Neidio i'r cynnwys

Jo Stevens

Oddi ar Wicipedia
Jo Stevens
AS
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Yn ei swydd
Dechrau
5 Gorffennnaf 2024
Rhagflaenydd David T. C. Davies
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
Yn ei swydd
7 Hydref 2016 – 27 Ionawr 2017
Rhagflaenydd Paul Flynn
Olynydd Christina Rees
Cyfreithiwr Cyffredinol Cysgodol
Yn ei swydd
13 Ionawr 2016 – 6 Hydref 2016
Arweinydd Jeremy Corbyn
Aelod Seneddol
dros Canol Caerdydd
Yn ei swydd
7 Mai 2015 – 30 Mai 2024
Rhagflaenydd Jenny Willott
Olynydd cafodd ei diddymu
Mwyafrif 4,981 (12.9%)
Aelod Seneddol
dros Dwyrain Caerdydd
Yn ei swydd
Dechrau
4 Gorffenaf 2024
Rhagflaenydd etholaeth newydd
Mwyafrif 9,097 (23.3%)
Manylion personol
Ganwyd (1966-09-06) 6 Medi 1966 (57 oed)
Abertawe, Cymru
Plaid wleidyddol Llafur
Alma mater Prifysgol Manceinion
Prifysgol Fetropolitan Manceinion
Gwefan jostevens.co.uk

Gwleidydd Llafur Cymreig yw Joanna Meriel "Jo" Stevens[1] (ganwyd 6 Medi 1966)[2] sydd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers etholiad cyffredinol 2024.[3] Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros etholaeth Caerdydd Canolog yn etholiad cyffredinol Mai 2015.[4]

Bywyd cynnar a gyrfa

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Stevens yn Abertawe a magwyd yn yr Wyddgrug, sir y Fflint. Mynychodd Ysgol Uwchradd Argoed ac Ysgol Uwchradd Elfed.[5]

Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion a cwblhaodd yr Arholiad Cyfreithwyr Proffesiynol yng ngholeg Polytechnig Manceinion yn 1989.[6]

Cyn dod yn aelod seneddol, roedd Stevens yn Gyfarwyddwr Trefniant a Phobl gyda Thompsons Solicitors.[5]

Aelod Seneddol

[golygu | golygu cod]

Etholwyd Stevens fel Aelod Seneddol dros ganol Caerdydd, ar 7 Mai 2015 gyda mwyafrif o 4,981, gan guro y deiliad Democratiaid Rhyddfrydol, Jenny Willott.[4]

Yn ad-drefniant cabinet cysgodol Jeremy Corbyn yn Ionawr 2016 fe'i hapwyntiwyd yn cyfreithiwr cyffredinol cysgodol a gweinidog dros gyfiawnder cysgodol.

Yn ad-drefniant mis Hydref 2016 yn dilyn ail-ethol Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid daeth yn Ysgrifennydd Cymru cysgodol.[7] Ymddiswyddodd ar 27 Ionawr 2017 mewn protest am fod Corbyn yn gorfodi ASau Llafur i bleidleisio o blaid Erthygl 50.[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. The London Gazette: no. 61230. p. 9127. 18 May 2015.
  2. "Jo Stevens MP". myparliament.info (yn Saesneg). MyParliament. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Awst 2017. Cyrchwyd 11 Awst 2017.
  3. "Cadarnhau Jo Stevens fel Ysgrifennydd Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-05. Cyrchwyd 2024-07-05.
  4. 4.0 4.1 "Cardiff Central Parliamentary constituency".
  5. 5.0 5.1 "Democracy Club CVs" Archifwyd 2015-05-18 yn y Peiriant Wayback..
  6. "Jo Stevens – About".
  7. "As it happened: Steven Woolfe in hospital and Labour reshuffle".
  8. Brexit: Jo Stevens yn ymddiswyddo o'r fainc flaen , BBC Cymru Fyw, 27 Ionawr 2017.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]