Jeremy Miles

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jeremy Miles
AM
Jeremy Miles AM (28170809995).jpg
Jeremy Miles yn 2016
Cwnsler Cyffredinol Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
16 Tachwedd 2016
Prif Weinidog Carwyn Jones
Mark Drakeford
Rhagflaenwyd gan Mick Antoniw
Arweinydd ar Brexit
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Rhagfyr 2018
Prif Weinidog Mark Drakeford
Rhagflaenwyd gan Mark Drakeford
Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru
dros Gastell-nedd
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Ebrill 2016
Rhagflaenwyd gan Gwenda Thomas
Mwyafrif 2,923 (11.5%)
Manylion personol
Plaid wleidyddol Llafur Cymru
Cabined Cwnsler Cyffredinol Cymru

Gwleidydd Llafur Cymru yw Jeremy Miles sydd wedi cynrychioli etholaeth Castell-nedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ers etholiad 2016.[1]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Dewiswyd Miles fel ymgeisydd newydd Llafur Cymru dros etholaeth Castell-nedd ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 yn dilyn ymddeoliad yr aelod blaenorol Gwenda Thomas.[2] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,468 o'r 25,363 pleidlais a fwriwyd (37.3%).[3]

Fe'i enwebwyd yn Cwnsler Cyffredinol Cymru ar 3 Tachwedd 2017 gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Cadarnhawyd y swydd drwy bleidlais ar 14 Tachwedd 2017

Ym Mawrth 2018, cyflwynodd ddeddfwriaeth ddrafft a fyddai'n creu cyfundrefn i ddatblygu llyfr statud o Gyfraith Gyfoes Cymru, a fyddai'n gwneud Cymru y cyntaf o wledydd Prydain i drefnu ei chyfreithiau yn y ffordd yma. Byddai'r llyfr statud yn cael ei gynllunio i wella hygyrchedd i Ddeddfau Cymru ar gyfer cyfreithwyr a'r boblogaeth yn gyffredinol.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Miles yn un o'r tri aelod hoyw agored cyntaf o Gynulliad Cymru ar ei etholiad yn 2016.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 AC hoyw neu lesbiaidd: 'Carreg filltir mewn democratiaeth' , BBC Cymru Fyw, 6 Mai 2016. Cyrchwyd ar 9 Mai 2016.
  2. Martin Shipton. Economy Minister Edwina Hart and former deputy minister Gwenda Thomas to stand down as AMs at next Assembly elections , Wales Online, 19 Mehefin 2015. Cyrchwyd ar 9 Mai 2016.
  3.  Castell-nedd Etholaeth (Cynulliad). BBC Cymru Fyw. Adalwyd ar 9 Mai 2016.
  4.  Wales bill set to overhaul legislation (26 Mawrth 2018). Adalwyd ar 16 Ionawr 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]