Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cymru
Flag of Wales (1959–present).svg

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar:
wleidyddiaeth a llywodraeth
Cymru



gweld  sgwrs  golygu

Sefydlwyd Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r modd y gweithredir y system gyfiawnder yng Nghymru. Cyhoeddwyd ein hadroddiad ar 24 Hydref 2019. Gelwid yn Commission on Justice in Wales yn Saesneg. [1]

Cyd-destun[golygu | golygu cod y dudalen]

Logo'r Comisiwn
Carwyn Jones, Sefydlydd y Comisiwn

Ym mis Medi 2017, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod yn sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i fwrw golwg ar y modd y mae’r system gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu ac i bennu gweledigaeth hirdymor ar ei chyfer.[2] Daeth y Comisiwn o dan arweinyddiaeth wleidyddol Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles A.C.[3]

Dechreuodd y Comisiwn ar ei waith ym mis Rhagfyr 2017, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd.

Bu i’r Comisiwn yn edrych ar:

gyfiawnder troseddol a phlismona; cyfiawnder sifil, masnachol, teuluol a gweinyddol; mynediad at gyfiawnder; addysg a hyfforddiant yn y gyfraith; proffesiynau ac economi’r gyfraith; a’r awdurdodaeth gyfreithiol. Rhoddod y Comisiwn alwad am dystiolaeth ar 27 Chwefror 2018 gan gynnal digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru i’w helpu i lywio ei waith.

Cylch gorchwyl[golygu | golygu cod y dudalen]

Adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol, gyda'r nod o:[4]

  • Hyrwyddo gwell canlyniadau o ran mynediad at gyfiawnder, gostwng nifer yr achosion o droseddu a hybu'r broses adsefydlu
  • Sicrhau bod y trefniadau awdurdodaethol ac addysg gyfreithiol yn adlewyrchu ac yn edrych ar swyddogaeth cyfiawnder yn llywodraethiant a ffyniant Cymru yn ogystal â materion neilltuol sy'n codi yng Nghymru
  • hyrwyddo cadernid a chynaliadwyedd sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru a sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl i ffyniant Cymru.

Derbyniodd y Comisiwn tystiolaeth ac ymatebion gan weithurwyr cyfreithiol yng Nghymru, cyrff ac unigolion.[5]

Cyngor Cyfraith Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel rhan o'r Comisiwn, sefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru yn Hydref 2017 er mwyn hyrwyddo addysg gyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru.[6]

Daeth cynnig y Comisiwn ar gyfer sefydlu Cyngor o'r fath yn dilyn yr awgrym a wnaed gan yr Arglwydd Lloyd-Jones i sefydlu corff i hyrwyddo astudiaeth o gyfraith Cymru. Mewn araith yng Nghynhadledd Cymru'r Gyfraith yn Abertawe yn 2017, dywedodd yr Arglwydd Lloyd-Jones fod angen corff o'r fath er mwyn helpu i gydlynu gwaith y sefydliadau academaidd a sefydliadau eraill wrth i gyfraith Cymru barhau i ddatblygu a rhannu arbenigedd er mwyn helpu i osgoi 'ailddyfeisio'r olwyn' pan gyflwynir cyfraith newydd.[7]

Cyhoeddi Adroddiad y Comisiwn[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddiad adroddiad y Comisiwn ar 24 Hydref 2019.[8]

Cafwyd sawl argymhelliad.[9][10]

Ymysg yr agymhelliad gafodd fwyaf o sylw oedd yr argymhelliad i:

Ddatganoli pwerau cyfiawnder i Gymru[11]
Creu "cyfreithiau Cymru" sydd ar wahân i gyfreithiau Lloegr a Chymru;
Adran gyfiawnder newydd yn Llywodraeth Cymru ac yn cael ei arwain gan weinidog o'r cabinet;
Gallai Cymru gael uchel lys a llys apêl ei hun a barnwr o Gymru yn rhan o'r Goruchaf Lys;
Plismona a pholisïau atal troseddu gan gynnwys materion iechyd meddwl a chamdriniaeth cyffuriau i'w datganoli;
Dylai holl gyrff cyfiawnder fod yn rhan o Fesur yr Iaith Gymraeg 2011 a gwasanaethau gan grwneriaid ar gael yn Gymraeg;
Codi'r oedran cyfrifoldeb cyfreithiol o 10 i o leiaf 12 oed yn debyg i'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]