfreithlon, cyn belled a bod y tad wedi eu cydnabod yn feibion iddo.

Mae'r dull yna o rannu tir, "cyfran" yn y cyfreithiau Cymreig, yn debyg i'r arfer yn Iwerddon. Byddai'r mab ieuengaf yn rhannu'r tir, yna'r mab hynaf yn dewis ei ran ef yn gyntaf, ac wedyn y gweddill, gan orffen gyda'r ieuengaf. Os oedd mab wedi marw o flaen ei dad, byddai ei ran ef yn mynd i'w feibion. Ni allai merched eifeddu tir fel rheol, er fod cofnod o achos yn Llancarfan lle cofnodir rhannu'r tir rhwng dau frawd a chwaer. Wedi marwolaeth yr olaf o'r meibion, byddai'r "tir gwelyawc" yn cael ei rannu eto, gyda wyrion y perchennog cyntaf yn cael rhannau cyfartal. Ar farwolaeth yr olaf o'r wyrion, rhennid y tir eto rhwng y gor-wyrion.[13] Dywedir yn aml fod y system yma yn arwain at leihau'r maint o dir a ddelid gan unigolion dros y cenedlaethau, ond fel y nodir gan Watkin, nid yw hyn yn wir oni bai fod y boblogaeth yn cynyddu'n gyflym a nifer o feibion yn dilyn pob tad.[14] Araf iawn oedd tŵf y boblogaeth yn y Canol Oesoedd.

Os oedd dadl ynglŷn â pherchenogaeth tir, cynhelid y llys ar y tir a hawlid. Byddai'r ddau hawlydd yn dod a thystion ymlaen i gefnogi eu hachos. Yn Llyfr Iorwerth, dywedir fod gan bob hawlydd yr hawl i gymorth "cyngaws" a "chanllaw" i gyflwyno eu hachos, y ddau yn fath o gyfreithiwr, er na eglurir y gwahaniaeth rhyngddynt. Os dyfarnai'r llys fod y ddau hawl yn gyfartal, gellid rhannu'r tor yn gyfartal rhwng y ddau hawlydd.

Disgrifir "dadannudd" hefyd; sef gweithred mab yn hawlio tir a oedd wedi bod yn eiddo ei dad. Cyfyngid ar hawl y tirfeddiannwr i drosglwyddo ei dir i eraill; dim ond dan amgylchiadau neilltuol a chyda chaniatad yr eifeddion y gellid gwneud hyn. Gyda chydsyniad ei arglwydd a'r tylwyth, gallai'r tirfeddiannwr ddefnyddio system "prid". Trosglwyddid y tir i berson arall, y "pridwr" am gyfnod o bedair blynedd, ac os nad oedd y tir wedi ei hawlio yn ô gan y tirfeddiannwr neu ei etifeddion ymhen y pedair blynedd, gellid adnewyddu'r prid am gyfnod o bedair blynedd ar y tro hen gyfyngiadau pellach. Wedi pedair cenhedlaeth, byddai'r tir yn dod yn eiddo'r meddiannydd newydd.[15]

Gweler hefyd[golygu]

Nodiadau[golygu]

  1. Charles-Edwards The Welsh laws t.75
  2. Charles-Edwards The Welsh laws p.20
  3. 3.0 3.1 Williams, S.J. t.1
  4. Maund The Welsh kings p.67
  5. Watkin t. 58.
  6. Watkin tt. 37-8.
  7. S. J. Williams, t. 2
  8. Moore The Welsh wars of independence t. 247
  9. D.B. Walters The European context of the Welsh law of matrimonial property yn Jenkins ac Owen (gol.) The Welsh law of women t. 117
  10. Jenkins Hywel Dda: the law tt.310-311, 329
  11. Morfydd E. Owen Shame and reparation: woman's place in the kin yn Jenkins ac Owen (gol.) The Welsh law of women t. 51
  12. Jarman t. 119
  13. Watkin t. 58
  14. Watkin t. 59
  15. T. Jones Pierce Medieval Welsh society t. 384

Llyfryddiaeth[golygu]

  • T.M. Charles-Edwards, Morfydd E. Owen and D.B. Walters (ed.) (1986) Lawyers and laymen: studies in the history of law presented to Professor Dafydd Jenkins on his seventy-fifth birthday (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-0925-9
  • T.M. Charles-Edwards (1989) The Welsh laws Cyfres Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-1032-X
  • Hywel David Emanuel (1967) The Latin texts of the Welsh laws (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Daniel Huws (1980) The medieval codex with reference to the Welsh Law Books (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Dafydd Ifans, (1980) William Salesbury and the Welsh laws'[' (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Coleg Prifysgol Cymru) (Pamffledi cyfraith Hywel)
  • A.O.H. Jarman (1981) The cynfeirdd: early Welsh poets and poetry. Cyfres Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru). ISBN 0-7083-0813-9
  • Dafydd Jenkins (gol.) (1963) Llyfr Colan: y Gyfraith Gymreig yn ôl hanner cyntaf llawysgrif Peniarth 30 (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Dafydd Jenkins (1970) Cyfraith Hywel : rhagarweiniad i gyfraith gynhenid Cymru'r Oesau Canol (Llandysul: Gwasg Gomer). ISBN 0850880564
  • Dafydd Jenkins (1977) Hywel Dda a'r gwŷr cyfraith : darlith agoriadol Aberystwyth (Aberystwyth: Adran y Gyfraith, Coleg Prifysgol Cymru)
  • Dafydd Jenkins (1986) The law of Hywel Dda: law texts from mediaeval Wales translated and edited (Gwasg Gomer) ISBN 0-86383-277-6
  • Dafydd Jenkins and Morfydd E. Owen (ed.) (1980) The Welsh law of women : studies presented to Professor Daniel A. Binchy on his eightieth birthday, 3 June 1980 (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-0771-X
  • T. Jones Pierce Medieval Welsh society: selected essays (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-0447-8
  • William Linnard,. (1979) Trees in the Law of Hywel. (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd) (Pamffledi Cyfraith Hywel)
  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
  • Kari Maund (2006) The Welsh kings: warriors, warlords and princes (Tempus) ISBN 0-7524-2973-6
  • David Moore (2005) The Welsh wars of independence: c.410 - c.1415 (Tempus) ISBN 0-7524-3321-0
  • Huw Pryce (1993) Native Law and the Church in Medieval Wales (Oxford Historical Monographs) (Gwasg Clarendon) ISBN 0-19-820362-4
  • Melville Richards (gol.) (1990) Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llawysgrif Coleg yr Iesu LVII, Rhydychen (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Melville Richards (1954) The laws of Hywel Dda (The Book of Blegywryd), translated by Melville Richards (Gwasg Prifysgol Lerpwl)
  • David Stephenson (1984) The governance of Gwynedd (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-0850-3
  • D. B. Walters,(1982) The comparative legal method : marriage, divorce and the spouses' property rights in early medieval European law and Cyfraith Hywel. (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 1982) (Pamffledi Cyfraith Hywel)
  • Thomas Glyn Watkin (2007) The legal history of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru)

ISBN 978-0-7083-2064-8

  • Aled Rhys Wiliam (1990, gol.) Llyfr Cynog : a medieval Welsh law digest (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd) (Pamffledi Cyfraith Hywel)
  • Aled Rhys William (1960) Llyfr Iorwerth: a critical text of the Venedotian code of mediaeval Welsh law (Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-7083-0114-2
  • Glanmor Williams (1987) Recovery, reorientation and reformation: Wales c.1415-1642 (Gwasg Clarendon, Gwasg Prifysgol Cymru) ISBN 0-19-821733-1
  • Stephen J. Williams (gol.)(1938) Detholion o'r hen gyfreithiau Cymreig (Gwasg Prifysgol Cymru)