Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Sefydlwyd Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r modd y gweithredir y system gyfiawnder yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei adroddiad ar 24 Hydref 2019.[1]

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Logo'r Comisiwn
Carwyn Jones, Sefydlydd y Comisiwn

Ym mis Medi 2017, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod yn sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i fwrw golwg ar y modd y mae’r system gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu ac i bennu gweledigaeth hirdymor ar ei chyfer.[2] Daeth y Comisiwn o dan arweinyddiaeth wleidyddol Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles A.C.[3]

Dechreuodd y Comisiwn ar ei waith ym mis Rhagfyr 2017, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Lloegr a Chymru.

Edrychodd y Comisiwn ar:

gyfiawnder troseddol a phlismona; cyfiawnder sifil, masnachol, teuluol a gweinyddol; mynediad at gyfiawnder; addysg a hyfforddiant yn y gyfraith; proffesiynau ac economi’r gyfraith; a’r awdurdodaeth gyfreithiol. Rhoddod y Comisiwn alwad am dystiolaeth ar 27 Chwefror 2018 gan gynnal digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru i’w helpu i lywio ei waith.

Cylch gorchwyl[golygu | golygu cod]

Adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol, gyda'r nod o:[4]

  • Hyrwyddo gwell canlyniadau o ran mynediad at gyfiawnder, gostwng nifer yr achosion o droseddu a hybu'r broses adsefydlu
  • Sicrhau bod y trefniadau awdurdodaethol ac addysg gyfreithiol yn adlewyrchu ac yn edrych ar swyddogaeth cyfiawnder yn llywodraethiant a ffyniant Cymru yn ogystal â materion neilltuol sy'n codi yng Nghymru
  • hyrwyddo cadernid a chynaliadwyedd sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru a sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl i ffyniant Cymru.

Derbyniodd y Comisiwn tystiolaeth ac ymatebion gan weithurwyr cyfreithiol yng Nghymru, cyrff ac unigolion.[5]

Cyngor Cyfraith Cymru[golygu | golygu cod]

Fel rhan o'r Comisiwn, braeniarwyd y tir ar gyfer sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru a ddaeth i fodolaeth yn 2019 er mwyn hyrwyddo addysg gyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru.[6]

Daeth cynnig y Comisiwn ar gyfer sefydlu Cyngor o'r fath yn dilyn yr awgrym a wnaed gan yr Arglwydd Lloyd-Jones i sefydlu corff i hyrwyddo astudiaeth o gyfraith Cymru. Mewn araith yng Nghynhadledd Cymru'r Gyfraith yn Abertawe yn 2017, dywedodd yr Arglwydd Lloyd-Jones fod angen corff o'r fath er mwyn helpu i gydlynu gwaith y sefydliadau academaidd a sefydliadau eraill wrth i gyfraith Cymru barhau i ddatblygu a rhannu arbenigedd er mwyn helpu i osgoi 'ailddyfeisio'r olwyn' pan gyflwynir cyfraith newydd.[6] Cadarnhawyd penodiad Arglwydd Lloyd-Jones gan Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinnol Cymru ym mis Hydref 2021.[7]

Cyhoeddi Adroddiad y Comisiwn[golygu | golygu cod]

Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol Cymru hyd at 13 Mai 2021

Cyhoeddiad adroddiad y Comisiwn ar 24 Hydref 2019.[8]

Cafwyd sawl argymhelliad.[9][10]

Ymysg yr agymhelliad gafodd fwyaf o sylw oedd yr argymhelliad i:

Ddatganoli pwerau cyfiawnder i Gymru[11]
Creu "cyfreithiau Cymru" sydd ar wahân i gyfreithiau Lloegr a Chymru;
Adran gyfiawnder newydd yn Llywodraeth Cymru i gael ei harwain gan weinidog o'r cabinet;
Sefydlu uchel lys a llys apêl ei hun a barnwr o Gymru yn rhan o'r Goruchaf Lys;
Plismona a pholisïau atal troseddu gan gynnwys materion iechyd meddwl a chamdriniaeth cyffuriau i'w datganoli;
Dylai holl gyrff cyfiawnder fod yn rhan o Fesur yr Iaith Gymraeg 2011 a gwasanaethau gan grwneriaid ar gael yn Gymraeg;
Codi'r oedran cyfrifoldeb cyfreithiol o 10 i o leiaf 12 oed yn debyg i'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban.

Cynigion[golygu | golygu cod]

Cynhyrchodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru adroddiad yn 2019 yn asesu’r system gyfiawnder yng Nghymru am y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd. Beirniadodd yr adroddiad y modd y mae llywodraeth y DU yn ariannu cyfiawnder yng Nghymru, gan nodi bod y toriadau i'r gyllideb cyfiawnder gan lywodraeth y DU "ymhlith y mwyaf difrifol o'r holl doriadau cyllideb adrannol". Mae'r adroddiad yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei harian ei hun i geisio "lliniaru effeithiau niweidiol y polisïau hyn". Mae 40% o gyllid cyfiawnder yn cael ei gyfrannu yng Nghymru yn ogystal ag arian trethdalwyr Cymreig a delir i San Steffan sy’n cael ei ailddosbarthu yn ôl i Gymru. Penderfynodd yr adroddiad y dylai "cyfiawnder gael ei benderfynu a'i gyflwyno yng Nghymru". [12]
I grynhoi, gwnaeth yr adroddiad yr argymhellion a ganlyn:
  • dylai cyfrifoldebau cyfiawnder gael eu dal gan un Aelod Seneddol ac adran o Gymru
  • ffurfio Bwrdd Cyfiawnder Troseddol i Gymru
  • dylai data cyfiawnder troseddol fod yn benodol i Gymru a mwy o fanylder a defnydd cynyddol o ddewisiadau carchar eraill, yn enwedig ar gyfer menywod.[13]
    Sefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru yn dilyn argymhellion gan y Comisiwn Cyfiawnder annibynnol yng Nghymru yn 2019 a nododd weledigaeth y system gyfreithiol yng Nghymru. Cadeiriwyd y comisiwn gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr. [14] Sefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru er mwyn hybu addysg, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth gyfreithiol yng nghyfraith Cymru . Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi datblygiad economaidd a chynaliadwyedd y gyfraith yng Nghymru. [14] Roedd y cyfarfod cyntaf wedi'i gynllunio ar gyfer Tachwedd 2021. [15] Mae comisiwn Thomas a’r cyfryngau cenedlaethol yng Nghymru hefyd wedi galw am ddatganoli plismona. [16]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. llyw.cymru; adalwyd 4 Rhagfyr 2020
  2. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-11-08. Cyrchwyd 2019-11-07.
  3. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/46420096
  4. https://llyw.cymru/comisiwn-ar-gyfiawnder-yng-nghymru/cylch-gorchwyl
  5. https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-08/tystiolaeth-atodol-llywodraeth-cymru-ir-comisiwn-ar-gyfiawnder-yng-nghymru-cyfiawnder-teuluol.pdf
  6. 6.0 6.1 https://llyw.cymru/cynlluniau-am-cyngor-cyfraith-cymru
  7. "Penodi'r Arglwydd Lloyd-Jones yn Llywydd Cyngor Cyfraith Cymru". Llywodraeth Cymru. 8 Hydref 2021.
  8. https://llyw.cymru/adroddiad-comisiwn-ar-gyfiawnder-yng-nghymru
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-07. Cyrchwyd 2019-11-07.
  10. https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/556310-comisiwn-galw-ddatganoli-pwerau-cyfiawnder-gymru
  11. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50151785
  12. "Commission on Justice in Wales report". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-07.
  13. "Criminal justice in Wales: Two years since landmark report". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-04-15. Cyrchwyd 2022-04-07.
  14. 14.0 14.1 "Law Council of Wales Executive Committee members announced". Legal News (yn Saesneg). 2021-10-28. Cyrchwyd 2022-04-29.
  15. "Inaugural Law Council of Wales meeting set for November". Legal News (yn Saesneg). 2021-09-30. Cyrchwyd 2022-06-09.
  16. "Senedd Explained: Why is policing and justice not devolved to Wales?". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-04. Cyrchwyd 2022-04-29.