Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cymru
Flag of Wales 2.svg

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar:
wleidyddiaeth a llywodraeth
Cymru



gweld  sgwrs  golygu

Daeth swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fodolaeth ym mis Hydref 1964, a Jim Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli oedd y cyntaf i'w llenwi. Penderfynodd llywodraeth San Steffan alluogi'r Ysgrifennydd i reoli gwariant ar ambell wasanaeth cyhoeddus a fu gynt o dan reolaeth adrannau eraill. Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym mis Ebrill 1965.

Yn ystod y 1980au a'r 1990au llywodraeth Geidwadol oedd mewn grym yn San Steffan. O 1987 tan 1997 roedd yr ysgrifenyddion i gyd yn cynrychioli seddau o tu allan i Gymru oherwydd diffyg cynrychiolaeth y Toriaid yng Nghymru - 1987 - 8 aelod, ac 1992 - 6 aelod.

Yn dilyn sefydliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth newid mawr yn rôl yr Ysgrifennydd Gwladol, gan fod y rhan fwyaf o'i swyddogaethau bellach yn nwylo'r corff newydd. Diddymwyd y Swyddfa Gymreig, ond cadwyd swydd yr ysgrifennydd gwladol, gan ei wneud yn bennaeth ar swyddfa newydd, Swyddfa Cymru.

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru (1998) gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru fynychu sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a siarad ynddynt yn ogystal â chael arian o'r Senedd. Fodd bynnag, mae'n gorfod trosglwyddo hynny i'r Cynlliad Cenedlaethol, heblaw am yr arian sydd yn angenrheidiol i redeg ei swyddfa ei hun. Mae'n rhaid iddo ymgynghori â'r Cynulliad dros raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hefyd.

Dalwyr y swydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd 16 Ysgrifennydd Gwladol, gyda 3 ohonynt (David Hunt, Paul Murphy a Peter Hain) wedi eu penodi i'r swydd ar fwy nag un achlysur. Mae pedwar ohonynt, sef yr Arglwydd Morris o Aberafan (John Morris), Nicholas Edwards, Barwn Crughywel, Ron Davies, a’r Barwn Cledwyn o Benrhos (Cledwyn Hughes) wedi traddodi darlith flynyddol Archif Wleidyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Peter Thomas, y Ceidwadwr cyntaf yn y swydd, oedd yr Ysgrifennydd Gwladol cyntaf i gynrychioli sedd y tu allan i Gymru.[1]

Mae nifer o Ysgrifenyddion Gwladol hefyd wedi dal swyddi dylanwadol eraill: daeth Is-iarll Tonypandy (George Thomas) yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, daeth William Hague yn Arweinydd y Ceidwadwyr a daeth Alun Michael yn Brif Ysgrifennydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rhestr Ysgrifennyddion Gwladol Cymru

Dileu'r swydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae dyfodol y swydd wedi cael ei gwestiynu nifer o weithiau ers dyfodiad datganoli. Galwyd am ddileu’r swydd gan 'Uned y Cyfansoddiad' yn 2001, a gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Yn ei ddarlith yn 2013, galwodd yr Arglwyd Morris am ddileu’r swydd gan fod y rhan fwyaf o’r dyletswyddau wedi cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad gan ddweud. Dywedodd:

Y pumed olwyn yn y goets seneddol ydyw bodolaeth Ysgrifennydd Gwladol yn yr Alban a Chymru. Mae dau is-weinidog yn Swyddfa Cymru, un yn Nhŷ’r Cyffredin ac un newydd sbon am y tro cyntaf erioed yn Nhŷ’r Arglwyddi. Beth yn y byd y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd, Duw a ŵyr!”

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]