Prifysgol Manceinion

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Manceinion
Mathprifysgol, cyhoeddwr mynediad agored, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2004 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolELIXIR UK Edit this on Wikidata
LleoliadManceinion Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.4656°N 2.2336°W Edit this on Wikidata
Cod postM13 9PL Edit this on Wikidata
Map

Prifysgol ddinesig ym Manceinion, Lloegr yw Prifysgol Manceinion. Mae'r brifysgol yn aelod o'r Grŵp Russell, sef grwp o brifysgolion sy'n canolbwyntio ar ymchwil. Ffurfiwyd y brifysgol yn 2004 gyda uno Victoria University of Manchester (Prifysgol Fictoria Manceinion) a UMIST (Sefydliad Gwyddoniaeth a Technoleg Prifysgol Manceinion) ar y cyntaf o Hydref. Mae'r brifysgol a'r hen sefydliadau yn brolio 23 Llawryfog Nobel ymysg cyn fyfyrwyr a staff. Yn y flwyddyn academaidd 2007/08 roedd gan y brifysgol 40,000 o fyfyrwyr yn dilyn 500 rhaglen academaidd a mwy na 10,000 aelod o staff. Dyma'r brifysgol fwyaf yn y Deyrnas Unedig sydd wedi sefydlu ar un safle. Mae gan y prifysgol incwm blynyddol o £637 miliwn.

Map y campws

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]