David Lloyd Jones, Arglwydd Lloyd-Jones
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lloyd-Jones | |
---|---|
![]() | |
Ynad o Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 2 Hydref 2017 | |
Teyrn | Elizabeth II |
Rhagflaenwyd gan | Arglwydd Clarke oo Stone-cum-Ebony |
Arglwydd Ustus Apêl | |
Mewn swydd 1 Hydref 2012 – 1 Hydref 2017 | |
Manylion personol | |
Ganed | 13 Ionawr 1952 |
Addysg | Ysgol Ramadeg Bechgyn Pontypridd |
Alma mater | Coleg Downing, Caergrawnt |
Barnwr ac ysgolhaig cyfreithiol Cymreig yw David Lloyd Jones, yr Arglwydd Lloyd-Jones, Kt, PC, FLSW (ganwyd 13 Ionawr 1952). Ar hyn o bryd mae'n ynad yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig a gwasanaethodd ynghynt fel aelod o Lys Apêl Cymru a Lloegr ac fel cadeirydd Comisiwn y Gyfraith.
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Lloyd Jones ar 13 Ionawr 1952,[1] i William Elwyn Jones ac Annie Blodwen Jones (g. Lloyd-Jones).[2] Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Bechgyn Pontypridd.[3] Astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Downing, Caergrawnt: graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf Baglor yn y Celfyddydau (BA), a ddyrchafwyd yn ddiweddarach i radd Meistr yn y Celfyddydau (MA Cantab), a gradd dosbarth cyntaf Baglor Cyfreithiau (LLB).[4]
Roedd Lloyd Jones yn Gymrawd Coleg Downing, Caergrawnt rhwng 1975 a 1991.[3] Rhwng 1999 a 2005, roedd yn athro gwadd yn City University, Llundain.[5] Mae wedi ysgrifennu erthyglau sydd wedi'u cyhoeddi mewn nifer o gyfnodolion academaidd sy'n arbenigo yn y gyfraith.[2]
Gyrfa gyfreithiol[golygu | golygu cod y dudalen]
Galwyd Lloyd Jones i'r bar ym 1975 (Middle Temple). Daeth yn gofnodydd ym 1994 a gwasanaethodd fel Cwnsler y Goron iau (Cyfraith Gwlad) rhwng 1997 a 1999.[2] Daeth Lloyd Jones yn Gwnsler y Frenhines ym 1999. Yn 2009, datgelwyd iddo gael ei dalu mwy na £1 miliwn am ei ran yn Ymchwiliad y Sul Gwaedlyd.[6]
Ar 3 Hydref 2005, fe'i penodwyd yn farnwr Uchel Lys, ac fe'i neilltuwyd i Adran Mainc y Frenhines. Gwasanaethodd fel barnwr llywyddol ar Gylchdaith Cymru a Chaer a chadeirydd Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg rhwng 2008 a 2011.[3] Ar 1 Hydref 2012, penodwyd Lloyd Jones yn Arglwydd Ustus Apêl, ac fe’i penodwyd i’r Cyfrin Gyngor ar 7 Tachwedd 2012.[7]
Cyngor Cyfraith Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu i'r Arglwydd Lloyd-Jones awgrymu wrth Lywodraeth Cymru yr angen i sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru. Daeth hwnnw i fodolaeth gan chwarae rhan hefyd yn natblygiad Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru yn 2019.
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 2005, ar ôl cael ei benodi'n farnwr Uchel Lys, derbyniodd yr apwyntiad arferol o farchog gwyryf. Ar 14 Chwefror 2006, cafodd ei urddo'n farchog ym Mhalas Buckingham gan y Frenhines Elizabeth II.[8]
Fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Aberystwyth yn 2012.[4] Dyfarnwyd gradd anrhydeddus iddo gan Brifysgol Abertawe yn 2014.[9] Yn 2016, cafodd ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (FLSW).[5][10]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Senior Judiciary". Judiciary of England and Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2012.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "JONES, Rt Hon. Sir David Lloyd". Who's Who 2015. A & C Black. Hydref 2014. Cyrchwyd 13 Ionawr 2015.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Mr. Justice Lloyd Jones". Boundary Commission for Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2012.
- ↑ 4.0 4.1 "High Court Fellow". News. University of Aberystwyth. 13 Goffennaf 2012. Cyrchwyd 13 Ionawr 2015. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ 5.0 5.1 'JONES, Rt Hon. Sir David Lloyd', Who's Who 2017, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2017; online edn, Oxford University Press, 2016; online edn, Tachwedd 2016 adalwyd 22 Gorffennaf 2017
- ↑ Swaine, Jon (5 Chwefror 2009). "Bloody Sunday inquiry pays 14 lawyers more than £1m". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 13 Ionawr 2015.
- ↑ "Orders for 7 November 2012" (PDF). Privy Council Office.
- ↑ "Honours and Awards". The London Gazette (57922). 10 March 2006. Cyrchwyd 13 Ionawr 2015.
- ↑ "The Rt. Hon. Sir David Lloyd Jones". Honoray Awards. Swansea University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ionawr 2015. Cyrchwyd 13 Ionawr 2015.
- ↑ "The Right Honourable Sir David Lloyd Jones". Learned Society of Wales. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2017.